Sut rydym yn ariannu prosiectau parciau

Sut rydym yn ariannu prosiectau parciau

Offerynnau chwarae teuluol
Mwynhau Canu Ukelele ym Mharc Pearson, Hull
Rydym yn edrych ar dri pharc ffyniannus sy'n gwneud eu rhan dros natur – a phobl.  

Mae'n amser gwych i wneud cais am gyllid ar gyfer eich prosiectau parciau drwy ein rhaglenni agored

Ers y pandemig, mae mwy a mwy o bobl wedi darganfod eu parciau lleol – ac wedi dibynnu arnynt am hwyl, i ymlacio, i ymgynnull gyda ffrindiau a theulu, ac fel lle i hybu eu llesiant yn ystod yr amseroedd anoddaf.

Mae ein hymchwil wedi dangos y gall parciau hefyd fod yn lle perffaith i estyn allan at y rhai na fyddent fel arfer yn ymweld â mannau gwyrdd, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed neu o gefndiroedd difreintiedig. 

Mae ein mannau gwyrdd trefol hefyd yn hanfodol ar gyfer helpu bywyd gwyllt ac yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, o ddolydd blodau gwyllt sy'n gyfoethog gyda phaill i byllau ar gyfer amffibiaid, o goed sy'n darparu cysgod ac oeri trefol, i laswelltiroedd sy'n gweithredu fel sbyngau enfawr i leihau llifogydd.   

Rydym am weld ceisiadau gan brosiectau sy'n bwriadu gofalu am eu parciau lleol a'u gwella, a helpu pawb i gael mynediad atynt a'u mwynhau.

Meddai Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur: "Man gwyrdd â chyfarpar da sy'n llawn seddi a chyfleusterau chwarae, sy'n gyfoethog o ran natur, gyda phlannu hardd, llwybrau hawdd eu cyrraedd, toiledau a chaffi yw'r hyn y dylai pawb yn y DU allu ei fwynhau yn agos at ble bynnag y maent yn byw.

"Ond mae'r pandemig wedi dangos i ni nad yw pawb mor lwcus. Ein nod yw helpu mwy o bobl i fwynhau amser o safon yn yr awyr agored lle maent yn byw". 

Gall hyd yn oed y parciau lleiaf wneud gwahaniaeth enfawr. Rydym am weld ceisiadau gan brosiectau sy'n bwriadu gofalu am eu parciau lleol a'u gwella, a helpu pawb i gael mynediad atynt a'u mwynhau. 

Dyma dri sy'n defnyddio ein cyllid: 

Parc Saughton, Caeredin

Park volunteersGwirfoddolwyr Cymdeithas Garddwriaeth Frenhinol Caledonian

Mae'r parc hanesyddol hwn yng Nghaeredin bob amser wedi defnyddio natur i hybu llesiant pobl – yn y 19eg ganrif roedd garddio yn rhan o wella cleifion. Roedd ein cyllid nid yn unig yn helpu i adfer y bandstand a'r ardd furiog, ond hefyd yn gweld plaza a chaffi newydd, a gweithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau therapi garddwriaethol. Yn 2015 croesawyd ffoaduriaid o Syria, sy'n newydd i'r ardal, gyda digwyddiadau a gynhaliwyd yn y parc.

Parc Pearson, Hull

People doing yoga outsideIoga ym Mharc Pearson

Mae cymuned yn hanfodol i'r parc hwn yng nghanol Hull. Wedi'i ddisgrifio fel "oasis" gan bobl leol, cyfrannodd ein cyllid adfer ei gatiau enwog a'i adeiladau cymunedol, ond hefyd rhestr hir o weithgareddau parhaus gan gynnwys chwaraeon, plannu bylbiau, crefftau a digwyddiadau fel teithiau cerdded ystlumod a drymio Affricanaidd.

Coed Cwm Penllergare, Cymru

Ar ymylon Abertawe a'r M4, achubwyd Penllergare o ddegawdau o esgeulustod, fandaliaeth a datblygiad. Ochr yn ochr â degawdau o waith gwirfoddol, mae ein cyllid wedi cefnogi canolfan ymwelwyr newydd ac adfer yr ardd furiog a chaffi gan ddefnyddio ynni o ynni dŵr. Yn fan gwyrdd hanfodol i'r ddinas, mae'n cynnig popeth o ymwybyddiaeth ofalgar naturiol i ddiwrnodau gwirfoddoli coetir.

Ymgeisio am gyllid

Rydym yn cynnig cyllid ar gyfer prosiectau o £3,000 hyd at £5miliwn. Mae'n syml i ddechrau arni. Darllenwch fwy am ein cyllid.

Parciau rydym wedi buddsoddi ynddynt

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi ym mharciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol y DU dros y 26 mlynedd diwethaf, gan adfywio dros 900 o barciau trefol hyd yn hyn. Darganfyddwch fwy a chael eich ysbrydoli.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...