Y Loteri Genedlaethol yn rhoi mwy na £1biliwn i fynd i'r afael ag effaith COVID-19

Y Loteri Genedlaethol yn rhoi mwy na £1biliwn i fynd i'r afael ag effaith COVID-19

Pwffin yn lledaenu ei adenydd gydag ynysoedd Sgomer a Skokholm sy'n edrych dros y môr yn y cefndir
Mae'r Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £1.2biliwn i gefnogi pobl a phrosiectau ledled y DU i ymdopi â heriau pandemig y coronafeirws (COVID-19).  

Mae graddau'r gefnogaeth, a ddatgelwyd wrth i ni nesáu at nodi blwyddyn ers dechrau'r cyfyngiadau symud, wedi helpu i roi hwb i'r sectorau celfyddydol, treftadaeth, chwaraeon a chymunedol. Wrth wneud hynny mae wedi diogelu dyfodol miloedd o sefydliadau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.  

"Mae'r cyllid hwn wedi helpu i leddfu rhai o'r heriau sylweddol a digynsail a wynebir gan y sectorau cymunedol, y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon o ganlyniad i'r pandemig."  

Ros Kerslake, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol a Phrif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Cefnogi Cymunedau

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyllid hwn wedi ariannu miloedd o raglenni a mentrau, sy'n amrywio o gefnogi'r henoed, hybu iechyd corfforol a meddyliol yn y gymuned a mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Mae'r cyllid yma'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n codi £30miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da. 

Mae rhai o'r sefydliadau rydym wedi'u hyrwyddo yn cynnwys:

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru – £48,000

Roedd y grant yn caniatáu i bedwar warden barhau i ofalu am nythfeydd enfawr adar môr prin sy'n nythu ar ynysoedd Sgomer a Skokholm.

Roedd angen y cyllid gan fod y pandemig wedi dod â thwristiaeth i stop ac wedi distrywio ffrydiau incwm yr ymddiriedolaeth.

Destined yn Amgueddfa Reilffordd Cwm Foyle – £45,100

Mae Destined yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu yng ngogledd-orllewin Gogledd Iwerddon ac mae'r cyllid brys wedi helpu i ailagor yr amgueddfa'n ddiogel.

Mae'r amgueddfa'n hanfodol i alluogi Destined i gynhyrchu incwm i gynnal ei gwasanaethau cymorth i bobl ifanc. Roedd agor yr amgueddfa hefyd yn sicrhau y gallai pobl leol barhau i gael mynediad at dreftadaeth rheilffyrdd yr ardal a dysgu amdani.

Ymddiriedolaeth Palas Trydan Harwich – £11,300

Mae Ymddiriedolaeth Harwich Electric Palace yn un o ddim ond pum sinemâu rhestredig gradd II* yn y DU, ac roedd y grant yn galluogi'r ymddiriedolaeth i adolygu ei chynllun busnes er gwaethaf y pandemig.

Roedd yn gallu prynu cyfarpar diogelu personol ac offer awyr agored fel y gallai barhau i weithredu fel lleoliad treftadaeth a chelfyddydau cymunedol. 

Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban – £250,000

Gyda chyllid brys o £250,000, roedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn gallu ailagor Profiad Brwydr Bannockburn mewn ffordd ddiogel a diddorol i ymwelwyr o dan gyfyngiadau coronafeirws.

Defnyddiwyd yr arian hefyd i wella'r profiad i ymwelwyr ar dir y frwydr 1314, gan ychwanegu paneli gwybodaeth a phrofiad sain i'r Rotunda.

Gwneud cais am arian gan y Loteri Genedlaethol

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £3,000 hyd at £5miliwn. Byddwn yn blaenoriaethu prosiectau sy'n cyfrannu at adferiad o'r argyfwng coronafeirws (COVID-19). Darllenwch y canllawiau i gael gwybod mwy.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...