Ein gwasanaeth rheoli buddsoddi newydd

Ein gwasanaeth rheoli buddsoddi newydd

Mae'r ffordd rydych yn gwneud cais am gyllid ar gyfer eich prosiect ac yn ei reoli yn newid.

Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth newydd sy'n gliriach ac yn symlach i'w ddefnyddio.

Diweddarwyd y dudalen: 20 Gorffennaf 2021

Mae ein porth ymgeisio presennol yn cael ei ddisodli gan wasanaeth newydd a gwell. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i symud prosiectau i'r gwasanaeth yma a bydd yn parhau tan hydref 2021.

Bydd technoleg gyfoes a dylunio symlach yn ei gwneud yn haws gwneud cais am gyllid a'i reoli. Bydd hefyd yn cefnogi ein staff i ddarparu gwell gwasanaeth i ymgeiswyr a'r sefydliadau treftadaeth a ariennir gennym.

Mae ein proses sylfaenol o roi grantiau yn aros yr un fath.

Profiad gwell

Mae manteision y gwasanaeth newydd yn cynnwys:

  • gwybodaeth glir a chamau hawdd eu dilyn
  • technoleg sy'n gyfeillgar i ffonau symudol a thabledi
  • tudalennau'n llwytho'n gyflymach
  • dylunio hygyrch a chyson 
  • proses ymgeisio fwy esmwyth, byddwn dim ond gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom
  • awgrymiadau a chanllawiau wedi'u hymgorffori ar y ffurflen gais
  • gwelliant i'r ffordd rydym yn casglu data monitro cydraddoldeb, felly rydym mewn sefyllfa well i reoli ac olrhain amrywiaeth ein grantiau 

Ceisiadau newydd

Mae ein gwasanaeth newydd, 'Cael cyllid ar gyfer prosiect treftadaeth' bellach wedi disodli'r porth ymgeisio ar gyfer pob cais newydd.

Mewngofnodi i Gael cyllid ar gyfer prosiect treftadaeth

Ceisiadau a phrosiectau ar y gweill

Os oes gennych brosiect gweithredol gyda ni, a'i reoli drwy'r hen borth ar hyn bryd, byddwn mewn cysylltiad i ddweud wrthych pryd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei symud i'r gwasanaeth newydd, pryd y gallwch ddechrau ei defnyddio, ac a oes angen i chi gymryd unrhyw gamau eraill.

Os oes gennych brosiect gweithredol gyda ni, a'i reoli drwy'r porth newydd, nid oes gennych unrhyw gamau pellach a dylech barhau i reoli eich prosiect yma.

Yng nghanol cais?

Os ydych chi ar ganol cwblhau – ond heb gyflwyno eto – cais yn yr hen borth, pan fyddwch yn symud i'r gwasanaeth newydd bydd angen i chi ail-gofnodi'r wybodaeth. Bydd gennych fynediad darllen-yn-unig i'ch cais heb ei gyflwyno ar y porth. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei cholli wrth i chi drosglwyddo.

Prosiectau'r gorffennol

Os yw eich prosiect wedi cwblhau a bod gennych wybodaeth o hyd am yr hen borth ymgeisio, ni fyddwch yn gallu cael gafael arno ar ôl i ni ymddeol o'r system honno yn hydref 2021.

Os ydych am gadw eich gwybodaeth, cadwch gopi yn rhywle arall cyn gynted â phosibl.

Cadw eich data'n ddiogel

The privacy and security of the personal information you provide is extremely important to us and we will only ask for information we need and will use. See our privacy policy for more details.

Mae preifatrwydd a diogelwch y wybodaeth bersonol a roddwch yn eithriadol o bwysig i ni a byddwn ond yn gofyn am wybodaeth sydd ei hangen arnom ac y byddwn yn ei defnyddio. Gweler ein polisi preifatrwydd am fwy o fanylion.

Oes gennych chi gwestiwn?

Cysylltwch â ni i ofyn cwestiwn neu roi adborth