Lansio Cronfa Adfer Diwylliant ar gyfer Treftadaeth gwerth £92miliwn

Lansio Cronfa Adfer Diwylliant ar gyfer Treftadaeth gwerth £92miliwn

Woman working
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer y Gronfa Adfer Diwylliant ar gyfer Treftadaeth, a fydd yn helpu sefydliadau treftadaeth i adfer o effeithiau pandemig coronafeirws (COVID-19). Diweddarwyd diwethaf: 7 Awst 2020.

Mae'r Gronfa Adfer Diwylliant ar gyfer Treftadaeth yn darparu £92m gyda grantiau o £10,000 hyd at £3m ar gael ar gyfer sefydliadau treftadaeth yn Lloegr. Bydd arian yn cael ei ddosbarthu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Historic England ar ran  

Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

The funding pot totals £92m, with £88m available for Culture Recovery Fund for Heritage grants. The additional £4m is being allocated to support schemes for the sector, including £1m each for The National Lottery Heritage Fund's Digital Skills for Heritage and resilience initiatives.

"I lawer o sefydliadau treftadaeth, bydd y cyllid yma yn achubiaeth y maen nhw wedi bod yn aros amdano ac rwy'n eu hannog i wneud cais cyn gynted â phosibl." 

Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol 

Dywed Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "I lawer o sefydliadau treftadaeth, bydd y cyllid yma yn achubiaeth y maen nhw wedi bod yn aros amdano ac rwy'n eu hannog i wneud cais cyn gynted â phosibl." Wrth i bethau newid ychydig, a'r cyhoedd yn dechrau dychwelyd i rai o'n lleoedd poblogaidd, mae gwir werth ein treftadaeth yn fwy amlwg nag erioed. Mae treftadaeth yn hanfodol i greu ffyniant economaidd, i wneud cymunedau lleol yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ac i gefnogi ein hymdeimlad personol o lesiant." Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 17 Awst.  

Peidiwch â cholli cyfle i ymgeisio am arian i adfer eich treftadaeth. Dechreuwch eich cais nawr.  
 
Nid oes ots os ydych eisoes wedi cael neu wedi gwneud cais am arian gennym ni. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth os ydych chi eisoes wedi cael neu wedi gwneud cais am arian gennym ni. Hefyd, nid oes ots os ydych wedi cael cyllid argyfwng gennym ni, fel Cronfa Argyfwng Treftadaeth, neu gyllid argyfwng gan eraill. 

Sut i wneud cais

Rydym wedi gwneud ein proses ymgeisio mor syml â phosibl, ond mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw ymholiadau

Darganfyddwch fwy am ein meini prawf (sy'n cael eu gosod gan DCMS) a'n canllawiau ymgeisio

Y dyddiad cau yw dydd Llun 17 Awst. Bydd penderfyniadau ar ddyfarniadau yn cael eu gwneud o ddiwedd mis Medi. 

Pwy all wneud cais 

Culture Recovery Fund

 

  • unrhyw sefydliadau sy'n rheoli safle treftadaeth neu atyniad i ymwelwyr  
  • perchenogion preifat safle, lleoliad neu atyniad treftadaeth  
  • sefydliadau sy'n rheoli, yn cynnal neu'n gofalu am asedau neu gasgliadau diwylliannol arwyddocaol  
  • busnesau sy'n rhan o'r ecosystem treftadaeth, gan gynnwys cadwraethwyr, contractwyr, arbenigwyr a chyflenwyr  
  • sefydliadau sy'n rheoli asedau neu gasgliadau diwylliannol arwyddocaol 

Gall amgueddfeydd heb eu hachredu wneud cais am gyllid. Dylai amgueddfeydd achrededig a'r rheini sy'n gweithio tuag at achrediad wneud cais i'r gronfa adfer diwylliant drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.  
 
Dysgwch fwy am bwy all wneud cais.

Diogelu'r gorffennol. Ariannu'r dyfodol. 

Mae'r gronfa newydd yma yn rhan o Gronfa Adfer Diwylliant ehangach y Llywodraeth, sy’n werth £1.57 bn, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis yma. Mae cyfrannau ar wahân o'r cyllid yn cael eu dosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, a'r Sefydliad Ffilm Prydeinig ar gyfer ffilm a sinema. 

Mae Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, sydd hefyd yn gweithredu fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn darparu'r Gronfa Adfer Diwylliant ar gyfer treftadaeth ar ran DCMS. 

Dywedodd Ros Kerslake: "Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i helpu'r sector treftadaeth i ddod i'r amlwg o'r argyfwng yma gyda chryfder a gwydnwch fel y gall ffynnu unwaith eto." Ychwanegodd Syr Laurie Magnus, Cadeirydd Historic England: "Bydd yr arian hollbwysig yma’n helpu'r sefydliadau a'r busnesau sy'n gofalu am ein safleoedd hanesyddol lleol. Mae'n gydnabyddiaeth y gall buddsoddi'n uniongyrchol mewn mannau hanesyddol esgor ar fanteision cymdeithasol eang, gan ysbrydoli cymunedau i ymgysylltu â'u gorffennol ac annog creadigrwydd, adfywiad a thwf."

Culture Fund logo

Gwledydd datganoledig 

Mae rhaglen Achub y Llywodraeth y DU gwerth £1.57 bn yn cynnwys £188m ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon (£33m), Yr Alban (£97m) a Chymru (£59m). 

Hyd yma, mae'r rhaglenni ariannu canlynol wedi'u cyhoeddi: 

Rydym am gefnogi adferiad y sector yng Ngogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban ac rydym wrthi'n trafod gyda'n cyd-weithwyr yn y Llywodraethau ynglŷn â hyn. 

Rydym hefyd yn edrych ar y ffordd orau inni ddyrannu arian y Loteri Genedlaethol fel rhan o'n cynlluniau ehangach. 

We are also looking at how best we allocate National Lottery money as part of our wider plans.