Cronfa Argyfwng Treftadaeth - Grantiau o £3,000 i £50,000

Ariannu Cronfa Argyfwng Treftadaeth

Grantiau o £3,000 i £50,000

NEWYDD! Canllawiau wedi'u diweddaru a dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym wedi diweddaru'r canllawiau hyn a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 18 Mehefin i gynnwys y newidiadau canlynol:

  • Wrth i sefydliadau baratoi ailagor, byddwn yn talu'r costau sy'n gysylltiedig â gwneud hyn yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
  • Yn ogystal â chostau sy'n hanfodol i sefydlogi eich sefydliad, byddwn yn talu costau sy'n deillio o baratoi i adfer, gan gynnwys adolygiadau strategol o fodelau busnes, cynlluniau gweithredu a busnes, a buddsoddiad i alluogi darparu gwasanaethau yn ddigidol. Mae'r canllawiau hyn bellach yn cynnwys mwy o enghreifftiau o gostau adfer i'ch helpu i gynllunio'ch cais.
  • Mae'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth (grantiau £3,000-£50,000 a £50,000-£250,000) bellach ar agor tan
    hanner dydd, 31 Gorffennaf, 2020. Dyma'r dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau.
  • Byddwn yn cyhoeddi rhagor o gyfleoedd ariannu ym mis Gorffennaf.

Trosolwg

Rydym yn darparu pecyn o gefnogaeth i'r sector treftadaeth fel ymateb i'r argyfwng coronafeirws (COVID-19).

Mae hyn yn cynnwys mwy o gyngor a chefnogaeth, sgiliau tymor hwy a mentrau meithrin gallu, a Chronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50 miliwn i ddarparu cyllid brys i'r rhai mwyaf anghenus.

Mae Cronfa Dreftadaeth Argyfwng yn derbyn ceisiadau ar gyfer dwy lefel grant, £3,000 i £50,000 neu £50,000 i £250,000, i gostau gwasanaeth brys yn ystod y cyfnod anodd yma.

Mae'r meini prawf a'r blaenoriaethau ymgeisio yn wahanol ar gyfer pob lefel o gyllid.

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer grantiau o £3,000 i £50,000 i helpu sefydliadau i ddelio â risgiau uniongyrchol a dod yn fwy sefydlog. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ac rydym wedi penderfynu ymestyn cyfnod y cyllid yma fel y gallwn barhau i ddarparu cymorth. Bydd y ffurflen gais bellach ar gael tan hanner dydd, 31 Gorffennaf 2020.

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid a byddwn yn adolygu'r amserlen yma yn unol ag angen a galw. Rydym yn disgwyl galw mawr am y gronfa a byddwn yn rhoi blaenoriaeth cyllid yn erbyn y rhestr meini prawf isod.

Mae'r broses ymgeisio yn cael ei amlinellu isod.

Pwy all wneud cais?

Fel dosbarthwr y Loteri Genedlaethol, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gyllid brys yn y sector treftadaeth. Rydyn ni am ddiogelu safleoedd a sefydliadau treftadaeth rydyn ni wedi buddsoddi ynddynt o'r blaen i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu colli i'r cyhoedd.

Er mwyn gwneud cais am grantiau o £3,000 i £50,000 gan y Gronfa Argyfwng Dreftadaeth, rhaid i chi fod yn:

  • sefydliad nid-er-elw
  • derbynnydd grant cyfredol neu grant flaenorol yn uniongyrchol gennym ni
  • perchennog, rheolwr neu gynrychiolydd treftadaeth, neu allu dangos eich bod wedi cyflwyno gweithgaredd treftadaeth cyfranogol

Mae'n rhaid i chi fodloni pob un o'r tri maen prawf uchod i wneud cais am gyllid drwy Gronfa Argyfwng Treftadaeth. Os na fyddwch yn cwrdd â'r meini prawf hyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth arall wrth inni ddatblygu ein cefnogaeth strategol tymor hwy neu fentrau eraill.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau gan:

  • sefydliadau statudol, er enghraifft, awdurdodau lleol, hyd yn oed os ydych wedi derbyn arian gennym yn flaenorol
  • perchnogion preifat treftadaeth, hyd yn oed os ydych chi wedi derbyn cyllid gennym ni o'r blaen
  • sefydliadau sydd o'r blaen ddim ond wedi derbyn cyllid gennym ni ar gyfer grantiau prosiect o £10,000 neu lai
  • sefydliadau sydd â pherthynas ariannu uniongyrchol ag adrannau o'r Llywodraeth ac yn eu noddi. Dylai'r sefydliadau hyn fynd at y cyrff sy'n eu noddi i gael unrhyw gymorth ychwanegol yn hytrach na gwneud cais i'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth.
  • sefydliadau a ariennir yn bennaf gan Lywodraethau'r DU a llywodraethau datganoledig
  • sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn cyllid brys gan ddosbarthwr arall o'r Loteri Genedlaethol, oni bai eich bod yn gallu cyflwyno achos clir bod angen pob grant i dalu am weithgarwch penodol sy'n berthnasol i bob dosbarthwr. Fel rhan o'n ffocws ar gynyddu effaith buddsoddiad Achosion Da y Loteri Genedlaethol mewn cymunedau i'r eithaf, dylai sefydliadau sydd wedi'u hariannu gan wahanol arianwyr y Loteri Genedlaethol, yn y lle cyntaf, ddewis y gronfa fwyaf perthnasol a gwneud cais iddynt yn unig.

Sut y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau?

Rydym yn disgwyl llawer o alw am y cyllid yma, a byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau:

  • sydd â mynediad cyfyngedig i ffynonellau eraill o gymorth, er enghraifft, oddi wrth lywodraethau, dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol, arian brys arall o ymddiriedolaethau a sefydliadau
  • eisoes wedi rhoi cynnig ar opsiynau eraill i roi'r gorau i fod mewn perygl megis rhoi prosiectau ar stop dros dro, ailgyflwyno cerrig milltir, ail-greu cyllid arall i gefnogi gweithrediadau o ddydd i ddydd, lleihau costau ond gwneud y mwyaf o swyddogaeth prosiectau presennol (peirianneg gwerth)
  • mewn mwy o berygl ariannol o COVID-19 oherwydd dibyniaeth ar ffrydiau incwm masnachu neu godi arian yn y gymuned
  • mewn mwy o berygl ariannol oherwydd y cronfeydd wrth gefn cyfyngedig

Byddwn hefyd yn blaenoriaethu:

*Mae treftadaeth mewn perygl yn cael ei diffinio fel:

  • treftadaeth sy'n debygol o gael ei cholli, ei difrodi neu ei hanghofio
  • treftadaeth sydd wedi'i dynodi 'mewn perygl'
  • safleoedd treftadaeth ffisegol sy'n pydru neu'n cael eu hesgeuluso
  • treftadaeth sydd mewn perygl oherwydd anhawster ariannol
  • treftadaeth anniriaethol ac arferion diwylliannol a allai gael eu colli
  • cynefinoedd a rhywogaethau pwysig sy'n dirywio

Wrth asesu ceisiadau, byddwn hefyd yn ystyried y gwahaniaeth sylweddol y mae ein cymorth yn debygol o'i wneud yng nghyd-destun y sefydliad, ei faint a'i berthynas â maint y risg yr ydych yn ei hwynebu a'r dreftadaeth yr ydych yn gofalu amdani. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau a chyllidwyr eraill i ystyried pa gymorth arall allai fod ar gael lle na fydd ein cyllid yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir.

Oherwydd y galw uchel am y math yma o gyllid, bydd sefydliadau yn llai o flaenoriaeth o ran cymorth os ydynt:

  • mewn sefyllfa well i gael arian brys o ffynonellau eraill
  • materion cydnerthu sylweddol a pharhaus cyn argyfwng COVID-19. Os yw hyn yn berthnasol i'ch sefydliad chi, rydym yn argymell eich bod yn trafod y materion hyn gyda'ch tîm lleol, oherwydd efallai y byddwn yn gallu darparu cyngor a chymorth drwy ein mentrau strategol tymor hwy.
  • cwblhau prosiect diwethaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol dros 10 mlynedd yn ôl.

Beth fyddwn ni'n ei ariannu?

Mae'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth yn gyllid tymor byr i gefnogi'r camau gweithredu sydd eu hangen ar unwaith i sefydlogi gweithrediadau a rheoli risgiau na ellir eu rhagweld.

Gallwch wneud cais i ni am grant rhwng £3,000 a £50,000 i dalu costau na ellir eu hosgoi fel arall, ni fyddwch yn gallu cwrdd am hyd at bedwar mis.

Efallai y byddwch hefyd am wneud cais am weithgaredd a fydd yn helpu eich sefydliad i ddechrau adfer a dilyn arweiniad gan y Llywodraeth.

Gallai hyn gynnwys cynyddu eich gweithgareddau digidol yn ystod y cyfnod yma, profi ac ymgynghori ar weithgareddau newydd a fydd yn helpu adferiad eich sefydliad, ac adolygu eich cynlluniau gweithredu strategol.

Nid oes angen cyllid partneriaeth.

Rydym am gefnogi sefydliadau i fynd i'r afael â risgiau uniongyrchol, i'ch helpu i fod yn fwy sefydlog a gweithio tuag at adferiad tymor hwy.

Fel canllaw gallech wneud cais i ni am gostau i:

  • sefydlogi eich sefydliad yn y tymor byr i sicrhau nad yw'r dreftadaeth hanfodol yr ydych yn gofalu amdani yn cael ei rhoi mewn perygl pellach gan COVID-19 (er enghraifft, costau staff i'ch galluogi i ymateb, dylunio a chyflawni cynlluniau)
  • eich helpu i gynllunio a chychwyn rhoi o'r neilltu (neilltuo neu dynnu'n ôl o ddefnydd) eich ased(au) treftadaeth a dulliau eraill o ddiogelu treftadaeth sydd mewn perygl
  • cynnal adolygiadau rheoli risg ar unwaith a'r camau gweithredu y nodwyd bod eu hangen i warchod eich sefydliad yn ddiogel
  • ad-drefnu'r cynlluniau busnes, y llywodraethu a'r gweithgarwch sydd eu hangen i helpu i ddiogelu dyfodol eich sefydliad
  • talu costau gweithredol hanfodol, er enghraifft, diogelwch y safle, cynnal amodau hinsoddol ar gyfer casgliadau, neu reoli da byw ar gynefinoedd
  • eich helpu i reoli eich safle yn ystod ymbellhau cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys staff ychwanegol i helpu i reoli ciwiau, PPE ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, hyfforddiant, glanhau ychwanegol, gweithredu dulliau talu digyswllt, neu strwythurau dros dro i helpu i reoli ymwelwyr, fel ar gyfer ciwiau neu doiledau ychwanegol
  • cael cyngor gan weithwyr proffesiynol, er enghraifft ar risg, diogelwch, sut i gefnogi eich staff neu ar fodelau busnes newydd
  • talu am offer TG hanfodol a chostau cysylltedd i gefnogi gweithio gartref a gweithgareddau i alluogi eich sefydliad i roi gwybodaeth ar-lein ac i ryngweithio â'ch cymuned/cwsmeriaid.

Beth fyddwn ni ddim yn ei ariannu?

  • costau sy'n gymwys i gael eu cynnwys gan gymorth y Llywodraeth, er enghraifft,
  • y costau cyflogau sy'n weddill i staff ffyrlo nad ydynt yn cael eu cynnwys yng nghynllun cadw swyddi'r Llywodraeth, neu unrhyw gostau cyflog ychwanegol uwchlaw'r cap ar ffyrlo
  • costau diswyddo staff nad ydynt yn cael eu hariannu gan brosiect cyfredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • costau y gellir eu hosgoi yn y tymor byr. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn credu bod hyn yn wir ac yn tynnu'r rhain allan o'ch cais am grant
  • costau y byddwch yn eu hysgwyddo y tu hwnt i bedwar mis o bwynt eich cais, efallai y byddwn yn ystyried rhai costau adfer sydd ychydig yn fwy hirdymor os yw hynny'n gwneud synnwyr i'ch sefydliad (er enghraifft, efallai y bydd angen mwy o amser ar adolygiadau cynlluniau busnes i ddeall effaith COVID-19)
  • unrhyw beth sy'n mynd yn groes i gyngor Llywodraeth ar COVID-19
  • TAW adenilladwy
  • costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd

Sut i wneud cais i'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Cyn i chi wneud cais

Os yw eich prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi'i gwblhau, siaradwch â'ch tîm ymgysylltu lleol am gyngor.

Os yw eich prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dal i weithredu, rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch Rheolwr Buddsoddi cyn i chi ddechrau cais. Byddwn yn trafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Os oes angen i chi wneud cais i ni am unrhyw gostau cyfalaf uniongyrchol ar gyfer prosiect sy'n bodoli eisoes o dan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sicrhewch eich bod yn siarad â'ch Rheolwr Buddsoddi cyn i chi wneud cais. Efallai y byddwn yn gallu cynnig cynnydd yn eich grant presennol yn lle hynny.

Pan fyddwch yn barod i wneud cais

Sicrhewch eich bod wedi darllen y canllawiau'n drylwyr, eich bod yn gymwys i wneud cais, a'ch bod wedi paratoi eich atebion i gwestiynau'r cais ymlaen llaw.

Os ydych yn gwneud cais am £10,000 neu fwy, bydd angen i chi anfon dogfen ategol atom hefyd. Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau i lanlwytho eich dogfen ategol. Mae’n e-bost awtomataidd, felly anfonwch eich dogfen ategol yn unig.

Dogfen ategol i'w hanfon atom i gael ceisiadau o £10,000 neu fwy:
  • Rhagolwg llif arian mis ar ôl mis ar gyfer eich sefydliad yn cwmpasu o leiaf y cyfnod yr ydych yn gwneud cais am arian ar ei gyfer (drwy lif arian rydym yn golygu dogfen sy'n dangos y llif incwm a gwariant yr ydych yn ei ragweld).

Defnyddiwch nodiadau i esbonio'r rhagdybiaethau rydych yn eu gwneud ynghylch unrhyw incwm a ragwelwyd yn rhesymol o unrhyw ffynonellau ariannu brys eraill, a disgwyliadau ynglŷn ag ail-agor safleoedd i ymwelwyr.

Noder: Ni ellir cadw'r ffurflen gais wrth i chi fynd yn eich blaenau, rhaid ei chwblhau ar yr un pryd.

Os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch cyn gwneud cais, siaradwch â'ch tîm lleol.

Ffurflen Gais i'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Ffurflen Gais i'r Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais

Byddwn yn gwirio bod eich sefydliad a'ch cais yn bodloni'r meini prawf a amlinellir uchod. Os nad yw eich cais yn bodloni nodau'r Gronfa, efallai y caiff ei wrthod yn gynharach yn y cyfnod asesu, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn ar y pryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth pan fyddwn yn dechrau asesu eich cais.

Byddwn yn dod yn ôl atoch gyda phenderfyniad o fewn pythefnos i bedair wythnos. Efallai y byddwn yn penderfynu cynnig swm gwahanol i chi i'r swm rydych chi'n gofyn amdano. Bydd eich dyfarniad grant yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig.

Mae'r broses yma wedi'i chynllunio i fod mor gyflym a syml â phosibl, tra'n parhau i sicrhau bod ein harian yn cael ei ddyrannu i'r rheini sydd â'r angen mwyaf.

Os dyfernir grant i chi

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflenni ychwanegol ar ein system er mwyn i ni allu gwneud taliad.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd angen i chi wneud hyn a'ch tywys drwy'r broses. Os dyfernir grant i chi, byddwn yn anfon llythyr dyfarnu grant newydd atoch a bydd angen i chi gwblhau ffurflen caniatâd i ddechrau. Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses yma, byddwn yn talu 100% o'ch grant ymlaen llaw.

Ni fyddwn yn derbyn ailgyflwyniadau o dan y Gronfa Argyfwng Treftadaeth oherwydd natur uniongyrchol y cyllid yma.

Adrodd ar eich cynnydd

Hoffem i chi gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i ni os yw'r risg i'ch sefydliad yn newid. Bydd hefyd dau bwynt lle bydd angen i chi adrodd yn ffurfiol i ni: unwaith yn ystod ac unwaith ar ddiwedd eich prosiect.

Rydym wrthi'n datblygu ein pecyn cymorth a byddwn yn gallu darparu cyngor a chyfleoedd cymorth busnes ar-lein a thrwy raglenni newydd a fydd yn cael eu lansio ar ôl i fesurau ymbellhau cymdeithasol gael eu lleddfu.

Rydym yn datblygu ein dull o ymdrin â chymorth brys yn ystod y cyfnod anodd yma a bydd eich profiad yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio ymyriadau brys gennym ni a'n partneriaid yn y dyfodol.

Gwerthuso effaith y Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Byddwn ni, a phartneriaid eraill y Loteri Genedlaethol sydd hefyd yn cynnig cymorth mewn argyfwng, am allu olrhain yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar sefydliadau, lleoedd a chymunedau unigol.

Byddwn yn rhoi gwerthusiad ar waith a bydd angen i chi gymryd rhan mewn peth casglu data syml i gefnogi hyn.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Deallwn mai diogelu dyfodol eich treftadaeth, eich sefydliad a staff a gwirfoddolwyr fydd eich blaenoriaeth.

Er bod mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith, byddwn yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus am grantiau weithio gyda ni i gydnabod eu bod wedi derbyn grant Cronfa Argyfwng Treftadaeth drwy ein gweithgareddau cyfathrebu, gan gynnwys cydnabod rôl y Loteri Genedlaethol.

Cymorth ychwanegol

Mae ffynonellau eraill o gymorth ac arian ar gael gan lywodraethau, ac mae'r rhain wedi'u rhestru ar ein gwefan.

Darllenwch ddatganiad hygyrchedd y Gronfa Argyfwng Treftadaeth

Darganfyddwch fwy am yGronfa Argyfwng Treftadaeth a darllenwch ein cwestiynau cyffredin