Chwe ardal, tref a dinas ar draws y DU i elwa o fuddsoddi hirdymor

Chwe ardal, tref a dinas ar draws y DU i elwa o fuddsoddi hirdymor

Hundreds of people are gathered, enjoying the sunshine, around a historic ship in dry dock on the Belfast quayside.
Dathlu Gŵyl Forwrol Belfast ar lannau Afon Lagan. Llun: Maritime Belfast Trust.
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ariannu ar gyfer y Treftadleoedd newydd hyn, y bennod nesaf mewn taith 10 mlynedd i helpu lleoedd i ffynnu drwy gysylltu cymunedau â'r dreftadaeth ar garreg eu drws.

Mae'r lleoliadau newydd yn ymuno â'r naw Treftadleoedd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023. Gyda'i gilydd, byddant yn rhannu buddsoddiad o £200 miliwn sydd â'r nod o ddatgloi potensial treftadaeth i roi hwb i economïau lleol a balchder yn eu lle.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd ein harian yn creu cyfleoedd i bobl leol ddatblygu syniadau beiddgar, dysgu sgiliau treftadaeth a chreu cyflogaeth.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Two visitors listen to a tour guide explain the history of a ring of standing stones.
Taith gerdded dywysedig yng Nghylch Brodgar, rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Llun: Orkney.com.

Y chwe Treftadleoedd newydd yw:

Barking a Dagenham, Llundain

Un o'r bwrdeistrefi sy'n esblygu gyflymaf yn y brifddinas – ifanc, amrywiol a chyfoeth o hanes, o'i wreiddiau diwydiannol i'w chysylltiadau â Chynllwyn y Powdwr Gwn.

Ynys Môn, Gogledd Cymru

Ynys o forliniau dramatig, treftadaeth gyfoethog a harddwch naturiol. O erddi cain Plas Newydd i dywod euraidd Bae Traeth Coch, mae'n hafan o dreftadaeth a hanes.

Tameside, Manceinion Fwyaf

Yn gyfuniad o naw ardal wahanol, mae'n gartref i drysorau diwylliannol fel Amgueddfa Portland Basin, Oriel Gelf Astley Cheetham ac Amgueddfa Catrawd Manceinion, ochr yn ochr ag eglwysi hanesyddol a threftadaeth ddiwydiannol.

Ynysoedd Orch, Yr Alban

Ynysfor o dros 70 o ynysoedd gydag ysbryd cymunedol bywiog ac etifeddiaeth ddiwylliannol sy'n ymestyn dros 5,000 mlynedd, o aneddiadau Mesolithig i gadarnleoedd y Llychlynwyr.

Glannau Hanesyddol Belfast, Gogledd Iwerddon

Yn borthladd gweithredol ers dros 300 mlynedd, roedd Belfast ar un adeg yn gartref i iard longau fwyaf y byd. Heddiw, mae glannau Afon Lagan yn gartref i gymdogaethau bywiog sy'n llawn treftadaeth a natur, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer adfywio.

Dudley, Gorllewin Canolbarth Lloegr

Wedi'i lleoli yng nghanol y Wlad Ddu, mae'r fwrdeistref yn cyfuno treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog â gwarchodfeydd natur a rhyfeddodau daearegol.

A large red book, open to a page depicting a painting of a historic Barking and Dagenham pub, captured in the early 20th century.
Ymchwilio i'r archifau i archwilio hanes cymdeithasol Barking a Dagenham. Llun: Grainge Photography.

Cyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033

Y chwe Lle Treftadaeth newydd sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yw'r cam diweddaraf yn y broses o gyflwyno ein Strategaeth Treftadaeth 2033, ac mae'n cyfrannu at ein gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

Mae pob lleoliad wedi'i ddewis drwy ddull seiliedig ar dystiolaeth sy'n cyfuno ymchwil feintiol newydd gyda mewnwelediad lleol i nodi lleoedd sydd ag anghenion, cyfleoedd a photensial o ran treftadaeth.

The thirteenth century keep of Dudley Castle, flying a cross of St. George, rises above the skyline of the town.
Dudley Castle. Llun: Dudley Council.

Hyd yma, rydym wedi buddsoddi mwy na £4m mewn Treftadleoedd ar draws y DU, o Gastell-nedd Port Talbot i Ogledd-ddwyrain Swydd Lincoln.

Sbarduno dychymyg, cynnig ysbrydoliaeth

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae Treftadleoedd yn ymwneud â dathlu amrywiaeth o dreftadaeth – gan sbarduno dychymyg, cynnig ysbrydoliaeth a helpu cymunedau i ffynnu trwy gysylltu’r gorffennol â’u dyfodol. 

“Ein hymrwymiad yw ymwreiddio treftadaeth mewn strategaethau lleol, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi uchelgeisiau hirdymor. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd ein harian yn creu cyfleoedd i bobl leol ddatblygu syniadau beiddgar, dysgu sgiliau treftadaeth a chreu cyflogaeth.”

Dyfodol llewyrchus, wedi'i adeiladu o amgylch treftadaeth

Croesawodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard, y cyhoeddiad: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i Ynys Môn. Rydym yn falch bod yr ynys wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ac yn ddiolchgar i'r Gronfa Treftadaeth am ei hymrwymiad ariannu.

A lone white lighthouse sits atop a stack of rock on the craggy shoreline of Ynys Mon, looking out over the Menai Strait.
Tŵr Mawr Lighthouse, Ynys Môn.

“Ein nod nawr yw ehangu cynnig treftadaeth gyfoethog yr ynys, gan sicrhau y gall wneud cyfraniad sylweddol at gymunedau lleol a dyfodol economaidd-gymdeithasol Ynys Môn. Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid lleol, grwpiau cymunedol a grwpiau â diddordeb i gyflawni hyn.”

Cefnogi cyfleoedd newydd a balchder mewn lle

Dim ond un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi adfywio, cydnerthedd a pherthnasedd treftadaeth ar draws y DU yw Treftadleoedd.

Os ydych chi'n ystyried prosiect a arweinir gan dreftadaeth i drawsnewid lle fel stryd fawr, cymdogaeth hanesyddol neu dirwedd naturiol, gallwch wneud cais am hyd at £10m trwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ymchwilio i'n hariannu.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...