
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Sefydlwyd ‘Vincent Wildlife Trust’ yn 1975 ac mae’n elusen annibynnol ac yn sefydliad blaenllaw ym maes cadwraeth mamaliaid. Mae eu gwaith yn cyfrannu at oroesiad hirdymor y bele’r coed, sy’n rhywogaeth mewn perygl yng Nghymru a Lloegr.
Er eu bod yn gyffredin ar un adeg, roedd bele’r coed bron â diflannu yn y DU erbyn dechrau’r 20fed ganrif. Ond diolch i waith sefydliadau cadwraeth, mae poblogaethau wedi dechrau adfer yn raddol mewn rhannau o’r Alban.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae’r llwyddiant hwn wedi’i ailadrodd mewn rhannau o Loegr a Chymru diolch i Brosiect Adfer Bele’r Coed ‘Vincent Wildlife Trust’ a’i waith partneriaeth ar Brosiect Bele’r Coed Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw.
Gan adeiladu ar y momentwm hwn, bydd prosiect Martens on the Move yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i fonitro bele’r coed wrth iddynt symud i ardaloedd newydd. Bydd amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr a sefydliadau yn gallu dysgu mwy am y rhywogaeth ac yn chwarae rhan yn eu hadferiad.

Dywedodd Dr Stephanie Johnstone, Rheolwr Prosiect Martens on the Move: “Mae ‘Vincent Wildlife Trust’ wedi lansio Hafan Bele’r Coed Gymreig yng Nghoedwig Wentwood mewn partneriaeth â Coed Cadw — ‘Woodland Trust’ yng Nhymru ac Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Roedd y digwyddiad lansio’n llwyddiannus, a mwynhaodd y gwesteion daith gerdded ar lwybr natur gyda silwetau bele’r coed maint llawn yn cuddio yn y coed. Agorwyd cuddfan bywyd gwyllt newydd, gyda byrddau’n rhannu gwybodaeth i ymwelwyr ddysgu am y bele’r coed a sut i’w helpu i ffynnu.”
Dysgwch fwy am brosiect ‘Martens on the Move’ a’i dair Hafan Bele’r Coed newydd yng Nghymru, Lloegr ac yr Alban.