Mynegai Treftadaeth RSA yn datgelu mannau gorau ar gyfer treftadaeth y DU

View of a church
Eglwys St Grwst, Conwy.
Mae adroddiad 2020 yn tynnu sylw at ardaloedd treftadaeth gorau'r DU ac yn cyflwyno'r achos dros dreftadaeth fel ffordd o wella yn sgil pandemig coronafeirws (COVID-19).

Beth yw Mynegai Treftadaeth?

Mae'r Mynegai Treftadaeth yn edrych ar asedau treftadaeth lleol a sut y cânt eu defnyddio, eu mwynhau a'u rhannu, i adlewyrchu cyflwr treftadaeth yn y DU.

Mae'n ystyried ffactorau gan gynnwys adeiladau rhestredig, lefelau cyfranogiad y cyhoedd a ffrydiau ariannu. 

Dechreuodd y mynegai yn 2014 ac fe'i cynhyrchir gan yr RSA (y gymdeithas frenhinol ar gyfer y celfyddydau, gweithgynhyrchu a masnach) mewn cydweithrediad â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

"Y Mynegai Treftadaeth yw'r lle perffaith i ddechrau deall potensial llawn treftadaeth mewn ardaloedd lleol, gan ddod â mwy o bobl i mewn i'r sgwrs, a dychmygu sut y gall hyn chwarae rhan flaenllaw wrth i ni ddelio ag argyfwng COVID-19.”
Ros Kerslake, Prif Weithredwraig

Dinas Llundain yw’r lle gorau ym mynegai Lloegr am y drydedd flwyddyn yn olynol, ond mae naid Swydd Richmond i gyrraedd yr wythfed safle, yn newyddion mawr.

Mae cyllid newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ochr yn ochr â chynnydd yn nifer yr asedau o werth cymunedol – o fewn maes amgylchedd adeiledig hanesyddol – wedi cyfrannu at ei gynnydd.

Yng Nghymru, mae Conwy wedi symud i fyny pum lle i'r safle uchaf yn y mynegai. Mae Belfast ac Ynysoedd Erch wedi aros ar y brig ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban. 

Gweler yr adroddiad am y rhestr lawn ar gyfer pob gwlad yn y DU. 
 

A person looking at scuffed musical notes on a wall
Cafodd prosiect sy'n gwarchod graffiti ym Mloc Cell Castell Richmond arian y Loteri Genedlaethol.

Potensial a lle treftadaeth

Yn ogystal â nodi meysydd sy'n fannau gorau ar gyfer treftadaeth, mae'r mynegai hefyd yn cynnwys mesur o 'botensial treftadaeth' — ardaloedd sydd ag asedau treftadaeth cryf, ond heb eu defnyddio. Mae'r adroddiad yn dadlau y gallai'r ardaloedd hyn wneud mwy i hyrwyddo a diogelu eu treftadaeth fel rhan o adferiad ôl-COVID-19.

Yn ogystal, mae'n ymchwilio i'r berthynas rhwng treftadaeth a lle — pa rôl y gall treftadaeth ei chwarae wrth lunio lleoedd llwyddiannus, pa rôl y mae'n ei chwarae ar hyn o bryd a sut y gallem gau'r bwlch rhwng potensial a realiti? 

Archwiliwch yr adroddiad ar wefan RSA i weld safle eich ardal yn y mynegai. 

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "I lawer o sefydliadau treftadaeth ledled y DU, 2020 fu'r flwyddyn fwyaf heriol hyd yma, ac mae wedi rhoi mwy fyth o ffocws ar y dreftadaeth ar garreg ein drws a'r cyfraniad y gall ei wneud i swyddi, sgiliau, twristiaeth, ffyniant economaidd a llesiant. 

Wrth iddi ddod yn amlwg y bydd effaith pandemig coronafeirws yn arwain at ganlyniadau tymor hwy i’r sector treftadaeth y DU, byddwn fel cyllidwr yn canolbwyntio ar adfer a gwydnwch y sector, drwy gefnogaeth y Gronfa Adfer Diwylliant y Llywodraeth ar gyfer Treftadaeth.

Y Mynegai Treftadaeth yw'r lle perffaith i ddechrau deall potensial llawn treftadaeth mewn ardaloedd lleol, gan ddod â mwy o bobl i mewn i'r sgwrs, a dychmygu sut y gall hyn chwarae rhan flaenllaw wrth i ni ddelio ag argyfwng COVID-19.”

Beth sydd nesaf ar gyfer treftadaeth? 

Mae'r adroddiad yn pwysleisio nad oes angen i dreftadaeth ganolbwyntio'n llwyr ar asedau traddodiadol, adeiledig, a bod treftadaeth hefyd yn gyfystyr â phrofiad a rennir, hanesion lleol a threftadaeth 'anniriaethol'. Yng nghyd-destun symudiadau newydd i ailystyried hanes Lloegr a'r DU, mae'r adroddiad yn galw am ddull newydd, cynhwysol o ymdrin â threftadaeth.

Mae hefyd yn awgrymu, gyda chymorth pellach i ddiogelu'r sector treftadaeth rhag effaith COVID-19, y gallai fod yn gyfrwng ar gyfer adferiad economaidd yn sgil y pandemig. 

Dywedodd Hannah Webster, uwch ymchwilydd yr RSA: "Rydyn ni'n gofyn: beth sydd nesaf i'r sector treftadaeth? Yn sicr, mae angen cefnogaeth gan y llywodraeth i gadw pethau i fynd, ond yr ydym yn obeithiol y gallwn o'r pandemig gyda cenhedlaeth newydd o gefnogwyr. Mae’r cyfyngiadau wedi ein gorfodi i feddwl yn fwy dwys am ein hardaloedd lleol, ac rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn ‘staycationers’ eleni.

"Mae ailfeddwl sut rydym yn defnyddio ein treftadaeth yn hanfodol os yw'r diwydiant am ffynnu yn yr 21ain ganrif. Dylai'r sector treftadaeth, awdurdodau lleol ac eraill fod yn edrych ar sut y gallant ddefnyddio eu hasedau heb eu defnyddio, a sut y gall y sector adeiladu'n ôl i weledigaeth fwy cynhwysol o dreftadaeth."
 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...