Cadwraeth Murluniau Brenda Chamberlain

Cadwraeth Murluniau Brenda Chamberlain

Carreg Fawr, cartref yr artist Brenda Chamberlain ar Ynys Enlli
Carreg Fawr, cartref yr artist Brenda Chamberlain ar Ynys Enlli

Your Heritage

Aberdaron
Gwynedd
Bardsey Island Trust
£40000
Mae ein hariannu wedi helpu i warchod murluniau a baentiwyd gan yr artist, y bardd a'r awdur o Gymru, Brenda Chamberlain a'i chartref ar Ynys Enlli oddi ar arfordir Pen Llŷn.

Symudodd Brenda Chamberlain i Enlli yn 1947 a bu'n byw yn Carreg Fawr - adeilad sy'n dyddio'n ôl i'r 1870au - lle peintiodd ei murluniau.

Yn ystod y cyfnod hwn tra y bu hi yn byw ar yr ynys ddiarffordd, enillodd y ddwy fedal aur gelfyddyd gain gyntaf a ddyfarnwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae'r grant a ddyfarnwyd i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli wedi caniatau i'r gwaith canlynol ddigwydd:

'Figures in a boat' a wall mural by Brenda Chamberlain
'Figures in a boat' a wall mural by Brenda Chamberlain
  • cadw a sefydlogi'r murluniau, a oedd yn dirywio oherwydd lleithder yn y waliaun
  • atgyweiriadau i'r systemau to, draenio a gwresogi i sicrhau dyfodol hirdymor y murluniau
  • cyflogi arbenigwyr i sicrhau safon uchel o waith, ond hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr a ddysgodd sgiliau newydd a fydd yn helpu'r murluniau i gael gofal gwell yn y dyfodol
  • codi ymwybyddiaeth o'r artist a'r murluniau drwy arddangosfa am fywyd a gwaith Chamberlain ac 'wythnosau agored' yn y tŷ i annog ymwelwyr i ddod i weld y murluniau
  • creu pecyn athrawon yn cynnwys gwybodaeth am Chamberlain, yr ynys a'i gwaith i rannu'r rhan hon o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru gyda chenhedlaeth newydd

Dywedodd Caroline Jones o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: "Roedd yr arian yn ein galluogi i achub murluniau Brenda Chamberlain yn ogystal â Carreg Fawr a thŷ arall ar Ynys Enlli.

"Mae'r murluniau yn bendant yn rhan bwysig o hanes Ynys Enlli ac mae cael yr arian i'w hamddiffyn wedi bod yn fendith."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...