Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Hydref 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Eglwys Gadeiriol Aberhonddu: Cadeiriol | Cariad | Cymuned, Calon ac Enaid y Gymuned
Ymgeisydd: Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
Awdurdod Lleol: Powys
Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect yn ceisio sicrhau dyfodol Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, sydd wedi'i rhestru'n Radd I, drwy atgyweirio'r rhannau mwyaf difrodedig o'i thoeau, newid y cynllun mewnol i wneud defnydd ehangach o'r gofod, gwella hygyrchedd drwy greu mynedfa newydd, gosod dehongliadau newydd a chyflwyno rhaglen weithgareddau gyda chynulleidfaoedd newydd.
Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant o £249,153 i wneud cyfanswm grant o £2,041,756; Cytuno ar newid yng nghanran y grant o 49% i 54%
Bridging Worlds: Connecting Communities Through Gower's Heritage
Ymgeisydd: The Centre for African Entrepreneurship
Awdurdod Lleol: Abertawe
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect pum mlynedd arfaethedig (Chwefror 2026 – Ionawr 2031) yw hwn i gasglu, cofnodi a rhannu hanesion dwy gymuned yn Abertawe a Gŵyr; trigolion hirsefydlog a chymunedau ffoaduriaid a lleiafrifoedd ethnig sydd bellach yn galw Abertawe yn gartref.
Penderfyniad: Gwrthod
Our past, their future
Ymgeisydd: Royal Mencap Society
Awdurdod Lleol: Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect hanes llafar 2.5 mlynedd yw hwn, yn nodi pen-blwydd yr ymgeisydd yn 80 oed, a fydd yn cofnodi storïau rhieni plant ac oedolion ag anabledd dysgu, a rhieni sydd ag anabledd dysgu eu hunain yng Nghymru.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £219,740 (96%)
Llais Tyisha
Ymgeisydd: Peoplespeakup LTD
Awdurdod Lleol: Sir Gâr
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 1 flwyddyn yw hwn i gasglu a gwarchod atgofion pobl o safleoedd penodol yn ward Tyisha, Llanelli, nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach ac sy'n cael eu hailddatblygu fel rhan o gynllun adfywio Tyisha gwerth miliynau o bunnoedd.
Penderfyniad: Gwrthod
Wales as an Outward Looking Nation: the story of St David's and Matsieng
Ymgeisydd: Dolen Cymru - Wales Lesotho Link
Awdurdod Lleol: Sir Benfro
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect arfaethedig dros ddau fis ar bymtheg (Hydref 2025-Mawrth 2027) yw hwn i gyflwyno rhaglen weithgareddau i gadw a dathlu'r cysylltiadau rhwng Tyddewi, Cymru a Lesotho.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £85,319 (44%)
Hanes mewn harddwch: revealing a prehistoric ritual landscape in North-East Wales
Ymgeisydd: Clwydian Range Archaeology Group
Awdurdod Lleol: Sir Ddinbych
Disgrifiad o'r prosiect: Cais wedi'i ailgyflwyno ar gyfer prosiect pedair blynedd (Ionawr 2026 i Ragfyr 2029) i arolygu, cloddio a chofnodi tirwedd gynhanesyddol ddefodol arwyddocaol Tŷ'n y Wern yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ger Bryneglwys.
Penderfyniad: Gwrthod
Deeside Through Time: gathering, sharing and celebrating the local heritage
Ymgeisydd: Cyngor Sir Y Fflint
Awdurdod Lleol: Sir Y Fflint
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 30 mis (Hydref 2025 i Fawrth 2028) i gasglu, rhannu a dathlu treftadaeth unigryw Glannau Dyfrdwy drwy ymgysylltu â chymunedau ar hyd glannau'r afon i godi ymwybyddiaeth o'r dreftadaeth adeiledig, ddiwylliannol a naturiol.
Penderfyniad: Gwrthod
Greekscapes: Recording the Greek Heritage in South Wales
Ymgeisydd: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Awdurdod Lleol: Caerdydd
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect treftadaeth arfaethedig 28 mis o hyd dan arweiniad y gymuned yw hwn i ddogfennu, cadw a dathlu hanes cymunedau Groegaidd yn ardal Caerdydd a'r Barri.
Penderfyniad: Gwrthod
The Welsh Christmas Caper
Ymgeisydd: Learning Curves a Gwasanaeth Byw'n Annibynnol RhCT
Awdurdod Lleol: Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 5 mis yw hwn sydd â'r nod o greu cyfleoedd i bobl anabl a gefnogir gan Wasanaeth Byw'n Annibynnol RhCT i archwilio treftadaeth Nadoligaidd Cymru a thraddodiadau pantomeim mewn ffordd hygyrch a chynhwysol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £10,800 (96%)