Hyblygrwydd a chefnogaeth wedi'i thargedu i'ch helpu drwy gyfnodau heriol

Hyblygrwydd a chefnogaeth wedi'i thargedu i'ch helpu drwy gyfnodau heriol

Eilish McGuinness
Mae ein Prif Weithredwr yn rhannu sut rydym yn ymateb i anghenion y sector treftadaeth sy'n newid.

Mae pob un ohonom sy'n rheoli, gweithio neu wirfoddoli ar gyfer treftadaeth y DU yn gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl, cymunedau a lleoedd.

Fodd bynnag, mae'r amgylchedd economaidd heriol a'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonoch ac yn rhoi treftadaeth mewn perygl.

Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch yn ei chael hi'n anodd cwrdd â'r ymrwymiadau presennol, bod prosiectau datblygu mwy hirdymor yn cael eu gohirio i ddelio ag anghenion ar unwaith a does gan lawer o sefydliadau ddim y gallu i reoli a lliniaru'r risgiau sy'n wynebu'r sector.

Rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi lle gallwn ac fe fyddwn mor hyblyg â phosibl i ddod o hyd i ffordd drwy'r cyfnod heriol hwn. Ni allwn fynd i'r afael â'r holl faterion neu ddisodli cyllid refeniw hirdymor, ond mae gennym sawl ffordd o'ch helpu i lywio drwy rai o'r pryderon hyn ar unwaith.

Os yw prisiau cynyddol yn bygwth cynnydd neu hyfywedd eich prosiect, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu.

Ein cefnogaeth 

Rhaglenni agored

Rydyn ni'n cefnogi ehangder llawn treftadaeth drwy ein rhaglenni agored ac mae'r cyllid hwn yn parhau i fod ar gael i wneud cais amdano ar unrhyw adeg.

Efallai y bydd llawer ohonoch yn teimlo'n ofalus yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond mae ein timau yno i'ch cefnogi a'ch cynghori. Os yw chwyddiant wedi effeithio ar eich cynlluniau, mae'n werth cysylltu â ni, gan y gallai eich prosiect fod y ffordd orau o fynd i'r afael ag anghenion y dreftadaeth honno, yn enwedig os yw mewn perygl.

Cofiwch, rydym hefyd yn cefnogi costau datblygu, fel y gallwch gynllunio gydag hyder lle rydych yn sicr o hyfywedd eich prosiect.

Yn ogystal, yn gynharach eleni lansiwyd cynnig cymorth gwytnwch ac adferiad newydd a thros y chwe mis diwethaf rydym wedi dyfarnu gwerth £6.7miliwn o grantiau sy'n ymwneud â gwytnwch.

Mae'r ystod o bethau y gallwch chi wneud cais amdanynt yn eang, gan gynnwys dod â chefnogaeth arbenigol i mewn neu greu'r gallu sydd ei angen arnoch i ddelio â heriau ar unwaith ac uchelgeisiau tymor hwy. Felly cofiwch edrych, gan y gallai ddarparu'r cymorth hyblyg a chyflym sydd ei angen arnoch - mae'r amseroedd penderfynu yn dechrau o fewn wyth wythnos.

Dull hyblyg

Rydym hefyd wedi cynyddu ein hyblygrwydd a'n cefnogaeth i brosiectau ym maes datblygu neu gyflawni, yn enwedig i'r rhai y mae eu costau wedi cynyddu oherwydd pwysau chwyddiant.

Os yw prisiau cynyddol yn bygwth cynnydd neu hyfywedd eich prosiect, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i ystyried sut y gallech reoli cynnydd annisgwyl.

Ers mis Ionawr, rydym wedi helpu i gadw prosiectau treftadaeth ar y trywydd iawn gyda £15.6m o gymorth ychwanegol ar gyfer newidiadau y gofynnwyd amdanynt i gwmpas y prosiect neu gost, a gallwn gefnogi cynnydd mewn grantiau lle mae angen clir.

Rydym hefyd yn darparu mwy o gyngor a mentoriaeth gan ein ymgynghorwyr arbenigol.

Byddwn yn ceisio rhoi cyngor clir pan na allwn ddarparu cymorth ariannol neu gymorth arall, gan gynnwys cyfeirio at ffynonellau eraill lle bo hynny'n briodol.

Buddsoddiadau strategol

Ochr yn ochr â'r gefnogaeth hon wedi'i thargedu, rydym yn buddsoddi yng ngallu a gwytnwch y sector yn ehangach. Mae ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth yn parhau i ddarparu adnoddau a hyfforddiant i helpu i godi hyder digidol sefydliadau treftadaeth.

Ac yn gynharach eleni fe wnaethon ni fuddsoddi £1m arall yn ein rhaglenni cymorth busnes a datblygu menter, gan fynd â chyfanswm ein buddsoddiad i £6m.

Mae'r rhaglenni hyn yn cynnig cefnogaeth i sefydliadau treftadaeth ledled y DU i'ch helpu i ymateb i'r argyfwng costau byw parhaus. Mewn rhai achosion, mae rhaglenni'n dal ar agor i gyfranogwyr newydd, gan ddarparu ymgynghoriaeth, adnoddau ac offer pwrpasol ar gyfer eich anghenion a'ch heriau penodol.

Cydweithio

Bydd ein timau ar draws y DU yn gwneud cymaint â phosibl i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch, ond yn amlwg, ni fyddwn yn gallu darparu arian ar gyfer pob prosiect treftadaeth, safle, casgliad neu ased sy'n ei chael hi'n anodd yn y cyfnod anodd hwn.

Byddwn yn ceisio rhoi cyngor clir pan na allwn ddarparu cymorth ariannol neu gymorth arall, gan gynnwys cyfeirio at ffynonellau eraill lle bo hynny'n briodol.

Rydym hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein strategaeth newydd 10 mlynedd - y byddwn yn ei lansio ddechrau'r flwyddyn nesaf – yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth, yr arbenigedd a'r arloesedd sydd ei hangen ar ein sector treftadaeth drwy'r cyfnod heriol hwn a ffynnu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'n gwahoddiad i helpu i lunio ein strategaeth newydd dros yr haf. Roedd yr ymatebion yn fwy na'n disgwyliadau o ran nifer ac yn yr angerdd a ddangoswyd ganddynt am gynnal a gwarchod ein treftadaeth ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen at rannu ein gweledigaeth newydd uchelgeisiol gyda chi'r flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser – archwiliwch y cyllid sydd gennym ar gael i'ch helpu i amddiffyn a gwarchod treftadaeth y DU ar hyn o bryd, a chysylltu â ni os oes gennych unrhyw bryderon neu angen cyngor.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...