Gwnewch gais am wobr Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn 2026
Mae'r sector treftadaeth yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd a diogelu ein byd naturiol. Rydym yn chwilio am brosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu i gyflawni hyn.
Gellir gwneud cais am y wobr am ddim ac mae ar agor tan 30 Ionawr 2026.
Mae’r gwaith hwn yn fwy perthnasol nag erioed, ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.
Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae’r wobr yn helpu i daflu goleuni ar ddulliau creadigol a all hefyd ysbrydoli eraill i ymgorffori cynaladwyedd wrth wraidd yr hyn a wnânt.
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym am weld prosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy rhagorol sy'n dangos arfer gorau wrth reoli neu gyfathrebu effeithiau amgylcheddol.
Efallai bod eich prosiect wedi defnyddio, er enghraifft, mesurau effeithlonrwydd ynni, cynlluniau teithio gwyrdd i ymwelwyr neu ymagweddau unigryw at ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn yr argyfwng hinsawdd.
Dylai ceisiadau hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy’.
Rhaid i brosiectau fod wedi’u lleoli yn y DU ac wedi cael eu cyflwyno yn 2025.
Bydd hyd at ddau enillydd
- Un sydd wedi defnyddio dulliau syml, fforddiadwy a hawdd eu trosglwyddo.
- Un sy’n brosiect â chynaladwyedd amgylcheddol yn ganolog iddo.
Mynnwch ysbrydoliaeth drwy edrych ar rai o'n henillwyr blaenorol gan gynnwys Stourbridge Glass Museum a Railworld Wildlife Haven yn 2025 a The Scottish Crannog Centre a Roots and Branches yn 2024.
Dyddiadau allweddol
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Ionawr 2026
- Cyhoeddi'r rhestr fer: canol mis Mawrth 2026
- Cyhoeddi'r enillwyr mewn seremoni wobrwyo: Mai 2026
Cefnogi adferiad byd natur a'r amgylchedd
Meddai Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn hynod o falch o noddi'r wobr hon, sy'n ymwneud ag arddangos y prosiectau amgylcheddol gorau yn y sector treftadaeth ac annog eraill i weithredu.
"Mae’r enillwyr blaenorol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld eich ceisiadau eleni. Mae'r gwaith hwn yn fwy perthnasol nag erioed, ac ni allwn aros am ddathlu'r prosiectau cynaladwyedd cyffrous y mae'r sector wedi'u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Ewch i wefan y gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.
Rhedeg prosiect amgylcheddol gynaliadwy
Cael gwybod beth rydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn a darganfod rhai awgrymiadau ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy:
- Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol
- Archwilio ein hegwyddor fuddsoddi ar ddiogelu'r amgylchedd
- Mynnu ysbrydoliaeth ar sut i ystyried cynaladwyedd amgylcheddol yn eich prosiect