Karen Lewis

Karen Lewis

Karen Lewis
Role
Aelod o Bwyllgor Cymru
Mae gan Karen gefndir eang ar draws addysg, y diwydiannau creadigol ac ymgysylltu cymunedol ac mae hi'n arbennig o angerddol dros hanes llafar ac adrodd storïau'n ddigidol.

Hi oedd Uwch Gynhyrchydd sefydlu menter Adrodd Storïau'n Ddigidol uchel ei pharch y BBC. Yn ddiweddarach daeth yn Gyfarwyddwr Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru, lle bu’n arwain rhaglenni ymchwil hanes llafar a storïau digidol. Mae hi wedi dal nifer o swyddi yn y trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys ei swydd fel Cyfarwyddwr Cymunedau a Chynhwysiad yng Nghwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt).

Mae penodiadau anweithredol Karen yn cynnwys gwasanaethu ar hyn o bryd fel aelod o Fwrdd Llais – Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) – a bu'n gwasanaethu fel yr Aelod a benodwyd dros Gymru ar Banel Defnyddwyr Cyfathrebiadau’r DU a'r Pwyllgor Pobl Hŷn ac Anabl. Hi oedd Cadeirydd Arweinwyr Digidol Cymru.

Mae ganddi BA(Anrh) o Brifysgol Aberystwyth, MA(Res) a PGDip o Brifysgol De Cymru a TAR o Brifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol o Bontypridd, mae hi wedi byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer lle mae’n ymddiddori’n fawr yn hanes a threftadaeth ei hardal leol.