Gwirfoddolwyr digidol yn cadw pobl mewn cysylltiad â bywyd gwyllt ar ynys yng Nghymru

Gwirfoddolwyr digidol yn cadw pobl mewn cysylltiad â bywyd gwyllt ar ynys yng Nghymru

Person sitting in front of two computer screens
Volunteer Lucy Houliston

Heritage Emergency Fund

Wales
The Wildlife Trust of South and West Wales
£194900
Daeth gwirfoddolwyr â sgiliau digidol i gymorth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru pan na allai pobl ymweld ag Ynys Sgomer yn ystod y cyfyngiadau symud.

Yn 2020, daeth yr argyfwng coronafeirws (COVID-19) â thwristiaeth i stop, gan ddinistrio incwm  Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Fe wnaeth grant o £194,900 gan y Gronfa Argyfwng Treftadaeth eu helpu i dalu costau, gan gynnwys ar gyfer cadwraeth, cyfarpar diogelu personol, teithio, gorbenion, TG, cyflenwadau a staff.

Roedd yr arian yn golygu y gallent gadw dau warden ar Sgomer i ofalu am fywyd gwyllt yr ynys. Roedd hefyd yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i ymgymryd â gwirfoddolwyr digidol a oedd, gan weithio o bell, yn ymuno â'r wardeiniaid i sefydlu ffrydiau byw bywyd gwyllt.

Close up of two puffins
Palod. Credyd: Mike Alexander

Defnyddiodd y gwirfoddolwyr eu sgiliau a oedd eisoes yn bodoli i olygu fideos, dod o hyd i glipiau a ffotograffau a rheoli rhyngweithiadau ar gyfryngau cymdeithasol – gan eu bwydo i wardeiniaid yr ynys yn ystod sesiwn holi ac ateb fyw. Dysgon nhw sgiliau newydd hefyd fel y gallen nhw ddod yn gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr byw.

Dywedodd y gwirfoddolwr Lucy Houliston, "Nid yn unig y gwnaeth bod yn rhan o dîm Sgomer Live roi cyfle i mi ddysgu sgiliau technegol newydd (sydd wedi dod yn ddefnyddiol ar gyfer llawer o brosiectau cyfryngau a chodi arian eraill), ond roedd hefyd yn dysgu llawer i mi am fywyd gwyllt anhygoel Ynys Sgomer!"

Mae Sgomer Live wedi denu 250,000 o wylwyr gan bobl ar draws y byd hyd yma – gan gyrraedd ymwelwyr newydd yn a chadw rhai presennol mewn cysylltiad – a chodi £110,000 mewn rhoddion.

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...