Dathlwch ein bywyd morol rhyfeddol ar Ddiwrnod Moroedd y Bydlife this World Oceans Day

Atlantic Grey Seals
Er mwyn nodi Diwrnod Moroedd y Byd, gyda chymorth Moroedd Byw Cymru, rydym yn rhannu straeon rhai o'n creaduriaid tanddwr diddorol sy’n byw oddi ar arfordiroedd Ynysoedd Prydain.

Mae Moroedd Byw Cymru wedi rhannu ffeithiau hwyliog â ni am 12 o greaduriaid môr rhyfeddol, sydd i gyd i'w gweld o amgylch ein harfordir.

Fe wnaethon nhw roi cynghorion defnyddiol i ni ar bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i warchod ein byd morol. Mae Rheolwraig Prosiect Moroedd Byw Cymru, Nia Jones yn argymell y canlynol:

• lleihau (neu ddiweddu) defnydd plastig untro
• casglu sbwriel pan fydd ar y traeth
• cyrchu bwyd môr yn gynaliadwy
• lleihau'r defnydd o’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio gartref

Dywedodd:

"Mae dweud wrth bobl pa mor anhygoel yw ein bywyd gwyllt morol a pham ei bod yn bwysig gofalu amdano yn gallu gwneud gwahaniaeth."

Dolffiniaid Risso

Nid oes gan Ddolffiniaid Risso ddannedd yn eu gên uchaf ac maen nhw’n gallu llyncu ysglyfaeth gyfan.

Risso's Dolphin
Dolffiniaid Risso. Credyd Eleanor Stone
 

Gwlithen Fôr Noethdagellog

Daw’r enw Gwlithen Fôr Noethdagellog (nudibranch) o'r Lladin am  "noeth " a  "tagell", gan nad yw eu tegyll yn cael eu gorchuddio gan gragen fel rhai malwod morol eraill.

Sea slug
Nudibranch sea slug. Credit: Alex Mustard
 

Sglefren Fôr Ddanhadlen

Mae’r Sglefren Fôr Ddanhadlen yn gallu newid rhyw o wryw i fenyw wrth iddynt aeddfedu.  Mae’r Sglefren Fôr yn 95% o ddŵr ac nid oes ganddyn nhw ymennydd, gwaed na chalon.

Jellyfish
Sglefren Fôr Ddanhadlen. Credyd: Paul Naylor
 

Cimychiaid

Gall cimychiaid fyw am byth - nid yw heneiddio'n cynyddu eu siawns o farw, diolch i’r ensym o'r enw telomerase.

 

Lobster
Cimwch. Credyd: Paul Naylor
 

Morloi Llwyd yr Iwerydd

Mae Morloi Llwyd yr Iwerydd yn ddeifwyr arbennig a gallant gyrraedd dyfnder o tua 70 metr wrth chwilio am fwyd, gan ddal eu gwynt am hyd at 16 munud.

grey seal
Morloi Llwyd yr Iwerdydd. Credyd: Alex Mustard
 

Pysgodyn yr Haul

Pysgodyn yr Haul yw pysgodyn bonedd mwyaf y byd, gan gyrraedd hyd at dri metr o hyd. Gellir eu gweld yn ystod misoedd yr haf yn 'torheulo' ar wyneb y môr.

Sunfish
Pysgodyn yr Haul
 

Molysgiaid

Mae brennig a molysgiaid eraill yn darparu cyswllt hanfodol yn y gadwyn fwyd ar gyfer llawer o'n rhywogaethau prinnaf.

Limpets
Brennig a molysgiaid eraill. Credyd: Julie Hatcher

Morfeirch

Mae dau rywogaeth o forfarch yn y DU: pigog/dreigiog [yn y llun] a thrwynog. Morfeirch yw'r unig rywogaeth sydd â gwryw beichiog: mae'r fenyw yn trosglwyddo'r wyau i'r gwryw sy'n hunan-ffrwythloni.

Seahorse
Morfarch. Credyd: Julie Hatcher
 

Cranc heglog

Mae crancod heglog yn gallu byw hyd at 100 oed ac mae eu coesau'n 13 troedfedd.

Spider crab
Crancod heglog. Credyd: Dave Peake
 

Morgath bigog

Mae'r Forgath bigog yn claddu ei hun yn y gwaddod yn ystod y dydd ac yn dod allan o’r llwch i hela yn y nos.

Thornback ray
Thornback Ray. Credyd: Paul Naylor
 

Anemoni’r Môr

Mae anemonïau môr yn byw wrth greigiau, gan ddal plancton ac anifeiliaid bach o'r dŵr gyda'u crafangau.

Sea anemone
Anemoni’r Môr. Credyd: Amy Lewis
 

Heulforgi

Mae ail bysgodyn mwyaf y byd, yr heulforgi, i'w weld yn nyfroedd Cymru yn ystod misoedd yr haf. Fodd bynnag, mae eu niferoedd wedi gostwng dros 95% o amgylch y DU.

Basking shark
Heulforgi. Credyd: Alex Mustard

Beth yw Moroedd Byw Cymru?

Mae prosiect Moroedd Byw Cymru yr Ymddiriedolaeth Natur yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn helpu i ofalu am ein cefnforoedd.

Mae'r prosiect yn ailgysylltu pobl i fyd cefnfor cyfoethog na ellir ei weld yn hawdd, ac yn helpu i'w troi'n gefnogwyr cadwraeth. Mae'r gweithgareddau a ariannwyd ganddynt yn cynnwys:

•    ymchwil hanesyddol
•    ramiadau pwll creigiau
•    pencampwriaethau pentyrru cregyn meheryn
•    gwylio bywyd gwyllt
•    glanhau y traeth
•    arolygon o Wyddoniaeth Dinasyddion
•    hyfforddiant cadwraeth
•    gweithdai crefft sydd wedi'u hailgylchu

Darganfyddwch fwy am weithgareddau Moroedd Byw Cymru ar Ddiwrnod Moroedd y Byd ar eu tudalen Facebook.

Darganfyddwch fwy

More like this...