Clychau Rhuthun i ganu unwaith eto

Mae adfer clychau Eglwys San Pedr yn Rhuthun, gogledd Cymru, yn golygu bod y traddodiad diddorol o ganu clychau wedi dychwelyd i’r dref Ganoloesol.
Large bell on harness
Bell being removed for restoration

Diolch i grant o £96,300 gan y Loteri Genedlaethol, mae’r wyth cloch yn Eglwys San Pedr sy’n adeilad rhestredig Gradd I wedi eu hadfer. Ochr yn ochr â’r canu ar y Sul, mae'r eglwys yn ail gyflwyno traddodiad yn y dref sy'n mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd.

Cymorth i gadw amser

Yn ystod y cyfnod Canoloesol, roedd gan drigolion Rhuthun reswm da i wybod faint o’r gloch oedd hi. Dyma Peter Furniss, clochydd ac aelod o Bwyllgor Adfer Cloch y prosiect yn egluro: “Bryd hynny, roedd cloch cyrffyw yn cael ei chanu bob dydd â llaw. Y pwrpas oedd rhybuddio’r trigolion fod yn rhaid iddynt fod y tu fewn erbyn 8pm, pan fyddai gatiau’r dref yn cau, neu fel arall gallent gael eu harestio.”

“Mae traddodiadau ac arferion fel rhain yn rhan allweddol o hunaniaeth pobl leol ac yn gallu meithrin balchder mawr yn y dreftadaeth sydd ar eu trothwy."

Stephen Barlow, Pennaeth Ymgysylltu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Roedd clychau presennol yr eglwys, sy’n dyddio’n ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi dirywio cymaint fel mai dim ond unwaith yr wythnos y gellid eu canu fel hyn. Dywed Peter fod hynny wedi newid: “Rydym nid yn unig wedi gallu adfer y clychau ond rydym wedi gallu ychwanegu mecanwaith electronig i’r gloch tenor fel ei bod yn canu am 8pm bob dydd. Dyma gadw’r traddodiad yn fyw i bobl leol ac adfer treftadaeth Rhuthun - er, wrth gwrs, chaiff neb fynd i’r carchar bellach!”

Restored bells
Y clychau wedi eu hadfer

 

Canu eto wedi’r coronafeirws  

Ar hyn o bryd mae canu clychau wedi dod i ben ledled y DU yn sgil mesurau pellhau cymdeithasol a gyflwynwyd i arafu trosglwyddiad COVID-19. Mae ‘na debygrwydd rhwng y sefyllfa bresennol a’r hanesyddol yn ôl Peter: “Diolch i’w fecanwaith electronig, mae’r gloch cyrffyw yn parhau i ganu – ond mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd ei bod wedi dychwelyd wrth i ni ofyn i bobl leol unwaith eto gyfyngu ar eu symudiadau.”

O ran pryd y caiff pob un o’r wyth cloch eu clywed eto, mae Peter yn teimlo’n obeithiol: “Ar hyn o bryd rydym yn hyfforddi criw newydd o bobl – er bod hynny wedi ei atal ar hyn o bryd, ond byddwn yn ail-gychwyn pan allwn. Mae clychau wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, trwy gyfnodau cythryblus gan gynnwys tanau mawr, chwyldroadau a rhyfeloedd y byd - pan gafodd ei gyfyngu hefyd. Gyda chefnogaeth ein haelodau newydd, bydd clychau Ruthin yn canu eto.” 

Cyfleoedd i ganu clychau

Y tu hwnt i adfer y clychau, mae'r prosiect wedi galluogi mwy o bobl i roi cynnig ar ganu clychau. Mae'r clochdy a'r Ystafell Ganu wedi'u hadnewyddu, gyda deunyddiau modern a thechnegau dylunio wedi'u cyflwyno i wneud y clychau yn llawer haws i'w trin. Mae 19 o hyfforddeion newydd rhwng 18 a 70 oed wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi wythnosol. Gyda'i gilydd byddant yn ail-gyflwyno canu clychau rheolaidd i Rhuthun, rhywbeth sydd wedi bod yn absennol ers y 1970au.

Gall ymwelwyr â’r eglwys ddarllen am adferiad y clychau a darganfod y rôl bwysig y gwnaethant ei chwarae yn hanes Rhuthun mewn arddangosfa newydd. Pan fydd canu clychau yn digwydd, bydd y rhai sy’n canu a'r clychau i'w gweld trwy ddangosiad fideo.

Smelting works
Mwyndoddi yn ffowndri clychau Loughborough

 

Cadw traddodiadau hanesyddol yn fyw 

Fe ofynnon ni i Stephen Barlow, Pennaeth Ymgysylltu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, pam ei fod yn credu fod y prosiect yn bwysig: “Mae traddodiadau ac arferion fel rhain yn rhan allweddol o hunaniaeth pobl leol ac yn gallu meithrin balchder mawr yn y dreftadaeth sydd ar eu trothwy. Bydd yr hobi gwerth chweil hwn yn denu pobl newydd i’r eglwys ac yn eu galluogi i ddysgu sgil newydd, gan gadw hen draddodiadau’n fyw ac yn ffynnu am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mae clychau wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, trwy gyfnodau cythryblus gan gynnwys tanau mawr, chwyldroadau a rhyfeloedd y byd - pan gafodd ei gyfyngu hefyd. Gyda chefnogaeth ein haelodau newydd, bydd clychau Ruthin yn canu eto.”

- Peter Furniss, clochydd ac aelod o Bwyllgor Adfer Cloch y prosiect yn egluro

Mae plant ysgol lleol wedi bod yn dysgu am y clychau, gan ymweld â'r eglwys a chlochdy Loughborough lle cawsant eu hatgyweirio. Dewisodd enillydd cystadleuaeth ysgol i enwi’r bumed gloch - wedi cracio’n wael cyn ei hadfer – yr enw ‘Lottie’ i gydnabod cefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...