Mae ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer y blynyddoedd 2018 i 2021 yn adeiladu ar 24 mlynedd o brofiad a dosbarthu grantiau'r Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yn llwyddiannus ledled y DU.
Ein gweledigaeth a rôl
Ysbrydoli, arwain ac ariannu treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.
Rydym yn ysbrydoli ac yn arwain trwy:
- Adeiladu partneriaethau strategol a chydweithredu
- Ysbrydoli a chefnogi arloesedd
- Hyrwyddo gallu a gwydnwch y sector treftadaeth
- Eirioli am werth treftadaeth i gymdeithas
- Rhannu dysgu ac arfer gorau
Rydyn ni’n ariannu treftadaeth y DU drwy:
- Lansio Fframwaith Ariannu Strategol y Loteri Genedlaethol newydd
- Gwneud grantiau parhaus yn y DU
- Sicrhau fod ein harian yn mynd ymhellach trwy fenthyciadau a buddsoddiadau cymdeithasol
- Datblygu sgiliau ac amrywiaeth y sector
- Datblygiad busnes newydd: Creu ffynonellau cyllid newydd, ochr yn ochr â grantiau'r Loteri Genedlaethol a’r Cronfa Goffa.
- Gwneud newidiadau i’n grantiau yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19.
Sicrhau newid cadarnhaol a pharhaol
Drwy ein harweinyddiaeth, ein cefnogaeth a'n buddsoddiad, bydd treftadaeth ledled gwledydd a rhanbarthau'r DU yn fwy gwerthfawr, cynhwysol, gwydn, mentrus ac mewn cyflwr gwell.
Bydd hyn yn helpu treftadaeth i gyfrannu mwy at yr economi a dod yn fwy cysylltiedig mewn cymunedau lleol.