Ai chi fydd Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn 2024?

Mae'r sector treftadaeth yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd a diogelu ein byd naturiol. Rydym yn chwilio am brosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu i gyflawni hyn.
Mae'r wobr, yr ydym yn ei noddi am y bumed flwyddyn yn olynol, yn helpu i daflu goleuni ar ddulliau creadigol o daclo newid yn yr hinsawdd. Gobeithiwn y bydd y rhain yn ysbrydoli eraill i ymwreiddio cynaladwyedd yn ganolog i'r hyn a wnânt.
Rydym yn arbennig o falch o barhau i weithio gyda'r Gronfa Treftadaeth i hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod ein hamgylchedd a sut y gall y sector hwn wneud gwahaniaeth.
Anna Preedy, Cyfarwyddwr y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth
Am beth ydym ni'n chwilio?
Rydym am weld prosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol gynaliadwy rhagorol sy'n dangos arfer gorau wrth reoli neu gyfathrebu effeithiau amgylcheddol.
Efallai bod eich prosiect wedi defnyddio, er enghraifft, mesurau effeithlonrwydd ynni, cynlluniau teithio gwyrdd i ymwelwyr neu ymagweddau unigryw at ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn yr argyfwng hinsawdd.
Dylai ceisiadau hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy’.
Rhaid i brosiectau fod wedi’u lleoli yn y DU a chael eu cyflwyno yn 2023.
Bydd hyd at ddau enillydd
- Un sydd wedi defnyddio dulliau syml, fforddiadwy a hawdd eu trosglwyddo, fel ein henillydd yn 2023, yr Amgueddfa Fwyd.
- Un sy’n brosiect â chynaladwyedd amgylcheddol yn ganolog iddo, fel ein henillydd yn 2023, Ymddiriedolaeth SS Prydain Fawr.
Y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth
Meddai Anna Preedy, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd a Threftadaeth: “Mae’r gwobrau’n dathlu’r tapestri cyfoethog o brofiadau a’r llu o leisiau gwahanol sy’n ffurfio ein sector, gan daflu goleuni ar brosiectau a rhaglenni, rhai mawr a rhai bach.
“Mae'n bleser arbennig i ni barhau i weithio gyda’r Gronfa Treftadaeth i hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod ein hamgylchedd a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd, gan ddangos sut y gall y sector hwn wneud gwahaniaeth yn yr ymgyrch i gyrraedd sero net.”
Sut i wneud cais
Mae’r gwobrau’n agored i bob amgueddfa, oriel, archifdy ac atyniad treftadaeth, yn ogystal â threftadaeth ddigidol, ddiwylliannol, naturiol ac adeiledig.
Gellir gwneud cais am y wobr am ddim ac mae'n agored tan 1 Chwefror 2024.
Rhedeg prosiect treftadaeth gynaliadwy
Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, mae gennym rôl arwyddocaol i’w chwarae wrth wella cynaladwyedd amgylcheddol drwy’r prosiectau a ariannwn, nawr yn fwy nag erioed.
Rydym am i'n holl brosiectau wneud eu gorau glas i helpu i liniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a helpu natur i ymadfer.
- Mynnwch olwg ar rai o'r prosiectau sy'n llesol i'r amgylchedd rydym wedi'u hariannu
- Cael awgrymiadau ar sut i ystyried cynaladwyedd amgylcheddol yn eich prosiect
- Darllen ein harweiniad cynaladwyedd amgylcheddol