Cipolwg cyflym ar ein hymgyrch ddigidol, ynghyd â chyllid newydd

Cipolwg cyflym ar ein hymgyrch ddigidol, ynghyd â chyllid newydd

Tom Steinberg
Mae ein hymgyrch i helpu i feithrin sgiliau digidol yn y sector treftadaeth yn cael ei lansio yn gynnar yn 2020. Dyma gipolwg ar yr hyn sydd wedi'i gynllunio, ynghyd â newyddion am yr arian sydd ar gael i ddarparwyr sgiliau digidol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein bwriad i lansio ymgyrch ddigidol gyda'r nod o helpu sefydliadau treftadaeth i gyflawni eu nodau digidol eu hunain. Mae ychydig fisoedd i fynd eto tan y lansiad swyddogol, ond rydym yn brysur yn gweithio tuag ato drwy sefydlu gwahanol ffrydiau gwaith, neu "cyfrannau ".

Gwahanol gyfrannau o gymorth

Mae pob un o'r cyfrannau wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau treftadaeth i dyfu eu sgiliau digidol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Fodd bynnag, maen nhw’n amrywio o ran natur yn dibynnu ar ble mae sefydliadau yn dechrau, o safbwynt digidol.

I'r sefydliadau llai hynny nad oes ganddyn nhw lawer o brofiad digidol o gwbl, byddwn yn gwneud rhywfaint o allgymorth wyneb yn wyneb i'w helpu i ddeall beth sy'n bosibl, a pham y gallai fod o bwys iddyn nhw. Dyna un gyfran.

Ar gyfer sefydliadau llai sydd eisoes yn defnyddio gwasanaethau digidol, ond a fyddai'n hoffi dysgu mwy mewn gwirionedd, byddwn yn ariannu cymorth datblygu sgiliau am ddim i helpu pobl i wneud eu gêm ddigidol. Byddwn hefyd yn rhoi rhai grantiau yn uniongyrchol i sefydliadau sydd â rhywfaint o sgiliau digidol, ond sy'n awyddus i adeiladu mwy. Mae hyn yn cynrychioli dwy gyfran arall.

Ar gyfer uwch arweinwyr ac ymddiriedolwyr mewn sefydliadau canolig i fawr, byddwn yn cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau arwain digidol gyda'u cyfoedion.

Bydd rhagor o fanylion ar gael pan fyddwn yn lansio'r ymgyrch ddigidol yn ffurfiol yn gynnar yn 2020.

Arian newydd ar gael i ddarparwyr sgiliau digidol

Er mwyn i ni allu cynnig y cymysgedd o gymorth datblygu sgiliau a amlinellir uchod, byddwn yn gwneud rhai grantiau ac yn dyfarnu rhai contractau dros y misoedd nesaf. Fel cyllidwr, nid oes gennym ni ein hunain y gallu i gynorthwyo sefydliadau treftadaeth yn uniongyrchol i ddatblygu eu sgiliau digidol - mae angen i ni ariannu arbenigwyr i gyflawni'r gwaith hwnnw.

Rydym newydd agor ffrwd ariannu tymor cyfyngedig o'r enw Ymgyrch Ddigidol Cyfran neu Tranche 2. Mae'n cynrychioli pot grant o £250,000, ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar gynyddu'r cymorth a ddarperir i sefydliadau treftadaeth sy'n ceisio gwella eu sgiliau digidol eu hunain.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y cais yn yr adran ariannu ar y wefan.

Bydd cyfleoedd pellach i ymgeisio am grantiau neu gontractau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan wrth iddyn nhw ddod yn fyw. Os hoffech gael eich hysbysu drwy e-bost am gyllid a chontractau ar gyfer yr ymgyrch ddigidol yma, anfonwch e-bost at fy nghydweithiwr: Harriet Hall. Byddwn yn defnyddio'r data yma at y diben hwn yn unig ac yna byddwn yn dileu'r cofnodion. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud gyda'ch data personol, ewch i'n Polisi Preifatrwydd.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...