Sut mae'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth yn dod â'r sector ynghyd i ddysgu a datblygu

Sut mae'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth yn dod â'r sector ynghyd i ddysgu a datblygu

A group of 13 people standing outside a building listening to a tour guide as part of a community walking tour
Taith gerdded a gyflwynwyd fel rhan o brosiect y Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Mae ei gymysgedd o gefnogaeth gan gymheiriaid, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein yn helpu sefydliadau treftadaeth gyda phopeth o gydnerthedd ariannol a llywodraethu i gynhwysiad a sgiliau digidol.

Mae'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth yn gorff aelodaeth DU gyfan ar gyfer elusennau, sefydliadau a mentrau cymdeithasol, mawr a bach, sy'n ymwneud ag achub, adfer, ailddefnyddio a rheoli safleoedd hanesyddol.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae wedi derbyn dau grant gan y Gronfa Treftadaeth gwerth cyfanswm o dros £460,000 i ehangu ei gynnig a chynyddu amrywiaeth ei aelodaeth.

Rhannu arbenigedd

Esboniodd David Tittle, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth: “Y brif ffordd rydyn ni'n gweithio yw drwy gefnogaeth gan gymheiriaid a dysgu gan gymheiriaid, dod â'n haelodau at ei gilydd mewn gwahanol ffyrdd - fel arfer drwy ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb - a rhannu profiadau, clywed gan arbenigwyr ac oddi wrth ein gilydd.

“Erbyn hyn - diolch i arian y Loteri Genedlaethol - am y tro cyntaf, rydyn ni'n ymchwilio i wneud rhaglen ddysgu fwy strwythuredig gyda charfan o aelodau. Mae gennym raglen allgymorth hefyd i nodi gwahanol grwpiau y mae angen i ni fod yn fwy rhagweithiol wrth estyn allan iddynt, ac mae hynny'n gweithio'n dda.”

Mae ei aelodaeth o 730 yn adlewyrchu'r gwaith allgymorth hwnnw yn gynyddol. Mae'n rhychwantu sefydliadau treftadaeth traddodiadol, grwpiau cymunedol a chelfyddydau sy'n defnyddio safleoedd hanesyddol, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu am gamlesi a gerddi. Mae hefyd yn cyfrif dros 160 o fyfyrwyr ymhlith ei aelodau.

A young woman holding a mobile phone, demonstrating how to use an app to an older man
Menyw ifanc yn rhannu ei sgiliau digidol.

Cyfnewid sgiliau

At hynny – diolch i grant o £100,000 drwy ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth – mae wedi recriwtio 40 o wirfoddolwyr ifanc fel rhan o'i brosiect Arwyr Digidol.

Mae'r prosiect yn ymateb i ymchwil sy'n dangos bod y gweithlu treftadaeth yn heneiddio a bod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd ddod o hyd i waith neu brofiad yn y sector. Mae'n ymwneud â pharu gwirfoddolwyr digidol (18-30 oed) gyda sefydliadau sydd heb ddigon o gapasiti digidol.

Meddai Claire-Rose Canavan, Rheolwr y Prosiect Arwyr Digidol: “Mae ein haelodau wedi cael profiadau cadarnhaol iawn. Maen nhw wedi llwyddo i wneud pethau na allen nhw eu gwneud ar eu pennau eu hunain - fel dadansoddi data, gwneud modelau 3D a gwella eu cyfryngau cymdeithasol a'u gwefannau - a dysgu sgiliau gan y gwirfoddolwyr.

“Ac mae'r gwirfoddolwyr wedi ennill profiad gwaith ar gyfer eu CVs, gwella eu sgiliau digidol eu hunain a chael cefnogaeth gyda hyfforddiant, offer a chostau teithio.”

Awgrymiadau ac adnoddau

Mae pedair thema sy'n creu trafodaeth a cheisiadau am gymorth yn gyson ymhlith aelodau'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth.

Gwnaethon ni ofyn i David rannu ei brif awgrymiadau a'i ddolenni i adnoddau pellach:

  • Cyllid: “Dysgwch sut i fod yn arbenigwr mewn Excel (neu recriwtiwch un fel ymddiriedolwr neu wirfoddolwr) a chreu model o sut mae'ch sefydliad yn gweithio fel busnes. Bydd yn eich galluogi i brofi senarios, ymateb i newid a chreu gwell cyllidebau ar gyfer ceisiadau ariannu.”
  • Cynhwysiad: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod yn rhaid i ni roi croeso cynnes i bawb a chael gwared ar rwystrau corfforol a digidol, ond ni ddylai stopio yno. Yn aml mae cynhwysiad hefyd yn gofyn i ni estyn allan, datblygu partneriaethau a gwneud prosiectau ar y cyd gyda sefydliadau amrywiol.”
  • Llywodraethu a chynllunio olyniaeth: “Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr ei fod yn syml ac yn bleserus i fod yn un o ymddiriedolwyr eich sefydliad. Yna hysbysebwch cyfleoedd i fod yn ymddiriedolwyr fel swyddi, a gwerthwch y cyfle'n gryf. Mae Getting on Board a Young Trustees Movement yn darparu cyngor ac adnoddau gwych i gynyddu amrywiaeth byrddau.”
  • Cynaladwyedd amgylcheddol: “Rydyn ni'n gweithio gyda Fit for the Future i helpu ein haelodau i ddod o hyd i gyngor ar fod yn fwy effeithlon o ran ynni ac ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Ond ni ddylem fod yn rhy llym gyda'n hunain o ran ein hadeiladau hanesyddol drafftlyd. Trwy achub adeiladau sydd eisoes yn bodoli rydym yn cadw carbon corfforedig ac yn herio'r paradeim 'dymchwel ac ailadeiladu.”
Two people sticking post-it notes on a wall as part of a collaborative workshop
Aelodau o'r rhwydwaith yn cymryd rhan mewn gweithdy cydweithredol.

Cymerwch ran

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau a manylion aelodaeth ar wefan y Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio eich sgiliau digidol i helpu sefydliadau treftadaeth, cofrestrwch eich diddordeb yn y rhaglen wirfoddoli Arwyr Digidol trwy yrru e-bost at claire-rose.canavan@heritagetrustnetwork.org.uk.

Ac os credwch y gallai ein hariannu helpu eich sefydliad i roi rhai o adnoddau'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth ar waith, bwrw golwg ar sut y gallwn eich cefnogi chi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...