Grantiau natur gwerth £300,000 i gymunedau difreintiedig Cymru

Grantiau natur gwerth £300,000 i gymunedau difreintiedig Cymru

Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon
Bysedd gwyrdd ac wynebau hapus yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon
Bydd pump o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn gwneud y gorau o fyd natur ar stepen eu drws diolch i grantiau ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau’.

Mae cyllid o bron i £300,000 yn cael ei ddarparu gan y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydyn ni wedi cael ein calonogi’n fawr gan yr ymateb i'r cyllid Chwalu Rhwystrau"

Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd

Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf, cynigiodd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau grantiau i grwpiau gan gynnwys cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr gysylltu â natur.

Roedd cymunedau yn y 30% uchaf o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru hefyd yn gymwys i gael cyllid.

An urban garden in NewportGardd drefol yn ardal Maendy yng Nghasnewydd 

Ymateb calonogol i Chwalu Rhwystrau 

Dywedodd Julie James MS, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd: “Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan yr ymateb i’r cyllid Chwalu Rhwystrau a ddarparwyd gennym i ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad yn ein rhaglen Lleoedd Natur Lleol.

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r prosiectau llwyddiannus, mae yna dipyn o waith hynod ddiddorol i’w wneud yma rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy amdano wrth i bethau fynd yn eu blaenau.”

Y prosiectau llwyddianus

Dyma enwau y prosiectau sydd yn derbyn cyfran o'r cyllido £288,639  gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau:

•    Travelling Back to Nature sydd yn cael ei arwain gan y Romani Cultural & Arts Company yn ne ddwyrain Cymru, £78,137
•    Greening Riverside sydd yn cael ei arwain gan South Riverside Community Centre, Caerdydd, £81,202
•    Greening Maindee Together o dan arweiniad Maindee Unlimited and the Community House Eton Road, Casnewydd, £39,300
•    Connecting People to Nature a reolir gan Llanelli Multicultural Network, £30,000 
•    Green Connect Project sydd yn cael ei arwain gan Women Connect First, Caerdydd, £60,000

Mae’r rhaglen grant yn rhan o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.

Digging the ground at MaindeeCloddio'r tyweirch ym Maendy

Treulio amser gyda natur

“Ni fu erioed yn bwysicach gofalu am natur, helpu pobl i’w ddeall, treulio amser ynddo a gwerthfawrogi ei bwysigrwydd”, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Dyna pam roeddem ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen grant  Lleoedd Lleol i Natur - Chwalu Rhwystrau i helpu i ailgysylltu pobl o gymunedau lleiafrifol a difreintiedig â’r byd naturiol.

“Mae'r rhaglen wedi anelu at ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl â natur a bydd hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n eu hwynebu i ymgysylltu â natur a nodi atebion posibl."