Treftadaeth Ymarferol: pobl ifanc yn ymchwilio i orffennol LHDT+ Cymru

Treftadaeth Ymarferol: pobl ifanc yn ymchwilio i orffennol LHDT+ Cymru

A national Welsh flag with rainbow background.
A Welsh flag with rainbow background from the Amgueddfa Cymru–National Museum Wales collection

Kick the Dust

Cardiff
Wales
Amgueddfa Cymru–National Museum Wales
£874500
Roedd y prosiect yn Amgueddfa Cymru yn galluogi pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol i gael effaith ar y casgliadau.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dyrannwyd £875,000 drwy ei raglen Tynnu'r Llwch i drawsnewid y ffordd y mae pobl ifanc yn rhyngweithio ag amgueddfeydd cenedlaethol ledled Cymru.

Yn ystod y prosiect Hands on Heritage, bu pobl ifanc 16 – 25 oed yn archwilio casgliadau dros saith amgueddfa yng Nghymru ac yn datgelu rhai o'u straeon LHDT+.

Straeon diddorol

Ysgrifennodd un o'r bobl ifanc dan sylw, Holly Morgan-Davies, am y straeon diddorol yr oedd wedi'u darganfod o orffennol LGBT+ Cymru.

Roedd hi'n cynnwys proffiliau o:

  • Jan Morris – hanesydd ac awdur teithio
  • Sarah Jane Rees//Cranogwen – bardd, athro ac ymgyrchydd
  • Gwen John - artist
  • Angus McBean – ffotograffydd

Cafodd y llysgenhadon treftadaeth ifanc gyfle hefyd i astudio a thrin rhai o'r pum miliwn o wrthrychau ledled safleoedd Amgueddfa Cymru.

Treftadaeth LHDT+ gyfoethog

Mae nifer o eitemau yn y casgliad yn adlewyrchu'r hanes LHDT+ amrywiol yng Nghymru, megis:

  • baner enfys genedlaethol
  • bathodynnau yn coffáu Pride 97, Pride Lesbiaidd a Hoywon  '88
  • posteri a thaflenni o Pride Powys a Mardi Gras Lesbiaidd a Hoyw Caerdydd-Cymru
  • taflenni gan gynnwys rhai o Rwydwaith Staff Hoyw Heddlu De Cymru
  • band arddwrn o Mardi Gras LGBT+ Caerdydd-Cymru
  • ffotograff awtograffeg o'r actor a'r cyfansoddwr, Ivor Novello
  • copi o gerdd a ysgrifennwyd ar gyfer y BAME Pride cyntaf erioed yn 2019

Dyfarnwyd yr arian drwy ein rhaglen Tynnu'r Llwch (a enwyd gan bobl ifanc gyda dyhead i 'ysgogi treftadaeth'); cynllun grant arloesol a ddosbarthodd £10m o'r Loteri Genedlaethol i sefydliadau ieuenctid ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...