Proffil staff: Meghan Hamer, Gweinyddwr AD

Proffil staff: Meghan Hamer, Gweinyddwr AD

A young white woman with long red-blonde hair wearing a white top and black jacket standing in an urban area.
Dechreuodd Meghan yn y Gronfa Treftadaeth ar gontract cyfnod penodol, arhosodd ymlaen fel prentis ac yna cafodd ei dyrchafu i fod yn Weinyddwr AD. Mae hi wedi gweithio yma ers pedair blynedd ac wedi'i lleoli yn swyddfa Leeds.

Beth yw cyfrifoldebau eich rôl?

Mae'n amrywiol ac yn gyffrous: Rwy'n helpu rheoli newidiadau i ddata gweithwyr ac yn cefnogi ymholiadau AD cyffredinol. Rwyf hefyd yn cefnogi rheolwyr gyda recriwtio, o roi swyddi gwag ar ein gwefan a threfnu cyfweliadau i gefnogi cyflwyno dechreuwyr newydd i'r Gronfa Treftadaeth. Gan ei fod yn dîm bach, rwy'n cael gweld llawer o brosiectau gwahanol – sy'n wych i mi gan fy mod wrth fy modd yn dysgu pethau newydd, ac mae wir yn cefnogi fy natblygiad proffesiynol.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio yma?

Yn syml, y bobl. Mae'r amgylchedd a'r diwylliant rydyn ni'n gweithio ynddo mor gefnogol. Rwy'n teimlo i mi gael fy ngwerthfawrogi'n fawr, ac mae pawb bob amser yn barod i helpu ei gilydd.

Beth sy'n eich cymell chi yn y gwaith?

Yn y swyddogaeth AD a Phobl, rydyn ni'n cael gweld effeithiau'r gwaith a wnawn o lygad y ffynnon – o weld cydweithwyr yn datblygu yn eu gyrfaoedd a dathlu cerrig milltir gyda nhw, i ddarparu cefnogaeth weinyddol a gweithio gyda gwahanol dimau a'r undebau llafur. Rwy'n ymfalchïo'n fawr yn y gwaith rwy'n ei wneud, ac mae gallu cefnogi fy nghydweithwyr yn gymhelliad mawr i mi.

Beth yw uchafbwynt eich amser yn y Gronfa Treftadaeth?

Llwyddo yn fy nghymhwyster Lefel 3 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu fel rhan o fy mhrentisiaeth. Cefais gymaint o gefnogaeth gan y tîm yn ystod y cyfnod hwn ac roeddwn mor hapus pan wnes i ei gwblhau. Diolch i'n cefnogaeth dysgu a datblygu allanol ar gyfer gweithwyr y Gronfa Treftadaeth, 'dw i hefyd wedi bod yn ffodus i ddechrau fy nghymhwyster Lefel 5 eleni.

Beth yw eich hoff le treftadaeth?

Dw i wrth fy modd â'r Piece Hall yn Halifax (a gafodd ei hariannu gennym). Mae'n lleoliad amlbwrpas yr wyf wedi'i weld yn trawsnewid dros y blynyddoedd. Bellach mae ganddo lawer o fariau, bwytai a siopau, gan aros yn driw i'w gymeriad gwreiddiol. Mae'r Piece Hall hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth fyw. Mae wedi bod yn hyfryd gweld y budd y mae'r dref wedi'i gael o'r adfywiad hwn hefyd.