Cyllid prosiect newydd a benthyciadau i gefnogi gwydnwch y sector

Cyllid prosiect newydd a benthyciadau i gefnogi gwydnwch y sector

Interior view of the National Museum of Scotland featuring planes suspended from the ceiling
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ailddechrau derbyn ceisiadau am gyllid prosiectau bach a chanolig ac wedi lansio cynllun peilot benthyciadau di-log.

Mae'r arian yma gan y Loteri Genedlaethol yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi sector treftadaeth y DU i ymateb i effeithiau coronafeirws (COVID-19), i addasu a ffynnu eto.

Bydd cyllid y prosiect – ar gyfer grantiau rhwng £3,000 a £100,000 – yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau sy'n gweithio gyda threftadaeth i adeiladu eu gwydnwch.

Mae ein benthyciadau di-log newydd – sydd ar gael am symiau rhwng £50,000 a £250,000 – wedi'u hanelu at sefydliadau sy'n ceisio ailgychwyn a datblygu eu potensial i gynhyrchu incwm.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Ailagor cyllid prosiectau yw’r cam cyntaf o ailddechrau ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'n dangos ein bod yn dychwelyd i'n busnes craidd, ond nid ydym yn dychwelyd i fusnes fel arfer.

Rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar wydnwch a chefnogi sefydliadau treftadaeth di-elw a'r sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol drwy'r argyfwng COVID-19 sy’n parhau o hyd.

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau neu bartneriaethau gyda phrosiectau sy'n cael eu harwain gan a/neu sy'n ymgysylltu â grwpiau amrywiol.

Mae gennym gyllideb o £10miliwn yn ystod y cam cyntaf yma. Bydd y cyfarfod penderfynu cyntaf yn cael ei gynnal ganol mis Ionawr.

Bydd ein penderfynwyr yn blaenoriaethu ceisiadau gan y rhai nad ydynt wedi derbyn cyllid drwy ein Cronfa Argyfwng Treftadaeth neu gronfeydd adfer y llywodraeth ar gyfer treftadaeth a diwylliant.

Archwiliwch y canllawiau ymgeisio i weld a yw'r cyllid hwn yn addas i chi.

Benthyciadau Adfer a Gwydnwch Treftadaeth

Yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, gwnaethom nodi uchelgeisiau i ddatblygu ymyriadau cyllid ad-daladwy.

Mae cyllid ad-daladwy nid yn unig yn gwneud y mwyaf o'n heffaith drwy ailgylchu rhywfaint o'n hincwm, ond mae buddsoddiad cymdeithasol a benthyciadau fel hyn yn helpu'r sector treftadaeth i arallgyfeirio incwm, cryfhau modelau busnes a dod yn fwy gwydn.

Mae gennym gyllideb o £1.2m ar gyfer ein cynllun peilot benthyciadau. Rydym yn cynnig yr arian ar sail llog o 0%, heb ffi trefnu, a gwyliau talu o 12 mis. Yna bydd gan dderbynwyr hyd at bum mlynedd i ad-dalu'r benthyciad.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn:

  • sefydliadau dielw
  • derbynwyr presennol neu flaenorol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol neu grantiau Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol dros £10,000
  • busnesau sydd â modelau busnes mentrus nad ydynt yn dibynnu ar grantiau a rhoddion yn unig

Dysgwch fwy yn ein canllawiau ar gyfer ceisiadau am fenthyciadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2021.

Gyda'n gilydd tuag at adferiad

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cymuned dreftadaeth i wella o effeithiau'r pandemig.

Yn ogystal â'r cyhoeddiad heddiw, yr ydym wedi targedu rhaglenni sy'n agored i sefydliadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Dysgwch fwy ar ein tudalen ariannu.

O fis Chwefror 2021, byddwn yn ailddechrau derbyn ceisiadau am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £100,000-£250,000 a £250,000-£5m

Mae cyfleoedd pellach i sefydliadau treftadaeth ddysgu sgiliau newydd, meithrin gallu a chryfhau cydnerthedd ar gael drwy ein Mentrau Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth a chymorth busnes a datblygu menter.