Derbyn eich grant: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) £250,000 i £1miliwn

Derbyn eich grant: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) £250,000 i £1miliwn

See all updates
Mae'r arweiniad hwn yn disgrifio sut y byddwch yn derbyn eich grant Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5). Mae hefyd yn esbonio beth rydym yn ei ddisgwyl gennych cyn, yn ystod ac ar ôl ei dderbyn.

Cyflwyniad

Ar ôl i'ch Grant gael ei ddyfarnu i chi, mae'n bwysig deall y camau nesaf y mae'n rhaid i chi eu cymryd. Mae’r arian y byddwch yn ei dderbyn yn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid iddo gael ei reoli mewn ffordd atebol.

Bydd angen i chi ddarllen a deall y gofynion a amlinellir yn:

Mae eich Contract Grant yn cynnwys:

  • eich Llythyr Hysbysiad o Grant
  • ein Telerau Grant Safonol
  • unrhyw Amodau Grant Ychwanegol
  • eich dogfen Caniatâd i Ddechrau wedi'i llofnodi

Bydd hyn yn eich helpu sicrhau y bydd eich Prosiect yn cydymffurfio â'n gofynion.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon o hyd ar ôl darllen y dogfennau hyn, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk am gymorth. Eich pwynt cyswllt cyntaf â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw eich Rheolwr Cymorth Grant.

Noder, mae'r geiriau mewn priflythrennau yn yr arweiniad hwn yn adlewyrchu'r diffiniadau yn y Telerau Grant Safonol. 

Amserlen y prosiect

  1. dod i gyfarfod dechrau arni
  2. cyflwyno'ch dogfennau Caniatâd i Ddechrau o fewn tri mis i dderbyn y dyfarniad
  3. cwblhau'r dasg Rhowch fwy o wybodaeth am y prosiect i ni
  4. cyflwyno eich Prosiect fel y cytunwyd
  5. cyflwyno adroddiad cwblhau a gwerthusiad erbyn 31 Mawrth 2029.
  6. cydymffurfio â'ch Contract Grant am y cyfnod a nodir yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant

Ar ôl i'ch Grant gael ei ddyfarnu

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod dechrau arni. Diben y cyfarfod dechrau arni yw:

  • egluro'r Gwaith
  • cytuno ar drefniadau rheoli prosiect, caffael a'r rhaglen
  • nodi gofynion adrodd, monitro a gwerthuso eich Prosiect
  • trafod unrhyw bwyntiau cyfreithiol, megis perchnogaeth, trwyddedau ar gyfer gwaith neu reoli cymhorthdal
  • sicrhau bod ariannu yn ei le ar gyfer y prosiect
  • trafod cydnerthedd sefydliadol

Byddwn yn cytuno ar strwythur adrodd ar gyfer pryd y dylech gyflwyno diweddariadau Prosiect 

Caniatâd i ddechrau

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar eich Prosiect hyd nes y byddwch wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gennym i wneud hynny.

Byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i'ch galluogi i ddechrau ar eich Prosiect.

Fel arfer byddwn yn disgwyl i chi gyflwyno'r dogfennau y gofynnir amdanynt yn y cam hwn o fewn tri mis i ddyddiad eich Llythyr Hysbysiad o Grant. Os bydd oedi sylweddol ac nad yw'r dogfennau wedi'u derbyn o fewn chwe mis mae'n bosibl y byddwn yn penderfynu dileu eich cynnig Grant.

Cyn y gallwn roi Caniatâd i Ddechrau eich Prosiect i chi a rhyddhau eich arian Grant, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol fel y bo angen:

  • prawf o berchnogaeth rhydd-ddaliad neu brydles (ar gyfer pob prosiect cyfalaf, os bu unrhyw newidiadau ers cyflwyno'ch Cais)
  • manylion caniatadau landlord, caniatadau statudol a/neu drwyddedau sydd eu hangen ac a gafwyd. Os oes unrhyw un o'r rhain heb eu sicrhau, yna llenwch ein Templed Caniatadau Heb eu Sicrhau gan gofnodi pryd y disgwyliwch dderbyn pob caniatâd statudol/trwydded.
  • cadarnhad o ariannu partneriaeth fel yr amlinellwyd yn eich Cais
  • dadansoddiad costau ac adroddiad llif arian parod sy'n amlinellu'r prosiect
  • braslun o strwythur rheoli prosiect eich sefydliad a'ch dulliau o ddewis ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr
  • amserlen yn amlinellu'r prosiect
  • cynnig o ran sut y byddwch yn rheoli caffael
  • unrhyw fanylion eraill y teimlwn y gallent fod yn berthnasol i'ch Prosiect
  • unrhyw gyngor rheoli cymhorthdal rydych wedi'i dderbyn

Rhaid i chi ddweud wrthym a fu unrhyw newidiadau sylweddol i'ch Prosiect ers i chi gyflwyno eich Cais, er enghraifft newidiadau i bartneriaid y prosiect neu gyfraniadau arian parod, gan ddarparu'r dystiolaeth ddiweddaraf fel y bo'n berthnasol.

Yna bydd gofyn i chi ddarparu manylion dau lofnodai cyfreithiol ar gyfer eich sefydliad. Bydd angen iddynt ddarllen a chytuno i'r Telerau Grant Safonol ac unrhyw Amodau Ychwanegol a nodir yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant.

Unwaith y byddwn wedi prosesu a chymeradwyo'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn ystod y cam hwn, byddwn yn anfon e-bost yn cadarnhau bod gennych ganiatâd i ddechrau gweithio ar eich Prosiect. Os byddwch yn dechrau unrhyw waith cyn cael y caniatâd hwn, fe fydd ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn talu unrhyw gostau a ysgwyddir. 

Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect

Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen caniatâd i ddechrau a’n bod ni wedi’i hadolygu, bydd modd i chi fewngofnodi i’ch cyfrif a rhoi mwy o wybodaeth i ni am eich prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau am:  

  • swyddi a chyfleoedd hyfforddi a fydd yn cael eu cefnogi trwy eich prosiect  
  • unrhyw wirfoddolwyr neu ymwelwyr a allai fod gan eich prosiect  
  • effaith amgylcheddol eich prosiect  
  • sut y byddwch yn cydnabod ac yn hyrwyddo eich grant  

Nid yw'r cwestiynau hyn yn rhan o'ch cais – ni fydd eich atebion yn effeithio ar eich dyfarniad grant. Rydym yn gofyn y cwestiynau hyn i helpu casglu data ar effaith ein hariannu. Rydym yn casglu tystiolaeth ar draws ein portffolio i helpu llywio ein harfer a sut rydym yn cyflwyno ein strategaeth.

I'ch helpu i ateb y cwestiynau ychwanegol hyn am eich prosiect, darllenwch yr arweiniad a chwestiynau Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect.

Mae angen i chi gwblhau'r dasg hon cyn y gallwn ryddhau unrhyw daliadau i chi. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth hon i ni cyn gynted â phosibl ar ôl i ni roi caniatâd i chi ddechrau, efallai y bydd eich taliadau'n cael eu gohirio. 

Sut y byddwn yn talu eich grant

Bydd gofyn i chi ddarparu eich manylion banc yn eich cyfrif ar-lein, a bydd y manylion hyn wedyn yn cael eu gwirio gan ein tîm cyllid.

Telir grantiau dros £250,000 mewn ôl-daliadau.

Byddwn yn cadw'r 10% olaf o’ch Grant hyd nes y byddwn yn fodlon bod y Prosiect wedi’i gwblhau, bod y Grant wedi’i wario’n briodol, a’ch bod wedi anfon eich Adroddiad Gwerthuso a phrawf o’ch cydnabyddiaeth o’r ariannu atom.

I hawlio'r 10% olaf o'ch Grant mae’n rhaid i chi gyflwyno Adroddiad Cwblhau ddim hwyrach na Dyddiad Dod i Ben eich Grant, sef 31 Mawrth 2029.

Byddwn yn talu eich Grant fel canran o gostau eich Prosiect. Rydym yn disgrifio hyn fel canran talu, sydd wedi'i hesbonio yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant. Er enghraifft, os byddwch yn darparu tystiolaeth o wariant gwerth cyfanswm o £50,000 a bod eich canran Grant yn 85%, eich taliad fydd £42,500.

Anelwn at ryddhau eich taliad Grant o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais am daliad a'r dogfennau ategol gofynnol.

Cwblhau eich Prosiect

Rhaid i chi gyflwyno Adroddiad Cwblhau a Gwerthusiad erbyn Dyddiad Dod i Ben y Grant.

Pan fyddwn wedi derbyn yr holl ddogfennaeth angenrheidiol i gofnodi bod pob cam o'ch Prosiect wedi'i gwblhau, byddwn yn cadarnhau hyn gyda chi. Gelwir hyn yn Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect ffurfiol.

Wrth gwblhau rydym yn golygu:

  • bod eich Prosiect wedi'i orffen, a'ch bod wedi cyflawni'ch Dibenion Cymeradwy
  • eich bod wedi cydnabod eich Grant yn briodol
  • eich bod wedi gwerthuso eich Prosiect a chyflwyno Adroddiad Cwblhau
  • y gallwch ddarparu ffotograffau digidol manylder uchel sy'n dogfennu eich Prosiect
  • os oedd eich Prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, eich bod wedi darparu Tystysgrif Cwblhau Ymarferol
  • os yn berthnasol, eich bod wedi rhestru Allbynnau Digidol y prosiect a darparu cyfeiriad gwe (URL) y wefan neu wefannau lle gellir cael mynediad iddynt
  • os yn berthnasol, eich bod wedi ffeilio’ch cynllun cadwraeth gyda’r llyfrgell gyhoeddus, archif a/neu gronfa ddata berthnasol, a rhannu’r manylion gyda’ch Rheolwr Cymorth Grant

Mae’n bwysig deall bod eich Contract Grant yn dod i rym unwaith y byddwch wedi llofnodi a’n bod ni wedi prosesu eich Caniatâd i Ddechrau. Mae’r Contract Grant yn parhau mewn grym ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ac mae hyd y cyfnod y bydd yn parhau mewn grym yn dibynnu ar y gweithgareddau craidd a gyflawnir gan eich Prosiect. Bydd hyn yn cael ei ddisgrifio yn eich Llythyr Hysbysiad o Grant.

Ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar weithgareddau, er enghraifft arddangosfa neu ddigwyddiad heb unrhyw allbynnau digidol neu waith cyfalaf, daw'r Contract Grant i ben ar Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Ar gyfer prosiectau sy'n creu Allbynnau Digidol, er enghraifft creu gwefan, bydd y Contract Grant mewn grym o'r Caniatâd i Ddechrau tan 10 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ar gyfer Grantiau rhwng £250,000 a £5miliwn neu 20 mlynedd ar gyfer Grantiau rhwng £5miliwn a £10miliwn.

Ar gyfer prosiectau cyfalaf, er enghraifft adeiladu o'r newydd neu waith adfer, bydd y Contract Grant mewn grym o'r Caniatâd i Ddechrau tan 20 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cais am daliad terfynol, ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau pellach am daliadau ar gyfer y cam hwnnw gennych. Dylech felly gytuno ar eich cyfrifon terfynol gyda'ch contractwyr a'ch cyflenwyr cyn i chi wneud cais am y taliad Grant terfynol.

Os byddwch yn gwario llai na'ch costau cytunedig a bod eich Prosiect yn cael ei gwblhau o dan y gyllideb, bydd angen i chi ddychwelyd unrhyw arian sydd heb ei wario o'ch Grant i ni. Byddwn yn cytuno â chi ar y swm sydd i'w ddychwelyd fel rhan o gwblhau eich Prosiect.

Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi o bryd i'w gilydd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau gan gynnwys drwy ein harolygon cwsmeriaid.

Gweithio gyda ni

Rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni, fel y gallwn glywed am y pethau rydych yn eu cyflawni drwy gydol eich prosiect.

Er nad yw bob amser yn bosibl i ni ymweld neu gwrdd â’r sefydliadau a ariannwn, gofynnir i chi ein gwahodd i ddigwyddiadau ac agoriadau prosiect allweddol a byddwn yn ceisio anfon cynrychiolydd lle bo modd.

Rydym yn deall y gall problemau neu faterion sylweddol godi yn ystod Prosiect. Gallai hyn gynnwys:

  • unrhyw broblemau o fewn eich sefydliad
  • newidiadau i gostau'r prosiect
  • oedi difrifol
  • methu â chyflawni eich Dibenion Cymeradwy neu gyflwyno yn erbyn ein hegwyddorion buddsoddi
  • methu â chynnal y Defnydd Cymeradwy

Rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol.

Rhaid i chi ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth ac am drafod unrhyw newidiadau sylweddol i'ch Prosiect gyda ni. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich ariannu.

Ni allwch newid Dibenion Cymeradwy neu Ddefnydd Cymeradwy eich Prosiect heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw. Os ydych am i ni ystyried unrhyw newidiadau i’ch Dibenion Cymeradwy neu Ddefnydd Cymeradwy, rhaid i chi anfon manylion ysgrifenedig y rhesymau dros y cais ac esbonio sut y bydd yn effeithio ar:

  • ansawdd eich Prosiect
  • cost eich Prosiect
  • yr amser sydd ei angen arnoch i gwblhau eich Prosiect
  • hyfywedd eich Prosiect yn y dyfodol
  • mynediad cyhoeddus i'r Eiddo a ariennir gan y Grant yn y dyfodol
  • rheoli a chynnal a chadw'r Eiddo a ariennir gan y Grant yn y dyfodol

Mae'n bosib wedyn y byddwn yn ailasesu'r Prosiect neu'n cymryd unrhyw gamau eraill yr ystyriwn eu bod yn angenrheidiol. Efallai y byddwn yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer y newid dim ond os byddwch yn cytuno i delerau ac amodau ychwanegol fel y bo angen. Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i chi lofnodi gweithred amrywio neu weithred drosglwyddo'r Contract Grant os bydd newid mewn perchnogaeth.

Rhaid i unrhyw newidiadau y cytunir arnynt gyda ni fod yn ysgrifenedig a dylid eu hadrodd hefyd yn eich diweddariadau Prosiect ac/neu Adroddiad Cwblhau fel y bo'n berthnasol

Rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw os ydych am gynnig unrhyw newidiadau sylweddol i'r gyllideb ac ar gyfer unrhyw wariant mawr o'ch cyllideb wrth gefn.  Noder na allwch chi symud arian rhwng y penawdau cost cyfalaf a refeniw fel yr amlinellir yn eich cais.

Os bydd cyfanswm cost y prosiect yn cynyddu yn ystod y prosiect, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn ystyried cynyddu eich grant ac os bydd cyllideb ar gael gan Lywodraeth Cymru. Yn yr achos hwn bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bellach a gaiff ei hadolygu ar sail yr achos unigol.

Diweddariadau prosiect

Yn eich cyfarfod dechrau arni, byddwn yn cytuno gyda chi faint o ddiweddariadau Prosiect y disgwyliwn i chi eu darparu wrth i chi gyflwyno'ch Prosiect. Byddwn yn eich hysbysu am yr amlder sy'n eich cefnogi orau ac sy'n adlewyrchu risg y Prosiect.

Gan ddefnyddio'r diweddariadau hyn, byddwn yn monitro cynnydd eich Prosiect i gadarnhau ei fod yn cyflwyno'r cynllun prosiect a fanylwyd yn eich Cais a'r Dibenion Cymeradwy a nodwyd yn eich dogfennau Caniatâd i Ddechrau.

Dylai eich diweddariadau prosiect gynnwys y canlynol:

  • ffotograffau yn dangos cynnydd eich Prosiect (gorfodol)
  • cofnod o weithgareddau neu ddigwyddiadau rydych wedi’u trefnu (gorfodol)
  • disgrifiadau swydd/manylion recriwtio (gorfodol os yn berthnasol)
  • adroddiadau caffael (gorfodol os yn berthnasol)
  • cynnydd o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol, er enghraifft penodi contractwyr neu staff
  • unrhyw faterion yn codi er mwyn i ni allu ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am baratoi’r dogfennau hyn yn adran Dogfennau ategol yr arweiniad ymgeisio

Sut i gyflwyno diweddariad Prosiect

I ddarparu diweddariad Prosiect, mewngofnodwch i'n gwasanaeth ar-lein ac agorwch y Prosiect yr hoffech roi diweddariad ar ei gyfer.

Yn y cam hwn, bydd modd i chi gyflwyno cais am daliad neu ddarparu diweddariad Prosiect. Wrth ddewis 'Rhoi diweddariad prosiect', cewch eich gofyn i ateb cwestiynau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich Prosiect.

Ar ôl i chi ddarparu'r wybodaeth hon ac uwchlwytho tystiolaeth fel y bo angen, byddwch yn gallu cyflwyno eich diweddariad Prosiect.

Darparu tystiolaeth o wariant

Rhaid i chi ddarparu anfonebau ar gyfer yr holl wariant grant dros £500. Dylai pob anfoneb a gyflwynir i ni fod yn glir, yn ddarllenadwy, ac ar gyfer gwaith cymwys tuag at y Prosiect yr ydym wedi cytuno i'w ariannu. Ni ddylent fod wedi'u difrodi na'u hystrywio.

Dylai'r anfoneb gael ei chyfeirio at y sefydliad sy'n cyflwyno'r cais am daliad.

Rhaid i anfonebau gynnwys:

  • rhif anfoneb
  • y dyddiad y cawsant eu codi
  • y dyddiad y disgwylir y taliad a'r telerau talu
  • sut mae'r taliad i gael ei wneud ac i bwy
  • manylion cwmni, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif cwmni, rhif cofrestru TAW (os yn gofrestredig ar gyfer TAW)
  • disgrifiad o'r gwasanaethau a ddarparwyd
  • y swm gros (heb TAW), swm y TAW os yn gofrestredig ar gyfer TAW a'r (cyfanswm) net sy'n ddyledus

Gallwch ddarparu tabl ar wahân yn manylu ar gostau o dan £500, gan gynnwys y cyfanswm hwn fel un llinell gwariant yn eich cais am daliad.

Dylid dangos tystiolaeth o gostau cyflog trwy ddarparu slipiau cyflog neu lythyr wedi'i lofnodi gan aelod o'ch sefydliad sydd ag awdurdod ariannol.

Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill. Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio cyngor priodol ynghylch adennill TAW.

Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.

Caffael

Ym mhob prosiect, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich Grant i brynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau, byddwn yn gofyn i chi roi manylion caffael i ni (sef y broses brynu, tendro a dethol). Os ydych eisoes wedi prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau ar gyfer eich Prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich Grant os nad ydych wedi dilyn y drefn a ganlyn.

Os ydych yn gorff cyhoeddus neu os yw eich Prosiect yn destun deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus, mae'n rhaid i chi ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractau fod yn deg ac yn agored a chydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a chyflogaeth berthnasol. Dylai ffioedd unrhyw ymgynghorwyr neu weithwyr proffesiynol eraill y byddwch yn eu recriwtio yn ystod y Prosiect weddu i ganllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir. Os oes unrhyw un o'r contractwyr, cyflenwyr neu ymgynghorwyr y dymunwch eu penodi'n gysylltiedig, er enghraifft yn ffrindiau neu'n berthnasau agos, neu os oes unrhyw gysylltiad ariannol megis perchnogaeth ar y cyflenwyr hyn bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Gallwch ddarllen ein canllaw arfer da ar gaffael hefyd.

Llai na £10,000

Os ydych yn prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau am £10,000 neu lai, nid oes angen i chi dendro’n agored am y rhain na chael dyfynbrisiau lluosog. Byddwn yn disgwyl i chi ddangos gwerth cyffredinol am arian. 

Rhwng £10,000 a £50,000

Dylech gael o leiaf tri thendr neu ddyfynbris cystadleuol ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau gwerth £10,000 neu fwy (heb gynnwys TAW) yr ydym wedi cytuno i'w hariannu.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r tendr neu ddyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mwy na £50,000

Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol. Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r dyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes angen i chi ddilyn gweithdrefn dendro gystadleuol a gallwch wahodd un sefydliad yn unig i dendro. Mae hyn yn wir os:

  • yw cyfanswm pris y contract yn llai na £10,000
  • yw cytundeb fframwaith yn ei le ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, ac mae’r nwyddau neu’r gwasanaethau'n uniongyrchol berthnasol i gwmpas y gwaith prosiect sydd i’w wneud, os oes contract prosiect ar waith a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, a'i fod yn rhesymegol i'w ymestyn i ddarparu gwaith ychwanegol ar y prosiect. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi gadarnhau:
    • yn achos gwaith cyfalaf, y gellir cymhwyso prisiau’r rhan fwyaf o elfennau gwaith, gan gynnwys rhagofynion, gorbenion ac elw yn uniongyrchol o’r contract presennol i’r gwaith newydd
    • bod y gwaith newydd yn llai o ran graddfa, ac o fath tebyg i waith y prif gontract
    • na fydd y contractwr yn hawlio costau tarfu neu ymestyn y prif gontract os cyflwynir y gwaith newydd
    • bod y contract presennol yn cyfyngu ar waith sy’n cael ei wneud gan eraill
  • yw'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau gofynnol yn unigryw fel y nodir mewn manyleb gofyniad heb frand ac nad yw'n bosibl eu caffael o ffynonellau eraill trwy dendr cystadleuol
  • gallwch ddangos eich bod wedi ceisio tendro am y nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau yn agored ac yn gystadleuol ond nad oeddech wedi derbyn digon o ddiddordeb. Roedd yr unig dendr a dderbyniwyd wedi'i gyflwyno gan ddarparwr gwasanaeth a oedd yn credu ei fod yn gwneud hynny mewn cystadleuaeth ag eraill
  • yw'n waith brys lle gellir dangos y byddai’r amser a gymerir i ddod o hyd i dendrau'n peryglu’r prosiect ac yn ychwanegu’n sylweddol at gostau yn y pen draw
  • nad yw'r cwmni sy'n darparu'r tendr unigol wedi'i gysylltu, naill ai trwy berchnogaeth neu drwy gysylltiadau teuluol, ag uwch gynrychiolwyr y grantï

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried gwerthoedd cymdeithasol wrth gaffael, gan gynnwys:

  • cadwyni cyflenwi amrywiol
  • gwell cyflogadwyedd a sgiliau
  • cynhwysiad, iechyd meddwl a lles
  • cynaladwyedd amgylcheddol
  • cadwyni cyflenwi diogel

Dylech sicrhau bod unrhyw gontractwr/cyflenwr/ymgynghorydd neu bartner a allai fod yn cyfrannu at greu Allbynnau Digidol yn ymwybodol o'n gofyniad i brosiectau rannu'r rhain o dan Drwydded Priodoliad Creative Commons 4.0 Ryngwladol neu gyfwerth, a sicrhau bod gennych gytundeb i'r gwaith dilynol gael ei rannu yn y modd hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i chi geisio cytundeb ysgrifenedig i wneud trefniadau amgen gyda ni, er enghraifft defnyddio dewis arall o drwydded agored, cyn cyhoeddi unrhyw gontract gwaith.

Grantiau cymunedol

Fel rhan o’ch Prosiect, efallai eich bod wedi gofyn i ni gyfrannu tuag at gronfa o arian y gallwch ei defnyddio i ariannu grwpiau neu sefydliadau eraill, yr ydym yn eu galw’n dderbynyddion grantiau cymunedol, i gwblhau darnau o waith a fydd yn cyfrannu at nodau cyffredinol eich prosiect. Mae hwn yn cael ei alw'n grant cymunedol.

Cyn i chi lansio eich cynllun grant cymunedol, bydd angen i chi anfon manylion atom am eich prosesau ymgeisio, gwneud penderfyniadau a monitro cynnydd. Dylid anfon hwn at eich Rheolwr Cymorth Grant a fydd yn ei adolygu a'i gymeradwyo.  

Wrth wneud cais am daliad i ni, rhaid i chi gynnwys rhestr o dderbynyddion grant cymunedol fel tystiolaeth o wariant. Rhaid i'r rhestr gynnwys faint a ddyfarnwyd i bob grantï, dyddiad y penderfyniad i ddyfarnu'r grant, a rhaid iddi gael ei llofnodi gan ddau berson o'ch panel penderfyniadau grant cymunedol.  

Chi sy'n gyfrifol am fonitro cynnydd grantiau cymunedol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r telerau yr ydych wedi cytuno iddynt yn ystod eich cais am brosiect. Bydd angen i chi benderfynu sut y byddwch yn cadw mewn cysylltiad â phob derbynnydd grant cymunedol a pha wybodaeth yr hoffech ei gweld ganddynt. Gall hyn fod yn gymesur gan ddibynnu ar faint y grant ac am beth y cafodd ei ddyfarnu.  

Dylech ddweud wrthym sut mae'r cynllun grant cymunedol yn dod yn ei flaen yn eich diweddariadau prosiect i ni a gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol grantiau cymunedol o fewn eich prosiect yn eich adroddiad cwblhau.

Rheoli eich data 

Y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru fydd y cyd-reolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth. 

Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â rheolydd data arall, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr a benodir gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad allanol o’r Rhwydweithiau Natur i adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun. Byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal a byddwch yn cael cyfle i optio allan.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.