
Roedd Jon gyda'r Comisiwn Archwilio am 27 mlynedd, gan gynnwys naw mlynedd fel archwilydd statudol a thair blynedd fel rhan o'r tîm rheoli gweithredol. Ef oedd prif weithredwr cyntaf Public Sector Audit Appointments Limited o 2015 i 2018.
Ers 2018 mae wedi ymgymryd â nifer o rolau anweithredol ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG, yn aelod o banel cynghori'r Cyngor Adrodd Ariannol ac yn aelod annibynnol o bwyllgor archwilio a risg y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae hefyd yn aelod o banel archwilio plismona a throseddu ar y cyd Maer Llundain.
Mae Jon yn byw yn Southport a Swydd Derby ac yn ysgrifennydd y cwmni mewn elusen dreftadaeth yn Swydd Derby sy'n gweithredu ar Safle Treftadaeth y Byd Derwent Valley Mills. Yn ei amser hamdden mae Jon yn mwynhau canu, gwylio a gwrando ar gerddoriaeth, teithio a cherdded â'i gŵn.