Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Mawrth 2023

Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Mawrth 2023

Datganiad am broses ddeisyfu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi ymddiriedolaethau treftadaeth adeiladau.

Rydym wedi deisyfu ar y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol i arwain prosiect partneriaeth gwerth £5miliwn i gynyddu capasiti ymddiriedolaethau a arweinir gan gymunedau sy'n gofalu am dreftadaeth adeiledig ar draws y DU.

Nod y prosiect yw cynyddu gweithgarwch adeiladu capasiti yn y sector a chynnig cyllid datblygu prosiectau cam cynnar. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio annog partneriaethau cynhwysol fel rhan o weithio cryfach seiliedig ar le yn eu hardal leol.

Rydym yn defnyddio ein pŵer deisyfu dim ond pan fo'n amlwg mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni un o'n hamcanion strategol. Yn yr achos hwn, nodwyd deisyfu ceisiadau fel y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r pedwar amcan strategol canlynol:

  • bydd y sefydliad a ariennir yn fwy gwydn
  • bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell
  • bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld â hi
  • bydd ystod ehangach o bobl yn cymryd rhan mewn treftadaeth

Roedd y broses deisyfu'n cynnwys cyhoeddi brîff sy'n rhoi nodau cyffredinol ar gyfer y prosiect. Dros gyfnod o dair blynedd, byddai'r prosiect yn:

  • cynhyrchu tystiolaeth o dwf mewn capasiti o ran datblygiad sefydliadol ymddiriedolaethau, yn seiliedig ar raddfa o gapasiti seilwaith lleol
  • datblygu ymddiriedolaethau o fedru adfer a rheoli ased cychwynnol i greu datrysiadau ar gyfer portffolio
  • datblygu a chynyddu partneriaethau lleol ymddiriedolaethau i ehangu ystod ac amrywiaeth y rhanddeiliaid
  • dangos cydweithio â sefydliadau cymorth eraill yn y sector

Byddai'r prosiect yn targedu cyllid gan ddefnyddio meini prawf a arweinir gan ymagwedd seiliedig ar le Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan alluogi i'r cymorth gyrraedd lleoedd y nodwyd bod ganddynt rai o'r anghenion, cyfle a photensial mwyaf o ran treftadaeth a chymuned.

Deisyfwyd cais gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ac fe'i dyfarnwyd gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Gwnaed y ceisiadau o dan raglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac fe'u haseswyd yn erbyn brîff y deisyfiad.

O ganlyniad i'r deisyfiad hwn, dyfarnwyd y grant canlynol, cyfanswm o £4,999,143:

Cronfa Treftadaeth Bensaernïol

Disgrifiad byr o'r prosiect: Bydd y grant tair blynedd yn gwella rhaglen yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth i greu model haenau aml-lefel newydd o adeiladu capasiti. Gyda'r amcan o ganiatáu i ymddiriedolaethau fod yn hunangynhaliol yn y pen draw, bydd yn galluogi ymddiriedolaethau i ennill sgiliau'n fewnol, meithrin partneriaethau ac ymgymryd â mwy o eiddo. Bydd rhaglen o grantiau Datblygu a Hyfywedd Prosiectau'n cyd-fynd â chefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth i alluogi datblygu prosiectau'n weithredol.

Mae Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth yn sefydliadau sy'n gweithredu fel datblygwyr aml-adeiladu, yn adeiladu partneriaethau yn y gymuned ac maent yn entrepreneuraidd ac nid-er-elw.

Grant a ddyfarnwyd: £4,999,143