Ymholiad Prosiect: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) £50,000 i £250,000

Ymholiad Prosiect: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) £50,000 i £250,000

See all updates
Rhaid i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) rhwng £50,000 a £250,000 gyflwyno ffurflen Ymholiad Prosiect cyn symud ymlaen i gais llawn.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Rhaid i chi gyflwyno eich Ymholiad Prosiect erbyn 12 hanner dydd ar 14 Gorffennaf 2025.

Eisiau gwneud cais am fwy na £250,000? Dylech gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn lle.

Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn gysylltiedig â'r ariannu hwn. 

Cyn cyflwyno

Cwestiynau Ymholiad Prosiect

Gallwch weld y cwestiynau Ymholiad Prosiect yma.

Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?

Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw. Dywedwch wrthym hefyd os ydych wedi siarad ag unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eich prosiect, ac am beth e.e. caniatadau neu drwyddedau.

Beth yw’r angen am y prosiect hwn? 

Beth yw'r angen am y prosiect hwn o ran cefnogi amcanion y rhaglen Rhwydweithiau Natur? Beth yw cyflwr presennol y safle(oedd)?  A oes risg benodol i'r safle(oedd)?

Dywedwch wrthym am unrhyw ymchwil yr ydych wedi'i wneud gyda'ch cynulleidfa.

Mae gennych 200 o eiriau.

Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.

Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella rheolaeth cynefinoedd/ rhywogaethau, gan gynnwys gweithgarwch datblygu ac adeiladu gallu os yn berthnasol.

Mae gennych 200 o eiriau.

A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?

Rhaid i chi gynnwys y rhagddodiad #NNF5 yn nheitl eich prosiect.

Er enghraifft, #NNF5 Gwelliannau i warchodfa natur gweision y neidr, gan fod yn glir ac yn gryno ynghylch gweithgarwch a lleoliad y prosiect os yn bosib.

Os cewch wahoddiad i gyflwyno cais llawn gallwch newid eich teitl.

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.

Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig.

Dywedwch wrthym:

  • sut mae eich prosiect yn cysylltu â'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig (er enghraifft, enwau safleoedd penodol e.e. SoDdGA a/neu bobl/sefydliadau sy'n eu rheoli)
  • pam ei fod yn  bwysig (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl).
  • ble bydd y gwaith yn digwydd.
  • pa gynefinoedd/poblogaethau rhywogaethau y byddwch yn gweithio i'w gwarchod neu eu hadfer.

Mae gennych 100 o eiriau.

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn gweddu i'n holl egwyddorion buddsoddi, ond eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.

Achub treftadaeth, dywedwch wrthym:

  • sut y bydd eich prosiect yn gwella cyflwr rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru.
  • sut y byddwch chi'n adfer cysylltedd ac yn cyfrannu at Rwydweithiau Ecolegol Cydnerth (REN), hyd yn oed os bydd hyn yn y dyfodol.

Diogelu'r amgylchedd, dywedwch wrthym:

  • sut y bydd eich prosiect yn lliniaru ac yn addasu i fygythiadau i safleoedd gwarchodedig, fel newid hinsawdd, rhywogaethau estron goresgynnol, a llygredd.
  • pa wasanaethau ecosystem y byddwch yn gweithio i'w gwarchod neu eu hadfer.
  • sut y bydd eich gwaith yn cyfrannu at gydnerthedd ecosystemau ar raddfa'r dirwedd.

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad, dywedwch wrthym:

  • sut fydd cymunedau neu gynulleidfaoedd yn cymryd rhan yn weithredol yn y safleoedd gwarchodedig ac o’u cwmpas.
  • Os bydd unrhyw welliannau hygyrchedd.

Cynaladwyedd sefydliadol, dywedwch wrthym:

  • sut y bydd eich prosiect yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu a/neu'n gwella cydnerthedd eich sefydliad i sicrhau dyfodol hirdymor i rwydwaith y safleoedd gwarchodedig.

Mae gennych 300 o eiriau.

Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect?

Dywedwch wrthym bwy fydd yn rhedeg y prosiect, unrhyw bartneriaethau ac a fydd pobl yn gwirfoddoli ar y prosiect. Mae gennych 100 o eiriau.

Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Rhowch amcangyfrif o'r dyddiadau dechrau a dod i ben. Noder bod yn rhaid i brosiectau ddod i ben erbyn 30 Ionawr 2029, gan gynnwys gwerthuso a'r holl adrodd ariannol.

Mae gennych 50 o eiriau.

Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?

Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf, wedi'u rhannu i gostau cyfalaf a refeniw. Gellir amcangyfrif y costau hyn.

Mae gennych 200 o eiriau.

Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?

£[nodwch swm]

Sut i gyflwyno

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch ymholiad, cwblhewch y cwestiynau ar ein gwasanaeth ar-lein erbyn 12 hanner dydd ar 14 Gorffennaf 2025.

Cyn cyflwyno, bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano.

Clywed yn ôl gennym

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno ymholiad byddwn yn cysylltu â chi erbyn dechrau mis Awst 2025 i'ch hysbysu am y canlyniad.  Os bydd eich ymholiad yn llwyddiannus fe gewch eich gwahodd i wneud cais llawn erbyn y terfyn amser o 26 Medi 2025. 

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.