Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Awst 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Llwybrau'r cof (Pathways to digital reminiscence)
Ymgeisydd: Cwmpas
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd (Medi 2025 – Awst 2027) i gysylltu pobl sy'n byw yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn â'u treftadaeth a chofnodi hanes byw'r cymunedau hyn. Mae'r prosiect yn ceisio ailsefydlu gwasanaeth beicio 'atgofion' wedi'i fwyhau'n ddigidol gyda thechnolegau Realiti Rhithwir (VR) trochol, a fydd yn galluogi cyfranogwyr i ddefnyddio beic ffitrwydd tra'n gwisgo clustffon VR i 'feicio' o amgylch ardaloedd lleol sy'n bwysig iddynt a chofnodi atgofion. Bydd gweithgareddau amgen yn ennyn diddordeb pobl na allant ddefnyddio'r beic.
Penderfyniad: Gwrthod
Step inside with growing stronger together
Ymgeisydd: Growing Stronger Together CIC
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect blwyddyn (Awst 2025 – Awst 2026) yw hwn i gysylltu plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'u teuluoedd â threftadaeth leol.
Penderfyniad: Gwrthod
Polish Heritage Penley: "Polska Penley, Preserving a Legacy" Yn anrhydeddu, dathlu a gwarchod treftadaeth Bwylaidd trwy brosiect hanesion llafar yng Ngogledd Cymru.
Ymgeisydd: Sefydliad Enfys, Wrecsam
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd yw hwn sydd â'r nod o warchod treftadaeth Bwylaidd Llannerch Banna, ym mwrdeistref sirol Wrecsam, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £153,272 (97%)
Heritage in Your Hands
Ymgeisydd: Centre of Sign-Sight-Sound
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect deunaw mis (Ionawr 2026 - Mehefin 2027) yw hwn sy’n ceisio creu cyfryngau a gwybodaeth hygyrch ar gyfer y gymuned colled synhwyraidd ar amrywiaeth o safleoedd treftadaeth yng ngogledd Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
Llysiau a Natur
Ymgeisydd: Down to Zero Ltd
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd arfaethedig (Medi 25-Medi 27) yw hwn i greu cysylltiadau rhwng cymunedau a threftadaeth naturiol ar dri safle yn RhCT; Pont-y-clun, Aberpennar a gwlypdiroedd Cwmbach (Aberdâr). Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dair thema; gweithgareddau ymgysylltu, datblygu sgiliau treftadaeth a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Penderfyniad: Gwrthod
Breathing Life into Death: Ailddatblygu'r Ganolfan Eifftaidd
Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect chwech mis yw hwn sy'n rhan o ailddatblygu oriel Tŷ'r Farwolaeth yn Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe. Nod y prosiect ehangach yw creu profiad trochol o’r hen Aifft i bob ymwelydd.
Penderfyniad: Gwrthod
Sense of belonging - 'cynefin'
Ymgeisydd: Mind Aberhonddu a'r Cylch
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect tair blynedd arfaethedig (Medi 2005 i Awst 2028) yw hwn i annog pobl i symud o fod yn ddefnyddwyr goddefol i ddefnyddwyr gweithredol cefn gwlad Powys er mwyn datblygu ymdeimlad cynyddol o gysylltiad â byd natur a'r dirwedd leol.
Penderfyniad: Gwrthod
The refurbishment and preservation of Midwell
Ymgeisydd: Cyngor Tref Llanilltud Fawr
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect pum mis yw hwn gan Gyngor Tref Llanilltud Fawr sydd â'r nod o atgyweirio, adfer a gwella mynediad at ffynnon sy'n rhestredig Gradd II. Byddai dehongliad yn cael ei greu ar gyfer y safle mewn partneriaeth â'r gymdeithas hanes leol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £34,453 (94%)