Yr her i ddod hyd i Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2021

Yr her i ddod hyd i Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2021

Museum + Heritage Awards 2019
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn noddi gwobr cynaliadwyedd am yr ail flwyddyn yng Ngwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth 2021.

Ar adeg o argyfwng ecolegol, gall y sector treftadaeth chwarae ei ran i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur y Gronfa: "Mae'r wobr hon yn arddangos y sefydliadau treftadaeth sy'n arwain y ffordd mewn arferion cynaliadwy. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn eithriadol o bwysig i ni yn Y Gronfa, a dyna pam rydym yn taflu goleuni ar y sefydliadau hyn drwy noddi'r wobr hon am yr eildro.

"Gwnaeth ansawdd y ceisiadau argraff fawr arnom yn 2020 ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyd yn oed mwy o enghreifftiau o arloesi cynaliadwy a mentrau ecogyfeillgar eleni."

Gwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth 

Museums + Heritage Awards 2020 winner announcement

Mae gwobrau blynyddol Amgueddfeydd a Threftadaeth yn tynnu sylw at rai o'r sefydliadau diwylliannol gorau yn y DU ac mae wedi dod yn feincnod ar gyfer rhagoriaeth yn y sector.

Dywedodd Anna Preedy, cyfarwyddwr Gwobrau Blynyddol Amgueddfeydd + Treftadaeth: "Mae'r gwobrau eleni wedi cael eu hailddiffinio i roi cyfle unigryw i gael eu cydnabod am symudiadau beiddgar, creadigol a wnaed yn ystod cyfnod eithriadol o heriol."

Mae gwobr Prosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn yn cynnig cydnabyddiaeth am ymdrechion unigolion a sefydliadau. Nid yn unig hyn, ond bydd yr arferion a ddefnyddir o fewn y prosiect buddugol yn dylanwadu ar ddyfodol cynaliadwyedd yn y sector.

Enillwyr gwobrau 2020 

Museum of Oxford's Queering Spires exhibiton. Display of corkboards and visitor contributions

Arweiniodd mentrau arloesol at feirniaid Gwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth i gyhoeddi Amgueddfa Rhydychen fel enillwyr 2020 ar gyfer eu harddangosfa, Queering Spires: hanes o leoedd LGBTIQA+ yn Rhydychen.

Defnyddiodd Amgueddfa Rhydychen ddulliau arloesol, megis:

  • defnyddio deunyddiau a fenthycwyd neu a ddefnyddiwyd yn flaenorol
  • defnyddio deunyddiau y gellid eu hailgylchu yn dilyn yr arddangosfa
  • osgoi dosbarthu drwy gasglu eitemau gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy
  • dod o hyd i eitemau gan sefydliadau elusennol a moesegol
  • dod o hyd i eitemau yn lleol

Dywedodd Marta Lomza, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned yn Amgueddfa Rhydychen: "Rydym bellach yn gwybod ei bod yn bosibl cael cynaliadwyedd wrth wraidd curadu arddangosfeydd, felly byddwn yn sicrhau ein bod yn dal ein hunain i'r safon honno ac yn parhau i wthio ein ffiniau ein hunain."

Dysgwch fwy am yr arferion cynaliadwy a ddefnyddir yn arddangosfa Queering Spires yn ein hastudiaeth achos.

Sut i ymgeisio

Rydym yn chwilio am sefydliad treftadaeth sy'n gwneud gwahaniaeth ac yn dangos i ni beth y gellir ei wneud gydag arloesedd ac angerdd.

Rydym yn chwilio am y prosiect neu'r arddangosfa amgylcheddol gynaliadwy fwyaf rhagorol a all ddangos arfer gorau yn ei ddull o reoli effeithiau amgylcheddol yn ystod 2020.

Eleni, rydym yn chwilio am enghreifftiau o:

  • mesurau effeithlonrwydd ynni 
  • ailgylchu ac ailddefnyddio
  • caffael cynaliadwy
  • teithio, cynllunio ac annog ymwelwyr gwyrdd

Dylai ceisiadau hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy', yn enwedig yn y cyfnod anodd presennol.

Mae cymryd rhan yn y gwobrau yn rhad ac am ddim. Dysgwch fwy a sut i wneud cais ar wefan Museums + Heritage Awards.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...