Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Rhagfyr 2022

Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Rhagfyr 2022

Datganiad am broses ddeisyfu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi addoldai.

Bu i ni ddeisyfu prosiect partneriaeth i gefnogi cyflwr treftadaeth a rheoli capasiti addoldai yng Nghymru, Yr Alban a gogledd-orllewin Lloegr. Nod y prosiect yw ehangu ymgysylltiad â threftadaeth adeiledig addoldai yn y tymor hir, gan adeiladu cysylltiadau cryfion â chymunedau lleol a chynyddu eu cynaladwyedd.

Rydym yn defnyddio ein pŵer deisyfu dim ond pan fo'n amlwg mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni un o'n hamcanion strategol.

Yn yr achos hwn, nodwyd deisyfu ceisiadau fel y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r tri amcan strategol canlynol:

  • dod â threftadaeth i gyflwr gwell
  • ysbrydoli pobl i werthfawrogi treftadaeth yn fwy
  • cefnogi sefydliadau i fod yn fwy cydnerth, mentrus a blaengar

Roedd y broses deisyfu'n cynnwys cyhoeddi brîff sy'n rhoi nodau cyffredinol ar gyfer y prosiect.

Dros gyfnod o dair blynedd, byddai'r prosiect yn:

  • cynyddu capasiti addoldai i ofalu am eu treftadaeth adeiledig
  • cynyddu gallu addoldai i gyrchu ariannu ar gyfer prosiectau mawr, yn benodol drwy gyrraedd cymunedau ehangach a rheoli risgiau prosiectau cyfalaf yn well
  • cryfhau gallu sefydliadau'r sector ymhellach i gyflwyno prosiectau adeiladu capasiti ar draws y DU
  • rhannu gwersi a ddysgwyd ar adeiladu capasiti'r sector ar draws ffiniau

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar anghenion penodol o fewn tair gwlad/ardal yn y DU: Cymru, Yr Alban a gogledd-orllewin Lloegr:

  • Yn Yr Alban, byddai'r prosiect yn cefnogi cymunedau sydd am gymryd rheolaeth neu berchnogaeth ar addoldai sy'n profi cyfnod o newid, er enghraifft drwy gefnogaeth arfarnu opsiynau.
  • Yng Nghymru, byddai'n cefnogi rheolwyr addoldai i gynyddu nifer eu hymwelwyr sy'n dwristiaid, o bosib drwy adeiladu partneriaethau neu waith dehongli newydd.
  • Yng ngogledd-orllewin Lloegr, byddai'n cefnogi rheolwyr addoldai i gynyddu eu gallu i reoli asedau drwy ehangu cysylltiadau â chymunedau lleol.

Deisyfwyd cais gan Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ac fe'i dyfarnwyd gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Gwnaed y ceisiadau o dan raglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac fe'u haseswyd yn erbyn brîff y deisyfiad.

O ganlyniad i'r deisyfiad hwn, dyfarnwyd y grant canlynol, cyfanswm o £1,909,490:

Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol

Disgrifiad byr o'r prosiect: Bydd y rhaglen Cherish tair blynedd yn cynnig atebion ymarferol i eglwysi a chapeli a drysorir er mwyn gwella sut y gofalir am adeiladau a sicrhau y cânt eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Bydd cymorth ariannol yn cael ei ddarparu ynghyd â mentrau i gryfhau sgiliau a hyfforddiant rheoli treftadaeth ar gyfer pobl sy'n gofalu am addoldai, gan fuddsoddi'n gyffredinol mewn treftadaeth, galluoedd ac adnoddau ardaloedd lleol.

Grant a ddyfarnwyd: £1,909,490