Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Gorffennaf 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
BWMI Male & Female Fully Accessible Toilets.
Ymgeisydd: Broughton War Memorial Institute
Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect, fydd yn para am fis, yw cynyddu hygyrchedd Neuadd Goffa'r Rhyfel Brychdyn drwy greu toiledau i bobl anabl ochr yn ochr â chyfleusterau gwell i'w defnyddio gan y cyhoedd.
Penderfyniad: Gwrthod
The history and heritage of Dowlais Community Centre
Ymgeisydd: Stephens and George Centenary Charitable Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig fydd yn para am flwyddyn (Medi 2025 i Fedi 2026) i adfywio adeilad y rheilffordd fel canolfan addysg a diwylliannol gyda phwyslais ar ymgysylltu cymunedol.
Penderfyniad: Gwrthod
Afro Fiesta
Ymgeisydd: Wrexham Africa Community CIC
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect tri mis, wedi'i leoli yn Wrecsam, sydd â'r nod o ddathlu treftadaeth Affricanaidd a chryfhau cysylltiadau cymunedol yn yr ardal.
Penderfyniad: Gwrthod
Capel Rhondda: Restoration, Faith, and Cultural Renewal
Ymgeisydd: Syro Malankara Catholic Church UK
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect arfaethedig hwn dros flwyddyn (Medi 2025 - Awst 2026) yn prynu Capel Rhondda a'i adfer, a sefydlu cartref parhaol ar gyfer cymuned Ffydd Gatholig y Dwyrain yn ne Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
Patchwork Futures
Ymgeisydd: Megan's Starr
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect 19 mis hwn, sy'n dechrau ym mis Awst 2025, yn galluogi pobl ifanc ddifreintiedig, niwroamrywiol a NEET i archwilio a dathlu treftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol a naturiol Sir Benfro trwy gyfrwng celf tecstilau a therapi cyfannol.
Penderfyniad: Gwrthod
Cynefin i Gwenynen
Ymgeisydd: Bumblebee Conservation Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect 3 blynedd hwn sy'n canolbwyntio ar gadwraeth gwenyn bwm yn cynnal gweithgareddau, fel safaris lles, digwyddiadau, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau plannu / clirio llwyni gyda'r nod o gynnwys 2,330 o bobl yn y gweithgareddau hyn.
Penderfyniad: Gwrthod
This is Me
Ymgeisydd: Pobl yn Gyntaf Cwm Taf
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio arfaethedig dros flwyddyn (Gorffennaf 2025-Mehefin 2026) i archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro/Cymraes a chael anabledd dysgu; gan gofnodi, arddangos a dathlu eu treftadaeth a'u diwylliant, a gweithio gyda rhanddeiliaid i wella hygyrchedd.
Penderfyniad: Gwrthod
Denbigh Museum at the Buttermarket (part of the larger project the Buttermarket Culture, Heritage and Wellbeing Centre)
Ymgeisydd: Amgueddfa Dinbych
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig dros flwyddyn (Awst 2025 i Orffennaf 2026) i adleoli ac ail-ddehongli casgliadau ac archifau AD mewn cartref newydd gyda'r nod o'u diogelu nhw a'r sefydliad ar gyfer y dyfodol, cynyddu nifer yr ymwelwyr ac ehangu ymgysylltiad â threftadaeth leol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £164,921 (98%)
Plethu: "Objects, Memories, and moments that Make us."
Ymgeisydd: Making Sense CIO
Disgrifiad o'r prosiect: Bwriad y prosiect un flwyddyn hwn yw creu casgliad cof parhaol o eitemau bob dydd o’r 1950au i’r 1980au i’w defnyddio fel adnoddau hel atgofion ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.
Penderfyniad: Gwrthod
Ceredigion Museum Makeover 2026: finding new stories and fresh voices in Ceredigion's collections / Gweddnewid Amgueddfa Ceredigion 2026 - chwilio casgliad Ceredigion am chwedlau a lleisiau newydd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect dros flwyddyn sydd â'r nod o ailwampio arddangosfeydd Amgueddfa Ceredigion a chreu cyfleoedd i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gymryd rhan yn y broses o lunio'r arddangosfeydd hyn.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £72,350 (29%)
Our past, their future
Ymgeisydd: Royal Mencap Society
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect hanes llafar 2.5 mlynedd a fydd yn cofnodi storïau rhieni plant ac oedolion ag anableddau dysgu, a rhieni sydd ag anableddau dysgu eu hunain yng Nghymru, dros yr hanner can mlynedd diwethaf.
Penderfyniad: Gwrthod