Ymgynghorwyr cymorth prosiect (Fframwaith ROSS)
Rydym weithiau'n comisiynu ymgynghorwyr prosiect o'n Cofrestr Gwasanaethau Cymorth (a elwir yn Ymgynghorwyr ROSS) i helpu sefydliadau treftadaeth i gyflawni prosiectau mwy yn llwyddiannus.
Mae gennym gofrestr gymeradwy o ymgynghorwyr, wedi'i rhannu'n bedwar maes arbenigedd:
- rheoli prosiectau adeiladu
- datblygu a rheoli busnes
- ymgysylltu â'r cyhoedd â threftadaeth
- amgylchedd naturiol
Rydym yn defnyddio'r ymgynghorwyr ar rai prosiectau i ddarparu gwasanaethau monitro, mentora a chyngor arbenigol ar draws holl gamau allweddol ein cylch bywyd grant.
Penodir yr ymgynghorwyr i'n Fframwaith ROSS drwy broses dendro. Dechreuodd y fframwaith presennol ar 1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2024.
Mae gennym hefyd fframwaith ar gyfer Ymgynghorwyr ROSS sy'n arbenigo mewn treftadaeth ddigidol. Dechreuodd y fframwaith hwn ar 1 Ebrill 2022 a bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.
I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllawiau Derbyn Grant ar gyfer prosiectau mwy.