Cyllid Cefnogaeth Fusnes Cymru

Cyllid Cefnogaeth Fusnes Cymru

Mae cyllid ar gael ar gyfer sefydliadau neu bartneriaethau i gefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda threftadaeth yng Nghymru i adeiladu eu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth sefydliadol.

Rydym yn gwahodd sefydliadau i ymgeisio am Gyllid Cefnogaeth Fusnes i Gymru, er mwyn cyflwyno rhaglen hyfforddi a datblygu i gefnogi sefydliadau treftadaeth i ddatblygu eu sgiliau busnes a chyflawni gwell gynrychiolaeth o bobl mewn treftadaeth (er enghraifft trwy annog pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol ac/neu ar incwm isel i gymryd rhan mewn treftadaeth).

Rydym yn disgwyl cyllido un raglen yng Nghymru gydag uchafswm grant o £250,000. Bydd y prosiect a gyllidir yn ychwanegol at ein buddsoddiad mewn rhaglen Datblygu Menter DU-gyfan a rhaglenni cefnogaeth fusnes yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae cyllido'r rhaglenni hyn yn ffurfio rhan o'n cefnogaeth i sefydliadau wrth iddynt ailsefydlu yn sgil effeithiau Covid-19. Maent hefyd yn allweddol i gyflwyniad ymrwymiad ein Fframwaith Ariannu Strategol i gomisiynu rhaglenni cefnogaeth fusnes er mwyn cynyddu cydnerthedd a sgiliau codi arian, cynllunio busnes a chyllidol, llywodraethu, menter fasnachol ac ymgysylltu â buddsoddiad cymdeithasol.

Mae'r arweiniad isod yn disgrifio'r hyn rydym yn anelu at ei gyflawni trwy'r cyllid cefnogaeth fusnes hwn, pwy rydym yn disgwyl i elwa ohono a'r deilliannau rydym eisiau eu gweld. Mae'n esbonio'r broses ymgeisio ac asesu a'r amserlen hefyd.

Mabwysiadu dull cynhwysol

Rydym yn credu:

  • Bod gan bawb yn y DU fuddiant mewn treftadaeth
  • Y dylai fod gan bawb y cyfle i elwa o gyllid gan y Loteri Genedlaethol, beth bynnag fo'u hoedran, dosbarth cymdeithasol, anabledd, ethnigrwydd, ffydd, rhywedd, incwm neu rywioldeb
  • Y bydd treftadaeth fwy cynhwysol yn fwy cynaliadwy
  • Fel ariannwr, dylem arddangos arweinyddiaeth i gyflawni lefelau cynhwysiad uwch mewn treftadaeth, sy'n allweddol i gymdeithas ffyniannus a thecach

Cefnogaeth adeiladu gallu

Rydym eisiau cefnogi partneriaethau neu gonsortia i gyflwyno rhaglen wedi'i theilwra o gefnogaeth adeiladu gallu yng Nghymru, ar draws blociau adeiladu craidd arweinyddiaeth a rheolaeth sefydliadol. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys:

  • llywodraethu
  • cynllunio busnes
  • cynllunio a rheolaeth gyllidol
  • arweinyddiaeth strategol
  • datblygu menter
  • codi arian
  • mesur effaith
  • pennu a thracio perfformiad

Dylai'r rhaglen fod yn hygyrch i sefydliadau cymunedol llai o ran maint sy'n gweithredu ym maes treftadaeth y maent yn ceisio cynyddu proffesiynoldeb eu harfer busnes, yn ogystal â rhai canolig a mawr eu maint (o ran incwm) sy'n dangos angen cryf. Nid oes gofyniad ar gyfranogwyr i ddatblygu model menter, yn hytrach mae'r pwyslais ar ddatblygu sgiliau craidd a chyfleoedd i rwydweithio'n well, cael eu cefnogi'n well a pharatoi at y dyfodol yn well.

Efallai y bydd y sefydliadau sy'n cymryd rhan ar gamau datblygu gwahanol a bydd angen i bartneriaid cyflwyno llwyddiannus gymryd amrywiaeth y sefydliadau sy'n gweithio yn y sector treftadaeth i ystyriaeth wrth ddylunio eu rhaglenni.

Dylai'r rhaglen gynnig cyfleoedd i sefydliadau o hyd a lled treftadaeth yng Nghymru gymryd rhan. Gall rhaglenni gael eu cyflwyno trwy bartneriaethau neu gonsortia sy'n cynnwys darparwyr datblygu a hyfforddi arweinyddiaeth arbenigol, gan gydweithio â'r mantell treftadaeth a chyrff eraill i sicrhau eu bod yn cyrraedd pob rhan o'r sector.

Sut mae'r broses yn gweithio

  1. Adolygwch y meini prawf a ddarperir ar y dudalen hon
  2. Darllenwch yr Arweiniad Ymgeisio ar gyfer £100,000 i £250,000 yn ofalus i ddod o hyd i feini prawf ychwanegol i helpu gyda'ch cais
  3. Cyflwynwch ymholiad ynghylch prosiect trwy ein porth ymgeisio ar-lein erbyn hanner dydd, Dydd Mawrth 24 Tachwedd
  4. Rhowch y teitl 'Cefnogaeth Fusnes Cymru' i'ch prosiect
  5. Fe gewch eich hysbysu os byddwn eisiau i chi gyflwyno cais llawn
  6. Cyflwynwch gais llawn trwy ein porth ar-lein erbyn hanner dydd, Dydd Mercher 13 Ionawr
  7. Byddwn yn eich hysbysu am ein penderfyniad erbyn diwedd mis Chwefror

Pwy all ymgeisio

Gallwch ymgeisio os ydych yn:

  • sefydliad nid er elw
  • partneriaeth a arweinir gan sefydliad nid er elw

Dylai sefydliadau neu bartneriaethau sydd am ymgeisio fodloni'r meini prawf a ganlyn hefyd:

  • hanes amlwg o gyflwyno rhaglenni cefnogaeth fusnes creadigol a llwyddiannus gyda sefydliadau yn y sector treftadaeth neu gyda sefydliadau sydd â rhai nodweddion tebyg i BBaCh treftadaeth
  • y gallu i gefnogi sefydliadau ar draws Cymru
  • dealltwriaeth amlwg o anghenion a heriau sefydliadau llai o ran maint yn y sector treftadaeth
  • ymrwymiad amlwg i ddysgu a gwerthuso'r hyn sy'n gweithio
  • ymrwymiad amlwg i amrywiaeth a chynhwysiad
  • gallu gweithredol a chyllidol i gyflwyno rhaglen ar y raddfa hon

Beth rydym yn chwilio amdano

Dylai'r rhaglen hyfforddi a datblygu anelu at ddarparu cefnogaeth fusnes i ddatblygu sefydliadau mwy cydnerth a blaengar wrth eu gwaith yn y byd treftadaeth, sef:

  • mwy o sefydliadau sydd â'r sgiliau a'r  gallu i amrywiaethu eu hincwm, datblygu eu cefnogwyr, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd, ymateb i gyfleoedd newydd a gwrthsefyll bygythiadau
  • rhwydweithiau cryfach ymhlith sefydliadau cymar mewn treftadaeth ar draws Cymru

Beth fydd y rhaglen yn ei gyflawni

Byddem yn disgwyl i'r rhaglen a gyllidir gael y deilliannau a ganlyn ar gyfer yr unigolion a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan.

Ar gyfer arweinwyr sy'n cymryd rhan:

  • gwell hyder a dyfeisgarwch
  • rhwydweithiau ehangach o gefnogaeth bersonol a phroffesiynol
  • sgiliau busnes wedi'i mwyhau gan gynnwys y gallu i wneud gwelliannau a newidiadau yn eu sefydliad ar draws llywodraethu, rheolaeth ariannu a chynllunio busnes, codi arian a, lle bo'n berthnasol, datblygu menter a buddsoddi cymdeithasol. 
  • gwybodaeth a sgiliau gwell wrth bennu nodau ar gyfer effeithiau treftadaeth a chymdeithasol sy'n glir ac y gellir eu cyfathrebu a'u mesur er mwyn helpu dangos gwerth eu gweithgareddau 

Ar gyfer sefydliadau:

  • llywodraethu cryfach a mwy amrywiol
  • cydnerthedd cyllidol cynyddol
  • ffynonellau incwm mwy amrywiol ac incwm cynyddol
  • cyrraedd yn ddyfnach i mewn i'w cymuned/au gyda sylfaen cefnogwyr, cynulleidfa a/neu wirfoddolwyr ehangach a mwy amrywiol

Buddiolwyr targed

Bydd angen i'r rhaglen a gyllidir ymgysylltu â chyfranogwyr o bob cwr o Gymru, gyda phwyslais penodol ar gynlluniau i recriwtio cyfranogwyr o'n Ardaloedd Ffocws cyfredol yng Nghymru - Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.

Dylai'r cyfranogwyr targed fod yn:

  • sefydliadau bach a chanolig eu maint sy'n gweithio mewn treftadaeth
  • sefydliadau sy'n newydd i weithio mewn treftadaeth (e.e. derbynyddion trosglwyddo asedau, neu grwpiau cymunedol sy'n eirioli dros dreftadaeth anniriaethol)

Ffocws arweinyddiaeth a sgiliau

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a heriau y mae sefydliadau treftadaeth bach a chanolig eu maint yn eu hwynebu a'r gofynion sgiliau ac arweinyddiaeth cyffredinol ar gyfer llwyddiant, gan gynnwys:

  • llywodraethu da
  • arweinyddiaeth a rheolaeth
  • strategaeth a sganio'r gorwel
  • cynllunio busnes a rheolaeth ariannol
  • adeiladu achos dros gefnogaeth
  • codi arian o ffynonellau preifat
  • adeiladu ac amrywiaethu cefnogwyr, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd
  • ymgysylltu ar draws sectorau yn eich ardal leol (dylanwadu)
  • dealltwriaeth o dreftadaeth a gwerth ac effaith gymdeithasol, sut i ddisgrifio a mesur nhw

Y rhaglen a dulliau cyflwyno

Gall y rhaglen gynnwys cyfleoedd sylweddol i gyfranogwyr ddod ynghyd gyda'u cymheiriaid ar draws y sector - un ai'n bersonol neu'n ddigidol. Er enghraifft, gallai hyn fod trwy:

  • ddefnydd creadigol o ddigidol
  • dysgu fel grŵp gan arbenigwyr mewn sgiliau technegol megis rheolaeth brosiectau a chyllidol
  • sesiynau tyst lle mae arweinwyr yn rhannu eu profiadau, llwyddiannau a heriau er mwyn adeiladu hyder
  • ymweliadau astudio, neu gyfwerth digidol, gyda sefydliadau eraill
  • grwpiau dysgu strwythuredig
  • cefnogaeth gan gymheiriaid
  • dod â phobl ynghyd fel carfan dros gyfnod parhaus
  • cyngor a mentora wedi'u teilwra

Grantiau ar gyfer cyfranogwyr

Dylid cynnig cefnogaeth ariannol i gyfranogwyr i'w galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen. Gallai hyn gynnwys prynu cyfarpar i alluogi mynediad digidol gwell neu gostau teithio a llety ar gyfer y rhai y mae angen iddynt deithio pellter hir neu aros dros nos.

Gellir cynnig grant digyfyngiad bach i'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y  rhaglen i alluogi nhw i gymryd rhan. 

Cyllideb

Rydym am gyllido un raglen yng Nghymru gydag chyllideb o hyd at £250,000. Dylai'r gyllideb ar gyfer y prosiect gynnwys:

  • dyluniad, datblygiad a rheolaeth gyffredinol y prosiect
  • recriwtio a dethol y sefydliadau ac arweinwyr sy'n cymryd rhan
  • cyflwyno holl elfennau'r rhaglen gan gynnwys gweinyddu grantiau i gyfranogwyr ac unrhyw gyllid cyfatebol neu raglen gymhelliad arall
  • cost grantiau i gyfranogwyr ar gyfer bwrsariaethau teithio, galluedd ôl-lenwi/gweinyddu ac unrhyw gyllid cyfatebol
  • monitro, adrodd a gwerthuso parhaus
  • adrodd a lledaenu gwybodaeth ar ddiwedd y rhaglen

Ymgeisio ac asesu

Rydym yn defnyddio ein proses ymgeisio rhaglen agored safonol ar gyfer grantiau rhwng £100,000 a £250,000. Cyfeiriwch at y nodiadau arweiniad a chymorth safonol wrth lenwi'r ffurflen ymholiad ynghylch prosiect a'r ffurflen gais.

Defnyddiwch y ffurflen ymholiad ynghylch prosiect i ddarparu ymateb cychwynnol i'r brîff hwn. Dylid rhoi 'Cefnogaeth Fusnes Cymru' fel teitl y prosiect.

Wrth adolygu ffurflenni ymholiad ynghylch prosiect, byddwn yn edrych ar y canlynol:

  • I ba raddau y mae eich cynigion yn ymateb creadigol i'n brîff yn ogystal â'ch hanes a gallu wrth gyflwyno rhaglen gweithgareddau cefnogaeth fusnes o safon uchel, a'ch dealltwriaeth o anghenion sefydliadau yn y sector treftadaeth.
  • Pa mor dda y mae'r cynigion yn cyfateb i'n meini prawf safonol eraill ar gyfer grantiau rhwng £100,000 a £250,000.

Byddwn wedyn yn gwahodd ceisiadau llawn gan y rheiny yr hoffem symud eu cynigion ymlaen.

Gwerthuso

Dylai ymgeiswyr ddyrannu rhywfaint o gyllideb ar gyfer gwerthuso o fewn cyllideb y rhaglen a byddwn yn gweithio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus ar eu fframwaith gwerthuso

Bydd angen i'r dull gwerthuso gynnwys cywain data a thracio cynnydd cyfranogwyr yn y rhaglenni hyn ar draws ystod o fesurau dros amser, er enghraifft:

  • sefydliadau gyda chymysgeddau cyllido a modelau busnes sydd â gwahaniaeth mesuradwy rhyngddynt
  • sefydliadau sydd ag asedau mwy gwerthfawr a rhai diriaethol, anniriaethol a chyllidol y gellir eu hecsbloetio (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, symiau wrth gefn)
  • perfformiad gwell mewn meysydd allweddol megis llywodraethu
  • galluedd ac adnoddau cynyddol
  • ymddygiadau a diwylliannau sefydliadol datblygedig y gwyddys eu bod yn cefnogi cydnerthedd.

Dogfennau i'ch helpu wrth ymgeisio