Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Medi 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Gerddi Cymunedol a Chanolfan Gymorth
Ymgeisydd: Ysgol Gymunedol Pencoedtre
Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect un flwyddyn hwn, a leolir yn Ysgol Gyfun Pencoedtre, Y Barri, yw datblygu canolfan gymunedol a gardd gymunedol mewn hen dŷ gofalwr a thiroedd gyfagos â'r ysgol.
Penderfyniad: Gwrthod
Saving our native Welsh Mountain Pony. Securing the Welsh landscape of our future and preserving the industrial history of our past
Ymgeisydd: Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd (Ionawr 2026 i Ionawr 2028) yw hwn sydd am ddefnyddio ymchwiliadau gwyddonol ac ymgysylltu cymunedol i godi ymwybyddiaeth o anffawd y Merlen Fynydd Gymreig a'i sefydlu fel brîd prin cofrestredig.
Penderfyniad: Gwrthod
Replace roof of Neuadd Goffa Bodwrog, including new front door and replace four windows
Ymgeisydd: Neuadd Goffa Bodwrog
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pum mis yw hwn ar gyfer gwaith i ailosod to Neuadd Goffa Bodwrog, sef Neuadd Goffa ym Modwrog, Llandrygarn, Ynys Môn.
Penderfyniad: Gwrthod
Montgomery 1644: Civil War in the Marches
Ymgeisydd: Battlefields Trust
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 3 blynedd arfaethedig (Tachwedd 2025 – Hydref 2028) yw hwn i ddefnyddio Brwydr Trefaldwyn fel catalydd i ail-ddehongli ac ailddarganfod y Rhyfel Cartref mewn cyd-destun Cymreig. Mae'r prosiect wedi'i rannu'n dri nod penodol; Ymchwilio, Ymgysylltu ac Etifeddiaeth.
Penderfyniad: Gwrthod
Gower Bone Caves – Paviland Reimagined
Ymgeisydd: Gower Unearthed CIC
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 14 mis yw hwn sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth Ogof Pafiland, Gŵyr, trwy greu adnodd addysgol rhyngweithiol dwyieithog sydd â'r nod o addysgu pobl ac ennyn eu diddordeb yn y dreftadaeth.
Penderfyniad: Gwrthod
Discovery Student Volunteering Swansea 60th Anniversary
Ymgeisydd: Discovery Student Volunteering Swansea
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pedwar mis ar ddeg (Tachwedd 2025 - Ionawr 2027) yw hwn i ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 60 oed gyda rhaglen o addewidion, casglu storïau dwyieithog, curadu hanes y sefydliad a digwyddiad dathlu.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £13,528 (87%)
Dathlu Cerddoriaeth a Cherddorion Traddodiadol Cymru – Championing Welsh Traditional Music & Musicians
Ymgeisydd: BLAS CYFRYNGAU CYMRU CBC
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deuddeg mis (Hydref 2025 - Hydref 2026) yw hwn i gofnodi, cynnal a dathlu treftadaeth anniriaethol cerddoriaeth werin Cymru drwy hanesion llafar, cydweithrediadau artistiaid a darllediadau dwyieithog.
Penderfyniad: Gwrthod
The Buckholt Community Archaeological Dig (BCAD)
Ymgeisydd: Buckholt Bryngaer CIC
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect chwe mis (Medi 2025 – Mawrth 2026) yw hwn ar gyfer 20 diwrnod o gloddio archeolegol cymunedol gan wirfoddolwyr, dan arweiniad a chefnogaeth archeolegwyr proffesiynol, ar draws tair ardal allweddol o dreftadaeth hynafol yng Nghoedwig Buckholt, Sir Fynwy, yn cwmpasu treftadaeth Neolithig, Oes yr Haearn ac Ôl-Ganoloesol.
Penderfyniad: Gwrthod
'Coalition': A Sustainable Locomotive for Wales
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 39 mis (Medi 2025 – Rhagfyr 2028) arfaethedig yw hwn i adfer locomotif trydan rheilffordd gul i gyflwr gweithio ac adrodd hanes tyniant rheilffordd trydanol yng Nghymru.
Penderfyniad: Gwrthod
Camlas: Ein Llwybr, Ein Llais / Our Path, Our Voice
Ymgeisydd: Cerdd Gymunedol Cymru
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o ailgysylltu cymunedau â threftadaeth ddiwydiannol, ddiwylliannol a mudol a rennir Camlas Morgannwg.
Penderfyniad: Gwrthod
Lighting up 25 years of Blaenavon's World Heritage (LUWH25)
Ymgeisydd: The Hwb Torfaen
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect tri deg mis (Hydref 2025 – Mawrth 2028) yw hwn i ddathlu pen-blwydd cofrestru statws Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn 25 oed, gyda rhaglen o weithgareddau dysgu ac ymgysylltu cymunedol.
Penderfyniad: Gwrthod
Cofleidio Cymraeg (Embrace Welsh)
Ymgeisydd: Kidz R Us Limited
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae'r prosiect arfaethedig 12 mis hwn wedi deillio o syniadau a drafodwyd gan y clwb cerddoriaeth hwn, lle mynegodd ei aelodau ifanc awydd i greu eu caneuon a'u perfformiadau gwreiddiol Cymreig eu hunain, a'u rhannu â chynulleidfa ehangach.
Penderfyniad: Gwrthod
Heritage Forward
Ymgeisydd: Celfyddydau a Busnes Cymru
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd arfaethedig (Hydref 2025 - Medi 2027) yw hwn i gynnig cefnogaeth bwrpasol i sefydliadau treftadaeth ledled Cymru i'w helpu i ffynnu mewn cyfnodau heriol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £235,000 (86%)
Henry Tudor Centre: Exhibition Fit Out and Community Engagement Programme
Ymgeisydd: Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect 2.5 mlynedd yw hwn i ddatblygu a lansio Canolfan Harri Tudur ym Mhenfro. Yn rhan o adfywiad ehangach Cei'r De, mae CSP yn adnewyddu adeilad rhestredig Gradd II fel cartref ar gyfer Canolfan Harri Tudur.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £249,813 (31%)