Rydym yn chwilio am arweinwyr treftadaeth y dyfodol i helpu llywio ein prosesau dyfarnu grantiau heddiw

Rydym yn chwilio am arweinwyr treftadaeth y dyfodol i helpu llywio ein prosesau dyfarnu grantiau heddiw

Eilish McGuinness
Mae ein Prif Weithredwr yn annog pobl ifanc i wneud cais am ein rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol newydd a chael dweud eu dweud yn y ffordd rydym yn ariannu treftadaeth.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio am amser hir yn y sector treftadaeth, ond cymerodd amser i mi gael profiad ymarferol o dreftadaeth am y tro cyntaf, trwy brosiect a fu'n cofnodi adeiladau hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon yn ystod fy ngradd ôl-raddedig.

Petai ein Rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol – a lansiwyd yn gynharach y mis yma ac sydd ar agor tan 10 Rhagfyr – wedi bod ar gael bryd hynny, byddwn i wedi neidio ar y cyfle i ymgeisio iddi. Felly rwyf wrth fy modd y byddwn ni, o 2026 ymlaen, yn croesawu ac yn cefnogi pobl ifanc 18–30 oed sy'n frwd dros achub adeiladau hanesyddol, amddiffyn yr amgylchedd naturiol a gwarchod traddodiadau diwylliannol i ymuno â'n sefydliad am gyfle â thâl unigryw am 18 mis. Rydyn ni wir eisiau i chi wneud cais!

Dechrau da i yrfaoedd ym maes treftadaeth, does dim angen profiad

Yn ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, mae cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad yn un o'r pedair egwyddor fuddsoddi sy'n sail i'n holl benderfyniadau, oherwydd i ni eisiau sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i rannu ac archwilio treftadaeth.

Rydw i wedi cwrdd â phobl ifanc di-rif sy'n angerddol dros dreftadaeth lle maen nhw'n byw. Ond rydw i hefyd wedi clywed gan yr un bobl ifanc pa mor anodd y gall fod i gymryd rhan a chael y profiad sydd ei angen i gyflawni ymgysylltiad pwrpasol.

Dyluniwyd ein rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol gyda’r her honno mewn golwg; mae wedi'i dylunio i gynyddu amrywiaeth gweithluoedd ac arweinyddiaeth treftadaeth a darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau ac archwilio treftadaeth.

Bydd y rolau 18 mis â thâl yn cynnwys cysgodi ein pwyllgorau ar draws y DU, ymweld â phrosiectau treftadaeth, rhwydweithio ag arbenigwyr treftadaeth a chwarae rhan weithredol wrth benderfynu ble rydym yn buddsoddi ein harian. Darperir hyfforddiant ac anogaeth lawn drwy gydol y rhaglen. Rydw i wir yn credu y gall y cyfle hwn helpu rhoi hwb i yrfaoedd arweinwyr treftadaeth y dyfodol. Ac yn bwysicach fyth, does dim angen profiad blaenorol i wneud cais.

Da i bobl ifanc, da i dreftadaeth

Rwy'n gwybod y gall cyfleoedd fel hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol – i'r bobl ifanc dan sylw a'r sector treftadaeth yn ehangach.

Five young adults standing in a park wearing matching T-shirts that say I am a force of nature
Pump o hyfforddeion New to Nature, gan gynnwys Lisa Manning, yn y canol. Credyd Groundwork.

Rhwng 2022 a 2023 fe wnaethom fuddsoddi £3 miliwn yn Newydd i Natur, rhaglen i ddarparu lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc yn y sector treftadaeth naturiol. Cynigiodd wyth deg dau o sefydliadau lletya leoliadau gwaith i 98 o hyfforddeion, gan ddysgu gwersi gwerthfawr am recriwtio cynhwysol ar hyd y ffordd. Aeth un o'r hyfforddeion, Lisa Manning, ymlaen i fod yn Swyddog Polisi i Wildlife and Countryside Link, cynghrair amgylchedd a bywyd gwyllt fwyaf Lloegr, ac fe'i henwyd yn Newidiwr Gêm y Dyfodol gan y Loteri Genedlaethol yn gynharach eleni.

Anelodd ein rhaglen Kick the Dust at wneud treftadaeth yn fwy perthnasol i bobl 11–25 oed. Rhwng 2017 a 2023, roedd dros 5,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth ar draws y DU ar unrhyw un adeg. Rhoddodd ein hariannu amser ac adnoddau i sefydliadau treftadaeth dreialu dulliau newydd o ymgysylltu â phobl ifanc hefyd. Cafodd y cyfranogwyr brofiad treftadaeth ymarferol gwerthfawr – aeth un, Niamh Kelly, ymlaen i rôl gyflogedig fel Cynorthwyydd Prosiect a Llysgennad Ieuenctid yng Ngogledd Iwerddon – a gwnaeth rhai sefydliadau newidiadau strwythurol i ymwreiddio'n barhaol yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu.

Mewn mannau eraill, fe wnaethom ariannu rhaglen gwirfoddolwyr digidol Wentworth Woodhouse, sydd wedi darparu profiad gwerthfawr ac arwain at waith â thâl i'r cyfranogwyr, gan roi hwb i gynulleidfa ac ymdrechion codi arian y tŷ hanesyddol. Ac mae ein buddsoddiad yn galluogi Loughborough Bell Foundry i greu partneriaethau â phrifysgolion a cholegau lleol i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth a gwirfoddoli, gan ddiogelu sgiliau treftadaeth sydd mewn perygl a sicrhau dyfodol ffowndri clychau olaf Prydain sy'n dal i weithio. Mae un myfyriwr a wirfoddolodd, Kira Mills, wedi symud ymlaen i rôl amser llawn â thâl.

An older man directing two younger people who are making a film
Gwirfoddolwyr digidol yn Wentworth Woodhouse.

Lleisiau a safbwyntiau newydd

Mae'n bwysig i ni fod y rhan fwyaf o'n penderfyniadau ariannu yn cael eu gwneud yn uniongyrchol gan bobl sydd â gwybodaeth ac arbenigedd lleol. Bydd gwahodd pobl ifanc i bob un o'n chwe phwyllgor ardal a gwlad i gyflwyno lleisiau a safbwyntiau ffres yn cyfoethogi'r broses benderfyniadau honno ymhellach fyth. Ac yn ei dro, bydd yn rhoi hwb i sgiliau a phrofiad y bobl ifanc hynny ac yn meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr treftadaeth. Mae'n rhaglen gyffrous dros ben!

Os ydych chi – neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod – yn chwilfrydig ac yn angerddol dros dreftadaeth ac eisiau meithrin sgiliau gyrfa a hyder gwerthfawr, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi. Rydw i'n edrych ymlaen at gwrdd â'r 12 ymgeisydd llwyddiannus y flwyddyn nesaf a chydweithio tuag at ein gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...