Cymorth i fywyd gwyllt Aber Dyfrdwy gan gymunedau arfordirol

Cymorth i fywyd gwyllt Aber Dyfrdwy gan gymunedau arfordirol

Dynes a phlentyn gyda barcud ar draeth
Llun gan Katherine Wade
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer am dderbyn grant o £540,000 ar gyfer prosiect cadwraeth sy'n dod â chymunedau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Lloegr ynghyd.

Bydd y prosiect yn ysbrydoli pobl sy'n byw yng Nghilgwri ac yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych i amddiffyn bywyd gwyllt Aber Dyfrdwy.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer wedi gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol ar ddwy lan yr aber i ddylunio ystod o weithgareddau sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt. Mae'r rhain yn cynnwys dehongli'r aber trwy sain, ysgrifennu creadigol a chelf. Bydd diwrnodau hyfforddi ymwybyddiaeth arfordirol yn paratoi cymunedau i amddiffyn adar rhydio, gan gynnwys cynllun bathodyn ar gyfer lleoliadau cyfeillgar i rydwyr.

Mae'r cyllid hwn yn golygu y gall pobl leol chwarae eu rhan wrth ddiogelu'r bywyd gwyllt sylweddol ac amrywiol sydd gan Aber y Ddyfrdwy.

David Renwick, Cyfarwyddwr, Gogledd Lloegr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Bydd cyfres o ddigwyddiadau dros dro yn codi ymwybyddiaeth o faterion llygredd a sut y gall pobl weithredu i greu amgylchedd dŵr glân.

Yn ogystal, bydd cyfleoedd gwirfoddoli ar gael i ymuno ag arolygu bywyd gwyllt yr arfordir a thasgau cadwraeth ymarferol, gan ganiatáu i bobl leol gysylltu â'r aber a gwella eu hiechyd a'u lles eu hunain.

A hefyd, bydd rhaglen Hyfforddi Athrawon Aber Dyfrdwy hefyd yn ennyn diddordeb plant yng Nghymru a Lloegr.

Flock of birds over Dee EstuaryAdar yn hedfan dros Aber Dyfrdwy gan Robin Rowe


Dywedodd David Renwick, Cyfarwyddwr, Gogledd Lloegr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "O siarad hefo chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni'n gwybod bod natur yn hynod o bwysig iddyn nhw, rhywbeth sydd ddim ond wedi'i ddwysáu yn ystod y 18 mis diwethaf.

"Mae'r cyllid hwn yn golygu y gall pobl leol chwarae eu rhan wrth ddiogelu'r bywyd gwyllt sylweddol ac amrywiol sydd gan Aber y Ddyfrdwy."

Buddsoddi mewn natur ledled Gogledd Lloegr

Rydym wedi cefnogi bron i 1,000 o brosiectau tirwedd, parciau a chadwraeth natur ledled Gogledd Lloegr - buddsoddiad o dros £480 miliwn - ers 1994.

Darganfyddwch fwy am rai o'r prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu yng Ngogledd Lloegr.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...