Coetiroedd Cymunedol - Cymru

Coetiroedd Cymunedol - Cymru

Cynllun grant cyfalaf yw Coetiroedd Cymunedol a fwriedir i adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd yng Nghymru

Diweddarwyd: 4 o Fawrth 2022.

Pwysig

Nid yw Coetiroedd Cymunedol yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd.

Trosolwg 

Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur yn fater brys. Mae gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd yn fwy pwysig nag erioed o'r blaen.

Dyna pam mai ariannu tirweddau a natur yw blaenoriaeth ariannu strategol allweddol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant yma'n helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Yn y cyfnod dysgu hwn, mae'n bosibl, unwaith y bydd prosiectau wedi'u cwblhau a'u gwerthuso, efallai na fydd rhai'n dod o dan frand y Goedwig Genedlaethol, ond eu bod yn brosiectau coetir da ynddynt eu hunain.

  • grantiau o £10,000 i £250,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf coetiroedd  
  • hyd at 100% o gyllid 
  • cyllid ar gyfer sefydliadau dielw sydd â chyfrif banc a chyfansoddiad 
  • cyngor cyn ymgeisio (drwy e-bost: natur@heritagefund.org.uk)

Amseriadau

  • ceisiadau ar agor gyda phenderfyniadau o fewn 8 wythnos i'r cais.

Gofynion

  • rhaid i brosiectau sy'n ymwneud â chaffael tir ddangos gwerth da am arian, cael eu cynllunio'n dda a dangos ei fod yn diwallu anghenion a nodwyd gan y gymuned


Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £2.1miliwn. 

Ariennir y rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

1. Coetiroedd o ansawdd da sy'n cael eu rheoli'n dda yn unol â Safon Coedwigaeth y DU(UKFS): "y goeden gywir yn y lle cywir"

Mae'r UKFS yn diffinio dull y llywodraethau yn y DU o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae hyn yn berthnasol i bob coetir. 

Mae'r safon yn cwmpasu gwahanol elfennau o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy gan gynnwys: 

  • bioamrywiaeth 
  • newid yn yr hinsawdd  
  • amgylchedd hanesyddol 
  • tirwedd  
  • pobl  
  • pridd  
  • dŵr    

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli a gwella coetiroedd, ewch i:

2. Hygyrch i'r cyhoedd

Gweler ein canllawiau Tirweddau a Natur.

3. Maint lleiaf

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint na ffurfweddiad ardaloedd o goed i'w plannu.

Gallai planhigfeydd newydd fod:    

  • creu bloc newydd o goetir ar safle chwarel adfeiliedig
  • coed stryd o fewn cymdogaeth drefol
  • coridor eang gan gynnwys llwybr troed newydd i gysylltu dau goetir presennol

Gallai gwelliannau i goetiroedd presennol fod fel a ganlyn:

  • mabwysiadu coetir gan y gymuned leol
  • Teneuo
  • gosod llwybrau troed
  • cynnal a chadw cyfleusterau mynediad diraddiedig mewn coetiroedd cymunedol a ddefnyddir yn helaeth

Ar gyfer pob cynllun, bydd angen cynlluniau rheoli coed neu goetiroedd. Os nad yw'r rhain eisoes ar waith yna gall y grant dalu costau paratoi cynllun rheoli.

4. Cynnwys y gymuned

Rhaid i'r prosiectau hyn gael mewnbwn sylweddol gan bobl leol. Er mwyn i'ch prosiect fod yn llwyddiannus, bydd yr ystod o bobl sy'n elwa o dreftadaeth yn fwy amrywiol na chyn i'ch prosiect ddechrau. 

Bydd cynnwys y gymuned yn helpu i annog pobl i ddefnyddio coetiroedd drwy ddarparu llwybrau troed, llwybrau natur, cerfluniau ac ati.

Yn ddelfrydol, byddai cynnwys y gymuned hefyd yn cynnwys:

  • gweithgareddau i gynnwys pobl yn y gwaith o adfer a chreu'r coetiroedd
  • cyfleoedd economaidd i fentrau lleol
  • arloesi a datblygu
  • gweithgareddau addysgol
  • rheoli'r coetiroedd trwy sefydlu grwpiau gwirfoddol, grwpiau ysgol, mentrau newydd ac ati
Cysylltedd

Wrth i goetiroedd newydd gael eu creu, dylid ystyried cysylltedd â choetiroedd eraill.

Ym mlynyddoedd cynnar y Goedwig Genedlaethol efallai na fydd hyn bob amser yn ymarferol, ond bydd yn dod yn bwysicach wrth i arwynebedd coetiroedd yng Nghymru gynyddu. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o Goedwig Genedlaethol gysylltiedig ar draws nifer o leoliadau, yn rhychwantu hyd Cymru.

Rydym yn awyddus i'n buddsoddiad mewn treftadaeth naturiol gael yr effaith fwyaf o ran gwarchod a gwella cynefinoedd sy'n bodoli eisoes. Efallai y byddwch am ystyried prosiect sy'n gwella nifer o gynefinoedd presennol neu sy'n helpu i gydgysylltu cynefinoedd presennol â phlannu newydd fel coetiroedd neu ddolydd, neu gyda choridorau tirwedd fel gwrychoedd.

Er y gallwn ariannu'r broses o greu cynefinoedd cwbl newydd, ein pryder mwyaf yw gwella ansawdd a gwydnwch cynefinoedd â blaenoriaeth sy'n bodoli eisoes. Gallai hyn fod drwy wella eu hansawdd a'u rheolaeth, drwy greu lleiniau clustogi, drwy wneud cynefinoedd yn fwy neu drwy greu mwy o gysylltiad rhwng cynefinoedd cyfagos eraill. 

Mae'n bwysig eich bod yn meddwl sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion ar gyfer y cynllun grant hwn

Rhaid i'ch prosiect:

  1. creu, cyflymu'r gwaith o adfer neu wella coetiroedd cymunedol
  2. darparu coetiroedd hygyrch i bawb eu mwynhau
  3. creu coetir gyda chynllun ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol
  4. cael eu harwain gan y gymuned leol neu eu cyd-gynhyrchu â hi a'u grymuso i greu a gofalu am goetiroedd
  5. ddiwallu anghenion pobl leol, fel amwynder cyhoeddus ac wedi'u cynllunio i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau ecosystem o fewn yr ardal leol
  6. dangos manteision lluosog sy'n rhychwantu lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
  7. ystyried mapiau datganiad ardaloedd Cyfoeth Naturiol Cymru, canllawiau UKFS ar yr ardaloedd sy'n addas i'w plannu a'r map cyfleoedd coetiroedd i gael arweiniad ar ardaloedd ar gyfer plannu newydd

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn meysydd sy'n:

  • yn canolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig 
  • galluogi rhwydweithiau natur cysylltiedig ar hyd a ledled Cymru 

Costau cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn arian sy'n cael ei wario ar fuddsoddi a phethau a fydd yn creu twf yn y dyfodol. Natur yw ein hased mwyaf – mae'n sail i bopeth a wnawn yn awr ac yn y dyfodol, fel cymdeithas. Mae enghreifftiau o wariant cyfalaf yn cynnwys:

  • paratoi safle fel ffensio, clirio sbwriel, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol neu adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch  
  • prynu coed, llwyni a phlanhigion eraill i greu'r coetir (gweler Cysylltedd uchod) 
  • prynu peiriannau. Mae gwariant cyfalaf hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar ddefnyddio'r peiriannau, y gweithredwyr a'r tanwydd i'w defnyddio yn ystod y prosiect. 
  • cynllunio prosiectau, caffael a rheolaeth ariannol ar gostau'r prosiect
  • cost llafur sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithgareddau sy'n gysylltiedig â chreu'r coetir 
  • costau sy'n hyrwyddo'r coetir i'r gymuned ehangach er enghraifft: argraffu taflenni  

Gellir defnyddio hyd at uchafswm o 10% o'r grant cyfalaf hwn i alluogi cyflawni prosiectau. Drwy hyn rydym yn golygu costau sy'n eich galluogi i greu'r coetir megis cynllunio prosiectau, deunyddiau caffael, rheolaeth ariannol ar y prosiect, casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli am gyflawni prosiectau.

Ni allwch gynnwys unrhyw gostau sefydliadol craidd fel prydles swyddfa, gwresogi, goleuo, TGCh, gan mai dyma'ch costau rhedeg busnes arferol. O Flwyddyn 2 y grant ymlaen, ni allwch gynnwys cost barhaus cynnal a chadw, hyfforddi na chynnal eich prosiect.

Costau gweithgareddau

Gallwch hefyd gynnwys costau sy'n galluogi'r prosiect i gynnwys pobl yn y gwaith o gyflawni a bodloni canlyniad gorfodol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth [gan gynnwys Tir a Natur]"). Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein canlyniad gorfodol yn y canllawiau ymgeisio manwl isod.

Gall y costau hyn fod hyd at 30% o gyfanswm y grant y gwnaed cais amdano, a gallai gynnwys: 

  • digwyddiadau i hyrwyddo'r cynllun coetir i'r gymuned ehangach, ac i ddathlu cyflawniadau cymunedol
  • oriau ychwanegol i gydlynydd gwirfoddol presennol recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn darparu'r coetir 
  • ymarfer da a threuliau gwirfoddoli (yn unol â chanllawiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • gweithgarwch hyrwyddo prosiectau 
  • unrhyw wariant rhesymol a fydd yn galluogi'r prosiect i lwyddo 

Nid yw'r cynllun grant hwn yn ariannu Cost Adennill Llawn costau craidd sefydliadau.

Clefyd Coed Ynn

Ni fydd y Gronfa'n ystyried ceisiadau am brosiectau i ddileu neu reoli Clefyd Coed Ynn yn unig. 

Fodd bynnag, gellir ystyried prosiectau sydd ag elfen fach o Gefyd Coed Ynn, fel rhan o brosiect ehangach i adfer a gwella natur. Bydd angen dangos tystiolaeth gref sy'n dangos cynnydd net i fioamrywiaeth a chreu ecosystemau gwydn. 

Rheolaeth barhaus 

Dim ond pan fydd cynllun clir ar gyfer rheoli parhaus ar ôl i'r cyllid ddod i ben y gellir cynnig cyllid. Nid oes angen i chi gyflwyno cynllun ffurfiol i ni ond byddwn am weld ei fod yn cael ei ystyried a bod cynllun rheoli coetir ar waith. 

Yr Iaith Gymraeg

Mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd ar eich gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru. Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais.

Cydnabyddiaeth

Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yng nghanllawiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chanllawiau Llywodraeth Cymru

Archebwch deunyddiau Cymraeg/Saesneg yn unig. 

Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yn arweiniad Llywodraeth Cymru. Bydd canllawiau brandio'r Goedwig Genedlaethol ar gael o fis Tachwedd 2020.   

Cyflwynwch gais llawn drwy ein porth ar-lein ar unrhyw adeg a bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn wyth wythnos.

Sut i ymgeisio

  1. Ewch i'n porth ymgeisio a chofrestrwch gyfrif (neu mewngofnodwch os ydych wedi gwneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o'r blaen). 
  2. O'r ddewislen, dewiswch £10,000–£250,000.
  3. Cwblhewch a chyflwynwch Ffurflen Ymholiadau Prosiect. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni roi adborth ar eich syniad cyn i chi gwblhau cais llawn. 
  4. Unwaith y byddwch wedi derbyn adborth ar eich Ymholiad Prosiect, cwblhewch a chyflwynwch gais llawn. 

Nid oes ffurflen gais bwrpasol am Goetiroedd Cymunedol Coedwigoedd Cenedlaethol. Dylech ddilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus ochr yn ochr â'n canllawiau rheolaidd ac ateb pob cwestiwn yn ein ffurflenni cais grant (£10,000-£250,000). Mae dolenni i ganllawiau ymgeisio a nodiadau cymorth isod.

Dechreuwch deitl eich prosiect gyda #COED i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir e.e. #COED Coetir cymunedol Bangor. Mae terfyn o 15 gair.

Bydd angen i chi ddefnyddio'r canllawiau hyn ochr yn ochr â'r nodiadau cymorth ymgeisio i ateb y cwestiynau

Arweiniad ymgeisio 

Nodiadau Cymorth 

Adran 1

Cwestiwn 1a ac 1b – defnyddiwch y nodiadau cais tudalen 4 i'ch helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Cwestiwn 1c – mewn dim mwy na 200 gair dywedwch wrthym:

Cwestiwn 1d – cyfeiriwch at nodiadau cymorth ymgeisio tudalen 4 (rhowch gyfeiriad grid os gallwch)

Cwestiwn 1e – nodwch ddyddiad dechrau a gorffen eich prosiect..   

Cwestiwn 1f – ysgrifennwch ddim yn berthnasol.

Cwestiwn 1g – defnyddiwch dudalen 5 y nodiadau cais i ateb y cwestiwn hwn. Efallai y bydd cyngor wedi dod i law gan eich swyddog bioamrywiaeth lleol, yr Ymddiriedolaeth Natur, swyddog cynllunio ac ati.

Cwestiwn 1h – defnyddiwch tudalen 5 y nodiadau cais i ateb y cwestiwn hwn i ddweud wrthym am y cymunedau yr ydych yn gweithio gyda nhw. Dywedwch wrthym a yw eich prosiect wedi'i leoli mewn ardal o amddifadedd ac yn darparu lleoliad/lleoliadau cod post y prosiect.

Cwestiwn 1i ac 1j – defnyddiwch tudalen 6 y nodiadau cymorth ymgeisio i ateb y cwestiynau hyn.

Cwestiwn 1k – defnyddiwch nodiadau cymorth ymgeisio tudalen 6 i ateb y cwestiwn hwn ond cyfeiriwch hefyd at logo Llywodraeth Cymru y bydd angen i chi ei ddangos hefyd.

Adran 2

Cwestiwn 2a – rhowch ddisgrifiad o'r safle fel y mae heddiw a sut rydych yn ceisio ei wella gyda'r prosiect hwn. Rhowch wybodaeth ffeithiol am yr ased megis maint, nodweddion, cyflwr a pham ei fod yn bwysig i'ch ardal leol.

Cwestiwn 2b – ticiwch Dirweddau a Natur.

Cwestiwn 2c – dywedwch wrthym a oes gan eich safle neu a ydych yn ceisio gwella cynefinoedd neu rywogaethau a warchodir, er enghraifft rhywogaethau a nodwyd mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, rhywogaethau o blanhigion a warchodir gan Ewrop ac ati.

Cwestiwn 2d – ticiwch yr opsiynau sy'n berthnasol.

Cwestiwn 2e – Cynllun cyfalaf yw hwn felly bydd angen i chi ateb ydw (gweler y diffiniad ar dudalen 2). Dilynwch y nodiadau cymorth ymgeisio tudalen 8 i roi mwy o wybodaeth i ni.

Cwestiwn 2f a 2g – defnyddiwch tudalen 8 a 9 y nodiadau cymorth ymgeisio i ateb y cwestiwn hwn.

Adran 3

Defnyddiwch tudalen 10 ac 11 y nodiadau cymorth ymgeisio i ateb yr holl gwestiynau yn yr adran hon.

Adran 4

Ar gyfer y rhaglen grant hon, dim ond y canlyniad 'Bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth' y mae angen i chi ei chyflawni.

  • mae terfyn o 300 gair ar gyfer yr adran hon
  • nid ydym yn disgwyl i chi gyflawni unrhyw ganlyniadau eraill gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda'r prosiect hwn

Beth mae'r canlyniad yn ei olygu?

Bydd mwy o bobl yn ymgysylltu â'n tirweddau a'n natur a byddant yn fwy amrywiol na chyn eich prosiect. Bydd newidiadau wedi deillio'n uniongyrchol o'ch prosiect, ac yn enwedig eich gwaith ymgysylltu â'r gymuned ac ymgynghoriad cymunedol. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y bobl sy'n ymgysylltu â'ch treftadaeth naturiol – a'r rhai nad ydynt – cyn, yn ystod ac ar ôl eich prosiect.

Sut y byddwch yn gwybod beth yr ydych wedi'i gyflawni?

Byddwch yn gallu dangos bod proffil eich cynulleidfa wedi newid; er enghraifft, mae'n cynnwys pobl o ystod ehangach o oedrannau, cefndiroedd ethnig a chymdeithasol; mwy o bobl anabl; neu grwpiau o bobl nad ydynt erioed wedi ymgysylltu â'ch treftadaeth o'r blaen.

Byddwch yn gallu dangos sut mae mwy o bobl, a gwahanol bobl, yn ymgysylltu â'n treftadaeth naturiol fel ymwelwyr, cyfranogwyr mewn gweithgareddau, neu wirfoddolwyr, yn ystod eich prosiect ac unwaith y bydd wedi gorffen.

Adran 5

Gan ddefnyddio'r cais, nodwch dudalennau 15-17, dywedwch wrthym faint y bydd yn ei gostio i gyflawni eich prosiect. Cyn i chi ddechrau:

Costau na allwn eu hariannu yn y rhaglen grant hon:

  • Adennill Costau Llawn
  • statudol a/neu gyfrifoldebau cyfreithiol
  • TAW adenilladwy
  • costau prosiect parhaus
  • costau ar gyfer gweithgarwch sydd wedi digwydd cyn dyfarnu grant
  • prosiectau ar dir preifat lle nad oes budd cyhoeddus
  • gweithgaredd yn costio dros 30% o gyfanswm y cais am grant

Adran 6

Defnyddiwch tudalennau 18-19 y nodiadau cymorth ymgeisio i'ch helpu i ateb pob cwestiwn yn yr adran hon.

Adran 7

Defnyddiwch dudalennau 20-22 y nodiadau cymorth i'ch helpu i nodi pa ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Adran 8

Defnyddiwch dudalen 23 yn nodiadau cymorth y rhaglen i'ch helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Bydd angen i chi ddangos sut mae eich prosiect wedi bod o fudd i'r amgylchedd

Beth sydd angen i chi ei wneud

  • Dewiswch y dangosyddion perfformiad sydd fwyaf perthnasol i'ch prosiect o'r rhestr isod.
  • Cyflwynwch eich rhestr o ddangosyddion perfformiad (gan gynnwys sut y byddwch yn mesur pob un) fel atodiad i'ch cais.

Os byddwch yn llwyddo i gael grant, bydd y dangosyddion perfformiad hyn yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect.

Coetir   

Maint y coetir [wedi'i fesur mewn metrau sgwâr]    

Rhaniad conwydd/llydanog [wedi'i fesur yn % yr hectarau]

Rhywogaethau coed a nifer o bob     
 
Planhigion Newydd y flwyddyn [wedi'u mesur mewn metrau sgwâr]

Cysylltedd [pellter i'r coetir agosaf, wedi'i fesur mewn milltiroedd]

Canran y coetir sydd wedi'i adfer    

Canran y Coetir Hynafol                     

Coetir sy'n cael ei reoli'n dda

Pa lefel sy'n cynllunio i fodloni safonau UKFS
     
Torri coetiroedd yn ôl defnyddiau [mesurir yn %]

Bioamrywiaeth

Gwelliannau pryfed peillio [amcangyfrif o'r nifer]
    
Rhywogaethau â blaenoriaeth [nifer a rhywogaethau sy'n bwriadu elwa]

Gwiwerod, ceirw, baedd ac ati [rhifau/rhywogaethau]

Ystlumod [rhifau/rhywogaethau]

Adar coetir [rhifau/rhywogaethau]

Rhywogaethau mwsogl/madarch

Manteision amgylcheddol

Amcangyfrif o'i ostyngiad mewn CO2 [wedi'i fesur mewn allyriadau cyfatebol]

Gwell ansawdd aer

Gwell ansawdd dŵr

Mynediad i ddŵr [nifer y ffynhonnau ail-lenwi/dŵr]

Hygyrchedd

Nifer yr ymwelwyr â choetiroedd

Amlder ymwelwyr [yn flynyddol]

Prif ddull cludiant ymwelwyr i goetir

Pellter a deithiwyd i goetir

Rheswm dros ymweld â choetir

Cyfleusterau ar gael (ie toiledau, caffi, maes parcio)

Addasiadau a wnaed i alluogi mwy o bobl i gael mynediad i'r safle – llwybrau pren, rampiau, arwynebau

Treftadaeth naturiol a thwristiaeth

Y Gymraeg: bydd arwyddion, dogfennau addysgol yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog

Llwybrau beicio, llwybrau cerdded [wedi'u mesur o hyd/milltiroedd]

Atyniadau eraill, mannau dysgu

Cynnwys y gymuned [wedi'i fesur mewn oriau]

Gwirfoddolwyr dan sylw [rhif]

Budd economaidd

Nifer y cyflogeion a/neu swyddi newydd a grëwyd

Ariennir y rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Community Woodlands partnership logo