Nodi Wythnos Genedlaethol y Coed gyda buddsoddiad o £3.9 miliwn yng nghoetiroedd Cymru
Wrth i ni ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed mae arian wedi'i ddyfarnu i 23 o brosiectau newydd gan Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG). Byddant yn gweithio i adfer, mwyhau a gwella mynediad i goetiroedd yng Nghymru.
Rydym yn cyflwyno'r cynllun mewn partneriaeth â Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru – menter sydd â'r nod o fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a chefnogi iechyd a lles cymunedau trwy goetiroedd a choedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n dda.
Bydd y grantiau hyn yn gwella coetiroedd ac yn gwarchod ein cynefinoedd gwerthfawr, gan helpu safleoedd i fod yn fwy hygyrch a rhoi gwell mynediad i fyd natur i gymunedau ar draws Cymru.
Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd
Tair blynedd o gefnogaeth i goetiroedd
Lansiwyd TWIG yn 2022 ac ers hynny mae wedi dyfarnu dros £11m i 64 o brosiectau ar draws Cymru. Yn y rownd ddiweddaraf hon, bydd prosiectau'n derbyn cyfran o £3.9m. Maent yn cynnwys:
- Coed Castell Helygain sy'n derbyn £248,640 i adfer a rheoli 12 erw o goetir hynafol am y tro cyntaf mewn 60 mlynedd. Fel rhan o'r prosiect, bydd yn datblygu WildEnhanceBelong (WEB), hwb dysgu a lles i gysylltu pobl ifanc â manteision lles cyfannol byd natur. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai yn arfer Japaneaidd shinrin yoku neu ymdrochi mewn coedwig.
- Down to Zero sy'n derbyn £222,024 i wella mynediad i Wlypdir a Choetir Cymunedol Cwmbach yn Aberdâr. Bydd y prosiect yn creu llwybr natur newydd a fydd yn cysylltu â Chamlas Aberdâr.
- Chris Brown, sy'n derbyn £210,387 i agor coetir preifat i'r cyhoedd. Mae gan Hendre Ddu yng Ngarndolbenmaen hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod neolithig gyda thystiolaeth o ffermio, tai, ffwrn doddi a mwynglawdd llechi segur. Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith llwybrau newydd ac yn gosod byrddau dehongli i ymwelwyr ddysgu mwy am dreftadaeth y coetir.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd: “Mae coetiroedd yn hanfodol i iechyd a lles pobl, yn ogystal â chefnogi ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y grantiau hyn yn gwella coetiroedd ac yn gwarchod ein cynefinoedd gwerthfawr, gan helpu safleoedd i fod yn fwy hygyrch a rhoi gwell mynediad i fyd natur i gymunedau ar draws Cymru.
"Mae Coedwig Genedlaethol i Gymru'n helpu sicrhau y gall pawb elwa o'n treftadaeth naturiol, ac rwy'n falch o weld y rhaglen hon yn cefnogi prosiectau lleol a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl a'r blaned fel ei gilydd."
Mwy o wybodaeth
Archwiliwch y rhestr lawn o brosiectau sydd wedi cael eu hariannu yn Rownd Chwech Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).