Pecyn recriwtio rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Pecyn recriwtio rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

See all updates
Ydych chi rhwng 18 a 30 oed ac yn angerddol dros dreftadaeth? Gallwch gael eich talu i ennill profiad yn y sector treftadaeth a'n helpu i sicrhau bod ein hariannu'n adlewyrchu amrywiaeth a safbwyntiau'r cymunedau a wasanaethwn.

Disgrifiad o'r Rôl

Teitl y rôl: Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol

Lleoliad:  mwy nag un (Lloegr Llundain a'r De, Canolbarth a'r Dwyrain a'r Gogledd, a hefyd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon) 

Nifer y rolau: 12 (dau ymhob ardal/gwlad)

Hyd y rôl: 18 mis

Tâl: £200 fesul cyfarfod pwyllgor a fynychir, ynghyd â threuliau teithio, llety a bwyd

Dyddiad dechrau: 1 Mawrth 2026, ynghyd ag un diwrnod cynefino ym mis Chwefror 2026

Ymrwymiad o ran amser: 12 diwrnod dros 18 mis, gan gynnwys:

  • 3 diwrnod o gynefino a hyfforddiant (gan gynnwys sesiynau hyfforddi)
  • 6 chyfarfod pwyllgor (a gynhelir bob tri mis)
  • 1 cyfarfod y Bwrdd
  • 2 ymweliad prosiect
  • Gweithdai hyfforddi Board Boost (Medi–Tachwedd 2026), a gyflwynir gan Young Trustees Movement
  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd, fel darllen papurau pwyllgor ymlaen llaw

Terfyn amser ymgeisio: 10 Rhagfyr 2025 am 11:59pm

Gwnewch gais am raglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol.

Ynghylch Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Ni yw ariannwr mwyaf treftadaeth y DU Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £9.5 biliwn i brosiectau sy'n gwarchod ac yn dathlu treftadaeth gyfoethog ac amrywiol y DU, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Treftadaeth yw unrhyw beth o'r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol – o adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i amgueddfeydd, casgliadau, traddodiadau, storïau a mwy. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol. Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Un o themâu craidd ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, yw cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad. Rydym am sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd ac archwilio treftadaeth. Gallwn wneud hynny drwy gynyddu amrywiaeth gweithluoedd ac arweinyddiaeth treftadaeth a darparu cyfleoedd mwy cyfartal ar gyfer ymwneud a chyfranogiad gweithredol.

Ynghylch rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol

Mae'n gyfle i bobl 18–30 oed gael profiad pwrpasol o brosesau ariannu a llywodraethu treftadaeth drwy gysgodi ein pwyllgorau.

Mae'r rhaglen wedi'i dylunio i rymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr treftadaeth, i'ch helpu i gael eich troed yn y drws a rhoi hwb i ddechrau eich gyrfa. Byddwch yn cael profiad o wneud penderfyniadau a rhoi grantiau, cipolwg ar sut mae ariannwr DU gyfan yn gweithredu, cyfrannu at gyflawni ein strategaeth a helpu i siapio dyfodol y sector treftadaeth.

Dros 18 mis, byddwch yn cymryd rhan yn weithredol yn ein cyfarfodydd pwyllgor, gan fod yn rhan o drafodaethau a chefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd. Yn y cyfarfodydd hyn mae ceisiadau am ariannu'n cael eu hadolygu a phenderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch pa brosiectau treftadaeth y byddwn yn buddsoddi ynddynt. Er na fydd gennych hawliau pleidleisio na chyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw benderfyniadau a wneir, bydd eich llais a'ch safbwyntiau newydd yn cael eu gwerthfawrogi wrth siapio canlyniadau. Byddwch hefyd yn arsylwi un o gyfarfodydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch o fyrddau na phwyllgorau. Byddwn yn darparu gweithdai cynefino a hyfforddi cynhwysfawr i chi, a byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y cyfnod gan fydi a grŵp croesawgar o gymheiriaid. Os ydych chi'n chwilfrydig, yn angerddol dros dreftadaeth ac eisiau cael effaith gadarnhaol tra'n meithrin sgiliau gyrfa a hyder gwerthfawr, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi.

Ydw i'n gymwys?

Os gallwch chi ateb ydw i'r holl gwestiynau hyn, rydych chi'n gymwys i wneud cais i fod yn Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol:

  • Ydych chi 18–30 oed ar adeg y cais?
  • Ydych chi'n meddu ar ychydig neu ddim profiad o gwbl o fyrddau neu bwyllgorau?
  • Ydych chi'n deall ac yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiad, yn enwedig yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc a grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol?
  • Ydych chi ar gael i fynychu cyfarfodydd pwyllgor, arsylwi cyfarfod o'r Bwrdd a chymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a chymorth gan gymheiriaid dros 18 mis?

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol yn cysgodi un o'n pwyllgorau, byddwch yn:

  • mynychu chwe chyfarfod pwyllgor, yn cymryd rhan yn weithredol mewn trafodaethau ac yn dysgu sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud
  • darllen a myfyrio ar bapurau pwyllgor a ddarperir cyn pob cyfarfod fel y gallwch gyfrannu'n bwrpasol (gyda chefnogaeth gan eich bydi – aelod o'r pwyllgor)
  • rhannu eich barn am geisiadau prosiectau treftadaeth a datblygu gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r sector
  • mynychu un cyfarfod o'r Bwrdd i weld sut mae penderfyniadau strategol yn cael eu gwneud ar y lefel uchaf
  • ymweld â dau brosiect treftadaeth i weld sut mae penderfyniadau ariannu'n effeithio ar bobl a lleoedd
  • ymuno â sesiynau hyfforddi a datblygu i adeiladu eich dealltwriaeth o brosesau llywodraethu a datblygu eich sgiliau personol a phroffesiynol.

Sut fyddaf ar fy ennill?

Fel Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol, byddwch yn:

  • cael tâl o £200 fesul cyfarfod pwyllgor a sesiwn hyfforddi a fynychir, ynghyd â threuliau teithio, llety a bwyd
  • dod i wybod am lywodraethu treftadaeth a'r ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar bolisi a gwneud penderfyniadau treftadaeth
  • adeiladu hyder a sgiliau arweinyddiaeth drwy gymryd rhan yn weithredol mewn trafodaethau a'r broses rhoi grantiau
  • derbyn hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad, tyfu eich sgiliau a manteisio i'r eithaf ar y rhaglen 18 mis
  • mynychu gweithdai hyfforddi rhaglen Board Boost y Young Trustees Movement rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2026
  • adeiladu cysylltiadau yn y sector treftadaeth drwy eich bydi, aelodau eraill y pwyllgor ac arweinwyr treftadaeth
  • derbyn cefnogaeth bwrpasol gan eich bydi, a fydd yn eich helpu i ddeall yr ardal y mae eich pwyllgor yn ei gwmpasu, sut mae pwyllgorau'n gweithio ac yn ateb cwestiynau am bapurau pwyllgor
  • ymuno â rhwydwaith o arweinwyr y dyfodol o'r un anian sydd wedi ymrwymo i greu sector treftadaeth amrywiol a chynhwysol

Manyleb person 

Rydym yn chwilio am Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol sy'n:

  • angerddol dros dreftadaeth eich ardal neu wlad (wedi'i ddangos drwy wirfoddoli, astudio neu ddiddordeb personol), meddu ar ddealltwriaeth o werth treftadaeth a'i heffaith ar bobl a lleoedd
  • chwilfrydig ac yn barod i ddysgu, yn rhagweithiol, sydd eisiau deall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn y sector treftadaeth a thyfu eich sgiliau (nid oes angen profiad blaenorol)
  • cyfathrebwyr da, yn gyfforddus i wrando'n weithredol, gofyn cwestiynau meddylgar a chymryd rhan yn bwrpasol mewn trafodaethau grŵp
  • dadansoddol, gan allu adolygu gwybodaeth ysgrifenedig yn feddylgar, myfyrio ar wahanol safbwyntiau a phwyso a mesur gwybodaeth er mwyn llunio barn
  • chwaraewyr tîm, sy'n mwynhau gweithio gydag eraill, rhannu syniadau a chefnogi cymheiriaid mewn amgylchedd cydweithredol
  • gwydn, gan allu dysgu o heriau, addasu i sefyllfaoedd a datrys problemau; ac sydd
  • wedi'u halinio â'n gwerthoedd a'n hegwyddorion buddsoddi
  • wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad, gan gydnabod pwysigrwydd lleisiau amrywiol wrth wneud penderfyniadau a gallu cyfrannu at greu lleoedd cynhwysol

Y broses recriwtio

  1. Ceisiadau: cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol erbyn 10 Rhagfyr 2025.
  2. Llunio'r rhestr fer: bydd panel sy'n cynnwys Cadeirydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflwyno BusnesHyfforddai graddedig Cymrodoriaeth Windsor yn adolygu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr.
  3. Cyfweliadau: Bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad rhwng 12 a 16 Ionawr 2026, wyneb yn wyneb os yn bosibl, fodd bynnag bydd cyfweliadau ar-lein ar gael hefyd i sicrhau hygyrchedd a hyblygrwydd i bob ymgeisydd. Cynhelir y cyfweliadau gan banel sy'n cynnwys cadeirydd pwyllgor eich ardal neu wlad, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflwyno Busnes a hyfforddai graddedig Cymrodoriaeth Windsor.
  4. Penodi: bydd y panel cyfweld yn penderfynu pa ymgeiswyr sydd i'w penodi i'r rolau, a fydd yn dechrau ar 1 Mawrth 2026. Bydd eich cyfle cyntaf i gysgodi pwyllgor rhwng 3 a 12 Mawrth 2026, gan ddibynnu ar eich ardal neu wlad.

Sut i wneud cais

Cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol drwy ein porth recriwtio ar-lein erbyn 11:59pm ar 10 Rhagfyr 2025.

Cyfeiriwch at ein harweiniad ymgeisio a'n cwestiynau ac atebion (isod) i'ch helpu i gyflwyno cais cryf.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod ein prosesau recriwtio'n gynhwysol ac yn hygyrch ac yn annog unigolion o gefndiroedd amrywiol a chymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol i wneud cais.

Os oes angen i chi wneud cais mewn fformat gwahanol, neu fod angen addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o'r broses neu fod gennych unrhyw gwestiynau ynghylch gwneud cais, gyrrwch e-bost atom: decisionmakers@heritagefund.org.uk

Gwnewch gais am raglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol.

Manylion Rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol

Cyfnod cyn-benodi (hyd at 1 Mawrth 2026):

  • Cynefino fel grŵp (wyneb yn wyneb): cyflwyniad i'ch cyd-Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol, dysgu am sut mae'r Gronfa Treftadaeth a'n pwyllgorau'n gweithio a gosod disgwyliadau ar gyfer y rhaglen 18 mis (1 diwrnod).
  • Cynefino lleol: Wedi'i arwain gan eich tîm ardal neu wlad leol.
  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: cyflwyniad i strwythur y pwyllgor a'r papurau.
  • Cysgodi pwyllgor: Cyfarfod mis Mawrth (1 diwrnod).

Chwarter 1: Ebrill–Mehefin 2026:

  • Trosolwg rhithwir: Yr adran Cyflwyno Busnes a'r cylch ceisiadau grant.
  • Trosolwg rhithwir: Mentrau strategol Treftadaeth 2033.
  • Ymweld â phrosiect: wedi'i arwain gan y tîm lleol (1 diwrnod).
  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: paratoi ar gyfer y cyfarfod o'r pwyllgor a'r papurau.
  • Cymryd rhan mewn pwyllgor: Cyfarfod mis Mehefin (1 diwrnod).
  • Sesiwn hyfforddi gan gymheiriaid - set dysgu gweithredol (ALS) 1 (ar-lein): wedi'i harwain gan Gyfarwyddwr Lloegr, Llundain a'r De a Rheolwr Datblygu Gweithlu'r Gronfa Treftadaeth (1/2 diwrnod).
  • Holiadur diwedd chwarter: myfyrdodau ac anghenion cefnogi.

Chwarter 2: Gorffennaf-Medi 2026:

  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: datblygiad parhaus a pharatoi ar gyfer pwyllgor.
  • Cymryd rhan mewn pwyllgor: Cyfarfod mis Medi (1 diwrnod).
  • Holiadur diwedd chwarter: myfyrdodau ac anghenion cefnogi.
  • Gweithdy hyfforddi Board Boost Allanol.

Chwarter 3: Hydref–Rhagfyr 2026:

  • Sesiwn hyfforddi gan gymheiriaid ALS 2 (ar-lein): wedi'i harwain gan Gyfarwyddwr Lloegr, Llundain a'r De a Rheolwr Datblygu Gweithlu'r Gronfa Treftadaeth (1/2 diwrnod).
  • Ymweld â phrosiect: wedi'i arwain gan y tîm lleol (1 diwrnod).
  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: paratoi ar gyfer y cyfarfod o'r pwyllgor a'r papurau.
  • Gweithdy hyfforddi Board Boost Allanol.
  • Cymryd rhan mewn pwyllgor: Cyfarfod mis Rhagfyr (1 diwrnod).
  • Holiadur diwedd chwarter: myfyrdodau ac anghenion cefnogi.

Chwarter 4: Ionawr–Mawrth 2027:

  • Adolygiad hanner ffordd drwodd: cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi.
  • Sesiwn hyfforddi gan gymheiriaid ALS 3 (ar-lein): wedi'i harwain gan Gyfarwyddwr Lloegr, Llundain a'r De a Rheolwr Datblygu Gweithlu'r Gronfa Treftadaeth (1/2 diwrnod).
  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: paratoi ar gyfer y cyfarfod o'r pwyllgor a'r papurau.
  • Cymryd rhan mewn pwyllgor: Cyfarfod mis Mawrth (1 diwrnod).
  • Holiadur diwedd chwarter: myfyrdodau ac anghenion cefnogi.

Chwarter 5: Ebrill–Mehefin 2027:

  • Trafodaeth grŵp: myfyrio ar y flwyddyn gyntaf a rhannu adborth i lywio rhaglenni'r dyfodol.
  • Cymryd rhan mewn Pwyllgor a'r Bwrdd: Cyfarfod mis Mehefin (2 ddiwrnod).
  • Holiadur diwedd chwarter, gwerthuso ac adborth: myfyrdodau ac anghenion cefnogi.

Chwarter 6: Gorffennaf-Medi 2027:

  • Sesiwn hyfforddi gan gymheiriaid ALS 4 (ar-lein): wedi'i harwain gan Gyfarwyddwr Lloegr, Llundain a'r De a Rheolwr Datblygu Gweithlu'r Gronfa Treftadaeth (1/2 diwrnod).
  • Cyfarfod un-i-un gyda'ch bydi: myfyrdodau terfynol.
  • Dathlu a chydnabyddiaeth: rhannu profiadau a myfyrdodau drwy ein sianeli cyfathrebu, ardystiadau LinkedIn a llythyrau geirda.
  • Holiadur gwerthuso terfynol.

Cyfleoedd ychwanegol (i'w gadarnhau):

  • O ganlyniad i ddiddordebau ac anghenion a nodwyd mewn sesiynau hyfforddi gan gymheiriaid a chyfarfodydd un-i-un gyda'ch bydi, efallai y bydd cyfleoedd i Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol fynychu sesiynau briffio a gwybodaeth staff a digwyddiadau prosiectau treftadaeth i gefnogi eich dysgu a'ch datblygiad ymhellach a chael profiad o effaith ein hariannu.

Arweiniad ymgeisio

Dylai pob darpar ymgeisydd ddarllen y pecyn recriwtio hwn yn ofalus.

Rhowch sylw arbennig i adran y fanyleb person. Byddwn yn defnyddio'r meini prawf hyn i asesu a oes gennych y sgiliau a'r rhinweddau i ymgymryd â'r rôl, wrth i ni lunio'r rhestr fer ac yn y cyfweliad.

Llythyr eglurhaol

Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi gyflwyno llythyr eglurhaol sy'n ateb y cwestiwn: Pam mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol a sut mae eich sgiliau, eich profiadau neu eich safbwyntiau'n cyfateb i'r rôl ac amcanion y rhaglen?

Dylai eich llythyr eglurhaol ateb y cwestiwn hwn a dangos sut rydych chi'n bodloni'r fanyleb person yn y disgrifiad o'r rôl. Rydym yn argymell i chi ddefnyddio enghreifftiau clir a phenodol i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf.

Rydym yn croesawu enghreifftiau o unrhyw agwedd ar eich bywyd. Gall y rhain ddod o waith â thâl, gwirfoddoli, astudiaethau academaidd neu brofiadau personol. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio ym maes treftadaeth na llywodraethu o'r blaen. Rydym yn chwilio am botensial, angerdd a pharodrwydd i ddysgu.

Does dim angen i chi ddilyn fformat llym, ond rydym yn eich annog i fyfyrio ar eich cymhellion a'ch diddordebau, beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi a'r hyn rydych chi'n gobeithio ei ddysgu neu ei gyfrannu. Rydym yn chwilio am ymatebion meddylgar ac awthentig.

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn anfon y cwestiynau atoch ymlaen llaw ynghyd ag arweiniad ychwanegol i'ch helpu i baratoi.

Dyddiadau allweddol

Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael dros gyfnod y cyfweliadau (1216 Ionawr 2026) a gweithgareddau craidd y rhaglen (Mawrth 2026 – Medi 2027), fel y nodir uchod.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch argaeledd, gyrrwch e-bost atom: decisionmakers@heritagefund.org.uk.

Llunio'r rhestr fer

Bydd ein panel llunio'r rhestr fer yn asesu i ba raddau y mae eich cais yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl a bydd pob cais yn cael ei sgorio yn erbyn disgrifiad a manylebau'r rôl. Bydd y panel yn defnyddio sgoriau i lunio rhestr fer o ymgeiswyr y maent eisiau cyfweld â nhw. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb lle bo modd, fodd bynnag bydd cyfweliadau ar-lein ar gael hefyd i sicrhau hygyrchedd a hyblygrwydd i bob ymgeisydd.

Gwnewch gais am raglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol.

Atebion i gwestiynau eraill a allai fod gennych

Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod pwyllgor?

Mae gennym chwe phwyllgor ardal a gwlad: un ar gyfer pob ardal yn Lloegr (Llundain a'r De, Canolbarth Lloegr a'r Dwyrain a Gogledd Lloegr), ac un ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pob pwyllgor yn cynnwys hyd at 10 aelod sy'n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ym misoedd Mehefin, Medi, Tachwedd neu Ragfyr a mis Mawrth. 

Yn y cyfarfodydd hyn, mae aelodau'n adolygu ac yn trafod ceisiadau am ariannu. Mae pwyllgorau'n gwneud penderfyniadau ar grantiau prosiectau treftadaeth rhwng £250,000 a £5miliwn. Maent hefyd yn argymell blaenoriaethau ariannu i'n Bwrdd, gan ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad lleol hanfodol.

Cyn pob cyfarfod, mae ein timau Buddsoddi'n asesu ceisiadau am ariannu ac yn paratoi 'papurau achos' sy'n esbonio pob prosiect treftadaeth. Yn ystod y cyfarfod, mae'r timau Buddsoddi'n cyflwyno'r ceisiadau ac mae'r pwyllgorau'n trafod ac yn penderfynu a ddylid cymeradwyo neu wrthod y ceisiadau am grant. 

Fel Arweinydd Treftadaeth y Dyfodol, byddwch yn derbyn yr un papurau a chyfarwyddyd ag aelodau'r pwyllgor, gan gynnwys sut i drin gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif.

Yn dilyn trafodaethau, mae pwyllgorau’n pleidleisio ar geisiadau gan ddefnyddio’r opsiynau: uchel, canolig, isel neu wrthod. Mae'r penderfyniadau ariannu terfynol yn seiliedig ar y pleidleisiau hyn.

Er na fydd gennych hawliau pleidleisio na chyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw benderfyniadau a wneir, bydd eich llais a'ch safbwyntiau ffres yn cael eu gwerthfawrogi a byddant yn ddylanwadol wrth siapio canlyniadau.

Pa mor hir yw cyfarfodydd pwyllgor?

Mae cyfarfodydd fel arfer yn para diwrnod cyfan, gan gynnwys amser ar gyfer trafod, gwneud penderfyniadau ac egwyliau gan gynnwys cinio.

Beth yw moesau'r cyfarfod?

Mae cyfarfodydd pwyllgor yn amgylcheddau proffesiynol ond croesawgar. Er bod strwythur ffurfiol i sut mae cyfarfodydd yn cael eu rhedeg – gan gynnwys agendâu, cyflwyniadau a phleidleisio – mae'r awyrgylch yn gydweithredol ac yn llawn parch. Yn fwy penodol:

  • Y Cod gwisgo yw smart achlysurol. Mae hyn yn fwy hamddenol na siwt ffurfiol neu siwt sgert, ond yn fwy ffurfiol na jîns ac esgidiau rhedeg. Os ydych chi'n ansicr, gwiriwch gyda'ch bydi cyn y cyfarfod.
  • Mae trafodaethau a phapurau'r pwyllgor yn gyfrinachol. Fe gewch eich briffio ar beth mae hyn yn ei olygu a sut i drin gwybodaeth sensitif.
  • Cymerwch ran yn weithredol mewn trafodaethau drwy rannu eich safbwyntiau. Mae eich llais yn cael ei werthfawrogi'n gyfartal â phob aelod arall.
  • Byddwch yn brydlon – cyrhaeddwch ar amser, boed yn mynychu wyneb yn wyneb neu'n rhithwir.
  • Os ydych chi'n ymuno o bell, gwiriwch fod eich gosodiad technoleg yn gweithio cyn y cyfarfod, a gofynnwn i chi gadw'ch camera ymlaen yn ystod y cyfarfod.

Ble mae cyfarfodydd pwyllgor yn cael eu cynnal? 

Mae ein chwe ardal a gwlad yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau a gall lleoliadau'r cyfarfodydd amrywio. 

Er enghraifft, mae ardal Llundain a'r De yn cynnwys Llundain Fwyaf, De-ddwyrain a De-orllewin Lloegr. Mae Canolbarth Lloegr a'r Dwyrain yn cwmpasu Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr.

Rydym bob amser yn cynnal cyfarfodydd hybrid ar gyfer rhai na allant fynychu wyneb yn wyneb. 

Efallai y bydd angen i chi deithio ac aros dros nos ar gyfer cyfarfodydd, ond bydd yr holl gostau teithio a llety yn cael eu talu'n llawn gan y Gronfa Treftadaeth. 

Cliciwch i gael gwybod mwy am yr ardaloedd a'r gwledydd rydyn ni'n eu cefnogi, gan gynnwys map o sut maen nhw wedi'u rhannu.

A alla i ddewis pa bwyllgor rwy'n ei gysgodi?  

Na, mae'r lleoliad gwaith yn seiliedig ar eich lleoliad a'ch cysylltiad â'ch ardal neu wlad. Rhaid i aelodau’r pwyllgor fyw yn yr ardal a meddu ar ddealltwriaeth gref o’r cyd-destun lleol er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau’n effeithiol. Mae cysgodi eich pwyllgor lleol yn sicrhau bod y profiad yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon i chi a'r pwyllgor.

A fydda i'n cael fy ad-dalu am gostau teithio? 

Byddwch, rydym yn talu'r holl gostau teithio, llety a bwyd, yn unol â'n polisi treuliau. Bydd timau lleol yn eich cefnogi i drefnu teithio a llety er mwyn gwneud y broses mor llyfn â phosibl.

A ddisgwylir i mi gymryd rhan yn weithredol mewn cyfarfodydd o'r cychwyn cyntaf?

Na, mae'r rhaglen hon i gyd yn ymwneud â dysgu a datblygu, felly dydyn ni ddim yn disgwyl i chi gymryd rhan yn weithredol ar y diwrnod cyntaf. Byddwch yn arsylwi/cysgodi eich cyfarfod pwyllgor cyntaf ym mis Mawrth, lle gallwch ofyn cwestiynau a dod i wybod sut mae pethau'n gweithio. Os ydych chi'n teimlo'n hyderus ac eisiau cyfrannu yn ystod cyfarfod mis Mawrth, mae croeso mawr i chi wneud hynny, ond does dim disgwyliad o gwbl. 

Ein nod yw eich bod yn ennill gwybodaeth, hyder ac arweinyddiaeth drwy gydol y rhaglen ac yn cymryd rhan yn weithredol mewn cyfarfodydd pan fyddwch chi'n teimlo'n barod. Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi wybod popeth a byddwn ni'n eich cefnogi gyda hyfforddiant ac anogaeth. 

Pa gefnogaeth fydda i'n ei derbyn yn ystod y rhaglen?

Byddwch yn cael eich cefnogi gan fydi (aelod o bwyllgor eich ardal neu wlad) ac aelod staff ar wahân o'r Gronfa Treftadaeth. 

Byddwch yn cael cyfarfodydd un-i-un ar-lein gyda'ch bydi, a fydd yn eich helpu i ddeall papurau'r pwyllgor a strwythur cyfarfodydd y pwyllgor ac yn ateb unrhyw gwestiynau cyn ac ar ôl pob cyfarfod. Bydd eich cyswllt staff yn darparu cefnogaeth ymarferol mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau a hawlio treuliau. Bydd yn berson arall y gallwch ofyn cwestiynau iddynt.

Byddwch yn ymuno â phedair sesiwn hyfforddi set dysgu gweithredol (ALS) a gyflwynir gan y Gronfa Treftadaeth. Bydd y sesiynau grŵp ar-lein hyn yn eich galluogi i archwilio unrhyw heriau mewn amgylchedd cefnogol. Byddwch chi a’r Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol eraill yn diffinio amcanion y sesiynau ac yn eu teilwra i amcanion dysgu a datblygu proffesiynol penodol eich grŵp. Bydd pob sesiwn yn para 60–90 munud. 

Mae'r dull hyfforddi hwn wedi'i ddylunio i'ch grymuso i gymryd perchnogaeth ar eich heriau ac ar yr un pryd elwa o fewnwelediad a chefnogaeth eich cymheiriaid. Bydd yn meithrin ymddiriedaeth, yn adeiladu hyder ac yn gwella gwydnwch personol.

Pa hyfforddiant arall fydda i'n ei dderbyn yn ystod y rhaglen? 

Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn gynefino lawn i'ch helpu i ddeall y Gronfa Treftadaeth (gan gynnwys sut mae pwyllgorau'n gweithio, ein blaenoriaethau strategol a'n prosesau gwneud penderfyniadau) a hefyd eich rôl chi.

Cynhelir gweithdai hyfforddi Board Boost rhithwir, sy'n cyd-fynd â'r amcanion dysgu, rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2026. Cyfle hyfforddi allanol yw hwn a ddarperir gan Young Trustees Movement. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ar ôl i chi gael eich penodi. Nid oes tâl yn cael ei wneud am y rhan hon o'r rhaglen, ond rydym yn talu'r gost i chi dderbyn y pecyn hyfforddi hwn.

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i ymweld â phrosiectau treftadaeth yn eich ardal leol i ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae ein harian yn cael ei ddefnyddio a'r buddion cadarnhaol y mae'n eu creu ar gyfer pobl a lleoedd. Nod yr ymweliadau hyn yw gwella'ch dysgu a'ch datblygu ochr yn ochr â'r hyfforddiant a'r dysgu gan gymheiriaid ehangach drwy gydol y rhaglen.

Dyddiadau cyfarfodydd pwyllgor

Lloegr, Llundain a'r De:

  • Dydd Iau 5 Mawrth 2026
  • Dydd Iau 11 Mehefin 2026
  • Dydd Iau 10 Medi 2026
  • Dydd Iau Iau 26 Tachwedd 2026
  • Dydd Iau 4 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau

Lloegr, Canolbarth a'r Dwyrain:

  • Dydd Mercher 4 Mawrth 2026
  • Dydd Mercher 17 Mehefin 2026
  • Dydd Mercher 16 Medi 2026
  • Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026
  • Dydd Mercher 10 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau

Lloegr, Gogledd:

  • Dydd Iau 12 Mawrth 2026
  • Dydd Iau 18 Mehefin 2026
  • Dydd Mawrth, 8 Medi 2026
  • Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026
  • Dydd Iau 11 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau

Yr Alban:   

  • Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026
  • Dydd Mawrth 16 Mehefin 2026
  • Dydd Mawrth, 15 Medi 2026
  • Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026
  • Dydd Mawrth 9 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau       

Cymru:

  • Dydd Mercher 11 Mawrth 2026
  • Dydd Mercher 10 Mehefin 2026
  • Dydd Mercher 9 Medi 2026
  • Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
  • Dydd Mercher 3 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau

Gogledd Iwerddon:

  • Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
  • Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026   
  • Dydd Iau 17 Medi 2026
  • Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026
  • Dydd Mawrth 2 Mawrth 2027
  • Mehefin 2027 i'w gadarnhau
  • Medi 2027 i'w gadarnhau
  • Dyddiad cysgodi cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau

Pa ymweliadau wyneb yn wyneb eraill sy'n orfodol? 

Yn aml, trefnir ymweliadau safle i archwilio prosiectau y byddwch yn eu trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor sydd ar ddod. Bydd yr ymweliadau hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r timau dan sylw a'r hyn y mae'r prosiectau'n anelu at ei gyflawni, a gallant eich helpu i deimlo'n fwy hyderus a gwybodus.

A fydda i’n derbyn adborth neu dystysgrif ar ddiwedd y rhaglen?

Byddwch yn derbyn tystysgrif yn dathlu eich cyfranogiad yn rhaglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol a chydnabyddiaeth ar LinkedIn, gan eich helpu i arddangos eich cyflawniadau a'ch datblygiad a gallwch ddefnyddio'r profiad a gewch mewn ceisiadau am swyddi yn y dyfodol.

A alla i gymryd rhan os oes gen i swydd amser llawn?

Gallwch. Mae'r rhan fwyaf o'r dyddiadau allweddol ar gyfer y rhaglen wedi'u rhestru uchod, a byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi o'r rhai sydd i'w cadarnhau o hyd, fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl, ac y gallwch flaengynllunio ac ymrwymo'n llawn i gyfnod 18 mis llawn y rhaglen.

Oes cyfle i ymuno â phwyllgor yn y dyfodol?

Oes, mae swyddi gwag ar bwyllgorau yn cael eu hysbysebu'n eang ac mae croeso i unrhyw un wneud cais. Er na warentir y bydd modd i chi ymuno â phwyllgor ar ôl y rhaglen, bydd eich profiad yn rhoi mewnwelediad a sgiliau gwerthfawr i chi a fydd yn cefnogi eich cais. 

Beth sy'n digwydd os bydd angen i mi dynnu allan o'r rhaglen? 

Rydym yn disgwyl i gyfranogwyr ymrwymo i'r cyfnod llawn o 18 mis. Rydym wedi darparu cymaint o fanylion a dyddiadau penodol â phosibl yn y pecyn recriwtio hwn fel eich bod chi'n gwybod y disgwyliadau o'r cychwyn cyntaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau newid. Os bydd angen i chi dynnu allan o'r rhaglen, gofynnwn i chi gael sgwrs â chadeirydd eich pwyllgor ardal neu wlad mor fuan â phosibl i drafod y camau nesaf. 

Gwnewch gais am raglen Arweinyddiaeth Treftadaeth y Dyfodol.