Canlyniad: bydd y sefydliad a ariennir yn fwy gwydn
Beth mae'r canlyniad hwn yn ei olygu
Os yw eich prosiect yn llwyddiant, bydd gan eich sefydliad fwy o allu i addasu i amgylchiadau sy'n newid er mwyn rhoi dyfodol cadarn i chi. Mae hyn yn cynnwys y gallu i reoli bygythiadau a heriau a gallu ymateb i gyfleoedd newydd.
Byddwch yn dangos eich bod yn deall cryfderau a gwendidau presennol y sefydliad. Yna gallech sicrhau mwy o wytnwch drwy:
- llywodraethu cryfach mwy amrywiol
- mwy o gyfranogiad lleol yn eich sefydliad
- mwy o sgiliau rheoli a staff
- defnydd effeithiol o ddigidol
- ffynonellau newydd o arbenigedd a chyngor
- gweithio mewn partneriaeth i rannu gwasanaethau, staff ac adnoddau
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Efallai eich bod wedi cynyddu incwm, neu wedi cynhyrchu incwm o gymysgedd gwahanol o ffynonellau, gan gynnwys gweithgarwch masnachol, gwaddolion neu raglenni codi arian newydd.
Gallai sefydliad mwy gwydn ddefnyddio technoleg newydd a sefydlu ffyrdd newydd o weithio'n ddigidol gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys cyfuno arbenigedd ac adnoddau.
Efallai y bydd gennych fwy o gapasiti a sgiliau drwy hyfforddiant, neu recriwtio aelodau bwrdd neu wirfoddolwyr newydd a mwy amrywiol. Dylech hefyd allu dangos bod gennych gefnogaeth a chyfranogiad ehangach a mwy cynhwysol gan gymunedau a chynulleidfaoedd.
Dylai'r newidiadau a wnewch fel rhan o'ch prosiect eich galluogi i ddangos eich bod mewn sefyllfa gryfach o lawer ar gyfer y dyfodol.
Pethau i'w hystyried
Y darlun cyfan: mae prosiectau meithrin gallu yn aml yn gweithio'n well pan fyddant yn ystyried y sefydliad yn ei gyfanrwydd, nid dim ond un elfen benodol, megis codi arian neu gyllid, ar ei ben ei hun.
Arfarniad gonest: mae deall a bod yn realistig am gryfderau a gwendidau cyfredol yn bwysig. Gall yr offeryn Gwirio Cryfder Treftadaeth Gydnerth helpu i lywio sgyrsiau rhwng gwirfoddolwyr, staff ac aelodau'r Bwrdd.
Llywodraethu cryf ac amrywiol: mae sicrhau bod gan y Bwrdd y sgiliau cywir i ddatblygu'r sefydliad yn hanfodol. Dylai aelodaeth y Bwrdd hefyd adlewyrchu a chynrychioli'r cynulleidfaoedd y mae'r sefydliad am weithio gyda nhw.
Y gallu i wneud y newid: mae cynllunio a gweithredu newidiadau yn cymryd amser ac ymdrech. Gall cyllid i gynnwys uwch staff, fel y gallant ganolbwyntio ar hyn, a chymryd amser i ffwrdd o'r dydd i ddydd, fod o gymorth mawr.
Gall fod o fudd i bawb: gall unrhyw faint a math o sefydliad elwa o wneud newidiadau i feithrin eu gallu – nid dim ond y rhai sy'n fawr iawn neu'n newydd iawn.
Ymgorffori newid: gall cymorth dwys fel mentora a hyfforddi helpu, ond mae angen yr uchelgais a'r ymrwymiad ar sefydliadau i ddatblygu newid, gyda chymorth cynllunio, gweithredu ac adolygu.
Gweithio gyda'i gilydd: mae'n bwysig i sefydliadau gydweithio, rhannu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hadnoddau. Gall prosiect meithrin gallu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn yn well.
Beth yw'r asedau mwyaf?: mae datblygu ffyrdd newydd o fanteisio ar asedau yn rhan allweddol o feithrin gallu. Gall asedau ffisegol a llai diriaethol, fel cronfa ddata o gefnogwyr ymroddedig, neu frand cryf, gyflwyno cyfleoedd cryf.
Deall yr arian: dylai pawb fynd i'r afael â chyllidebu, costio a rheolaethau ariannol. Mae deall costau llawn cyflawni prosiect yn helpu i sicrhau bod sefydliadau'n cael y cyllid sydd ei angen arnynt.
Perfformiad ac effaith: mae cael y sgiliau a'r prosesau ar waith i fonitro perfformiad yn erbyn targedau a mesur effaith yn bwysig. Mae adrodd o dystiolaeth yn hanfodol i ennill cefnogaeth a chyllid.
Enghraifft 1 o brosiect digidol
Mae Cyfeillion Oriel Kirkby ac Amgueddfa Prescot wedi cychwyn ar brosiect i godi'r sgiliau digidol o fewn y sefydliad er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gwella gwydnwch.
Bydd gweithio gyda mentor, aelodau pwyllgor, gwirfoddolwyr a staff lleoliad yn datblygu sgiliau digidol i ddefnyddio technoleg, gan feithrin hyder o fewn y sefydliad i rannu eu casgliadau a'u harddangosfeydd ar-lein. Bydd sicrhau bod ffyrdd digidol o weithio yn rhan annatod o'r sefydliad ac ehangu eu cynnig yn helpu'r sefydliad i ddod yn fwy gwydn.
Enghraifft 2 o brosiect digidol
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban yn cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau ar drawsnewid digidol o fewn sector amgylcheddol yr Alban. Ar hyn o bryd mae'r bartneriaeth yn archwilio amrywiaeth o fentrau gan gynnwys:
- datblygu banc gwybodaeth adnoddau digidol a rennir
- cyfuno buddsoddiad i gefnogi prosiectau digidol ar y cyd
- gwneud asedau digidol cyfunol yn fwy agored
- caniatáu lefelau uwch o fewnwelediad a chydweithio
- harneisio potensial llawn ymgysylltu digidol drwy wyddoniaeth dinasyddion, gan ganolbwyntio ar fwy o gyfranogiad a chynhwysiant