Rydym wedi dyfarnu £32 miliwn i adfer adeiladau a threftadaeth naturiol hoff annwyl
Yn ein cyfarfodydd pwyllgor ym mis Medi, dyfarnwyd dros £32 miliwn mewn grantiau i brosiectau ar draws y DU. Yn eu plith mae chwe sefydliad sy'n gweithio i wneud eu hardal leol yn lle gwell i fyw ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.
Gyda'i gilydd, bydd y prosiectau'n gwella cyflwr treftadaeth a mynediad ati, yn adfer cynefinoedd ac yn dod ag adeiladau rhestredig segur sydd mewn perygl yn ôl i ddefnydd.
Yr hyn rydym wedi'i ariannu
Plasty Plas Gunter, Y Fenni
Gyda'n grant o £3.3m, bydd Ymddiriedolaeth Plas Gunter yn adfer tŷ a chwaraeodd rôl arwyddocaol ym mrwydrau gwleidyddol a chrefyddol yr 17eg ganrif. Yn y 1670au, caniataodd y perchennog Thomas Gunter i offeren Gatholig gael ei chynnal yn anghyfreithlon mewn capel yn yr atig. Nawr bydd atgyweiriadau hanfodol yn galluogi'r adeilad rhestredig Gradd II* i agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Dywedodd Owen Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Plasty Plas Gunter: “Mae potensial sylweddol i’n prosiect ennyn diddordeb mwy o bobl â threftadaeth, rhoi hwb i’r economi leol a gwneud Y Fenni yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”
Sunderland Museum and Winter Gardens
Rydym wedi dyfarnu £5.2m i Sunderland Museum and Winter Gardens tuag at raglen ddatblygu a fydd yn adfer yr adeilad hoff annwyl ac ailddychmygu ei arddangosfeydd a'i gyfleusterau. Bydd y prosiect yn creu gofod cynhwysol a chroesawgar sy'n cefnogi adfywiad y ddinas ac yn adlewyrchu ei chymunedau lleol.
Inverbroom Estate, Ucheldiroedd Yr Alban
Bydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban yn trawsnewid Inverbroom ar gyfer pobl leol a natur gyda grant datblygu o £745,268 a'r posibilrwydd o £1m pellach o arian cyflwyno. Bydd cynlluniau newydd yn helpu'r ystâd – sy'n cynnwys orgorsydd prin, coetiroedd lled-naturiol a nifer o lynnoedd – i fod yn fodel ar gyfer adferiad byd natur ar raddfa tirweddau.
Afon Roding
Bydd cyllid o £1.6m yn rhoi hwb i adferiad Afon Roding – sy'n rhedeg o Essex i Barking Creek yn Nwyrain Llundain – ar ôl degawdau o lygredd ac esgeulustod. Nod y prosiect yw gwella ansawdd dŵr, cefnogi adferiad byd natur ac ailgysylltu cymunedau â'u hafon leol.
Benton End, Suffolk
Rydym wedi dyfarnu grant datblygu o £294,221 i Benton End cyn grant cyflwyno posibl o £2.6m. Bu'r tŷ rhestredig Gradd II* o'r 16eg ganrif yn gartref i'r artist a'r garddwr Syr Cedric Morris (1889–1982) a'i bartner, yr arlunydd a'r cerflunydd Arthur Lett-Haines (1894–1978). Bydd y prosiect yn datblygu cynlluniau i atgyweirio'r adeilad a'i wneud yn fwy hygyrch i ymwelwyr.
Carlisle Memorial, Belfast
Mae Carlisle Memorial wedi derbyn grant datblygu o £223,076 cyn grant cyflwyno posibl o £1.1m i greu cynlluniau ar gyfer adfer ac uwchraddio'r hen adeiladau eglwys restredig Gradd B1. Mae'r tirnod yn Belfast ar hyn o bryd ar Gofrestr Treftadaeth Adeiledig mewn Perygl Gogledd Iwerddon.
Achub treftadaeth
Mynnwch fwy o wybodaeth am brosiectau sy'n amddiffyn treftadaeth sydd mewn perygl ac yn helpu cymunedau i fwynhau'r lleoedd maen nhw'n gofalu amdanynt.