Denise Lewis Poulton

Denise Lewis Poulton

Header and shoulder profile photo of Denise Louis Poulton
Role
Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Chadeirydd Pwyllgor Cymru.
Mae Denise yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol, yn ymddiriedolwr ac yn uwch gynghorydd i gyrff y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Ar hyn o bryd mae hi'n Gyfarwyddwr Anweithredol S4C, y darlledwr teledu Cymraeg a sianel aml-gyfrwng i Gymru. Bu hefyd yn gwasanaethu ar Fyrddau Casgliad Wallace ac Opera Cenedlaethol Cymru, fel Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Wessex ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan ac fel Is-lywydd Gŵyl Lenyddol Y Gelli. 

Yn arbenigwr materion corfforaethol a chyfathrebiadau strategol, mae Denise wedi cynghori Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru a nifer o sefydliadau diwylliannol, cyfryngau a chyhoeddus Cymru yn ystod ei gyrfa fel ymgynghorydd

Treuliwyd ei gyrfa weithredol mewn rolau arweinyddiaeth mewn cwmnïau telathrebu rhyngwladol, a arweiniodd at ei rôl fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Grŵp yn Orange plc lle bu iddi greu ac adeiladu portffolio heb ei ail o noddi'r celfyddydau, addysg a diwylliant.

Wedi ei geni yn Adpar, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion, cafodd Denise ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg y Brenin, Prifysgol Llundain. Yn siaradwr Cymraeg, mae hi'n angerddol am harneisio pŵer treftadaeth, diwylliant a'r celfyddydau wrth adfywio cymunedau yng Nghymru ac ar draws y DU.