Shaheen Sutton

Shaheen Sutton

Shaheen Sutton Headshot
Mae Shaheen Sutton wedi gweithio ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol am ddau ddegawd.

Mae gan Shaheen ugain mlynedd o brofiad ar lawr gwlad yn gweithio’n bennaf yn y sector gwirfoddol, ac mae wedi bod yn ymwneud â materion amrywiaeth mewn iechyd, treftadaeth, eiriolaeth, cyflogaeth a'r gyfraith.

Gweithiodd i'r Rhwydwaith Amgylchedd Pobl Dduon (BEN) gan hyrwyddo'r dreftadaeth naturiol, adeiledig a hanesyddol fel maes o fwynhad, addysg a chyflogaeth i gymunedau ymylol a heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hefyd wedi darparu hyfforddiant i sefydliadau treftadaeth ac amgylcheddol gan eu helpu i fod yn mwy cynrychioliadol a chynhwysol.

Mae hi hefyd wedi gweithio i gorff cyhoeddus mawr fel rheolwr amrywiaeth rhanbarthol a chenedlaethol, lle'r oedd yn weithgar wrth gynllunio a darparu hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd hyn yn cynnwys y cwrs hyfforddiant Springboard i fenywod sydd wedi ennill llu o wobrau. Mae hefyd wedi gweithio fel swyddog gwahaniaethu ac eiriolaeth. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith i feincnodi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

Mae Shaheen yn ymgyrchydd cymunedol, ac wedi cyhoeddi darnau i gydnabod digwyddiadau nodedig yn hanes Cymru: 180 mlynedd ers gwrthryfel y Siartwyr a Siartiaeth Ddu; a'r Terfysgoedd Hil yn 1919.

Mae Shaheen wedi byw a gweithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Glasgow a Choleg Harlech.