Cwestiynau Cyffredin: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd pump)
Cododd y rhai a fynychodd y weminar gyfres o gwestiynau, yr ydym wedi’u hateb isod.
Gellir dod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau a godwyd hefyd trwy ddarllen yr arweiniad.
Cwestiynau Cyffredin
A all prosiectau mawr ddefnyddio blwyddyn 1 fel blwyddyn ddatblygu i benderfynu ar y lleoedd a'r dulliau gorau ar gyfer gwaith cyfalaf ym mlynyddoedd 2 a 3?
Yn fras gallant – fodd bynnag, bydd hon yn rownd gystadleuol ar gyfer yr holl brosiectau. Rydym yn chwilio am brosiectau sydd yn y cyflwr gorau posibl i ddechrau ar waith cyfalaf, gyda dealltwriaeth glir o'r risgiau o ran cyflwyno.
Byddem yn disgwyl, felly, os nad ydych wedi nodi safleoedd neu ddulliau cyflwyno penodol eto, eich bod yn rhoi'r rheswm dros hynny i ni a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl am ardaloedd cyffredinol arfaethedig h.y: pam eu bod wedi'u dewis a darparu sail resymegol a sicrwydd o ran yr amserlen gyflwyno. Efallai y byddwch yn ei chael hi'n fwy priodol gwneud cais am grant datblygu prosiect hyd at £250,000 er mwyn rhoi'r cynlluniau hyn ar waith.
A oes arweiniad o ran faint o refeniw y gallai prosiect ei gynnwys?
Nid ydym yn nodi rhaniad cyfalaf/refeniw, gan ein bod yn chwilio am gydbwysedd costau ar draws y portffolio cyfan. Dylai costau refeniw eich prosiect fod yn gymesur ag anghenion eich prosiect.
A ellir cynnwys amser staff fel cost gyfalaf os yw'r amser ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â chyfalaf yn unig?
Ydy, os yw staff yn cyflwyno gwaith cyfalaf yn uniongyrchol 'yn y fan a'r lle’. Nodwch y costau hyn yn fanwl yn y templed costau a ddarperir.
A yw prosiectau parhad yn dderbyniol?
Mae prosiect parhad yn dderbyniol ar yr amod y gallwch ddangos yr angen yn glir ac adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect cynharach. Dylech roi ystyriaeth i gynaladwyedd tymor hir.
Ar gyfer prosiect datblygu heb unrhyw waith cyfalaf sy'n ymwneud â darn o dir nad ydym yn berchen arno ar hyn o bryd, a fyddai'n rhaid i'r tirfeddiannwr presennol lofnodi telerau'r grant hefyd?
Na, ni fyddai angen i'r tirfeddiannwr ymrwymo i'n telerau grant os nad oes unrhyw waith cyfalaf yn cael ei wneud. Byddai angen i chi gael cytundeb tirfeddiannwr ar gyfer gweithgareddau fel arolygu ac astudiaethau dichonoldeb.
Oes ardal ddaearyddol neu gynefin penodol yr hoffech ganolbwyntio arno yn y rownd hon?
Rydym yn chwilio am amrywiaeth o brosiectau o safbwynt daearyddiaeth a chynefinoedd. Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau o ansawdd da nag y gallwn eu hariannu, byddwn yn defnyddio'r egwyddorion cydbwyso wrth wneud y penderfyniadau terfynol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio mapiau'r Rhwydwaith Ecolegol Blaenoriaeth fel ffordd o flaenoriaethu.
A fydd adroddiad effaith neu werthuso ar gyfer y rhaglen Rhwydweithiau Natur yn gyffredinol?
Mae Llywodraeth Cymru'n comisiynu gwerthusiad ar lefel y rhaglen a ddylai ddechrau eleni. Nid oes gennym fanylion pellach am hyn ar hyn o bryd.