Lleoedd Ffyniannus

Lleoedd Ffyniannus

People sitting in a sunny park, near a bandstand
Pearson Park
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau treftadaeth sy'n creu lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.

Yr hyn a olygwn gyda lle

Gall 'lle' olygu llawer o bethau, ac mae diffiniadau'n amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi neu bwy rydych chi'n gofyn. Ond mae enghreifftiau'n cynnwys cymuned leol, tirwedd naturiol neu ddinas gyfan.

Sut mae treftadaeth yn cefnogi lleoedd gwych

Mae gan lawer o ardaloedd ledled y DU 'ymdeimlad o le' sy'n ysbrydoli balchder lleol a chynyddu llesiant. 
 
Mae treftadaeth wrth wraidd hunaniaeth lle, gan ychwanegu dyfnder, cymeriad a gwerth. Gall hyn gynnwys adeiladau a henebion, tirweddau, strydoedd mawr a pharciau.  

Mae treftadaeth yn helpu i gysylltu pobl a chymunedau â lle ac yn hybu ffyniant economaidd lleol. 

Ein cyllid ar gyfer prosiectau treftadaeth  

Rydym yn croesawu prosiectau sy'n 'seiliedig ar leoedd'. Mae gweithio yn seiliedig ar leoedd yn ymwneud â:

  • nodi heriau a chyfleoedd mewn treftadaeth lle
  • datblygu ymatebion sy'n dod â manteision i'r dreftadaeth a'r lle 
  • meddwl y tu hwnt i brosiect unigol drwy ystyried sut mae'n berthnasol i'ch ardal leol a'ch cymuned
  • partneru neu gydlynu â sefydliadau eraill i gynyddu effaith eich prosiect

Wrth ymateb i'r pandemig COVID-19, rydym ar hyn o bryd yn blaenoriaethu prosiectau sy'n creu gwell lleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â nhw, ac sy'n rhoi hwb i economïau lleol.

Gweler ein rhaglenni ariannu i gael gwybod sut i wneud cais.

Cyllidwr lle, nid cyllidwr prosiect yn unig

Rydym hefyd yn cefnogi gweithio ar sail lleoedd drwy:

  • datganoli penderfyniadau, sy'n galluogi staff lleol, gydag arbenigedd lleol, i asesu ceisiadau a gwneud dyfarniadau 
  • mynd i'r afael â thangynrychiolaeth wrth ariannu ardaloedd daearyddol sy'n profi amddifadedd 
  • gweithio gyda chynghorau lleol ac eraill i gysylltu ein cyllid â blaenoriaethau lleol ehangach  
  • gweithio gyda phartneriaid ac asiantaethau cenedlaethol ar fentrau mawr sy'n seiliedig ar leoedd 

Cynnal prosiect sy'n seiliedig ar leoedd

Angen help neu ysbrydoliaeth?  

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau defnyddiol yma: 

A darganfod sut y gall treftadaeth greu lleoedd gwell yn enghreifftiau'r prosiect isod.