Cyllid Ymgyrch Ddigidol - Cyfran 2

Cyllid Ymgyrch Ddigidol - Cyfran 2

Mae arian ar gael ar gyfer sefydliadau a phartneriaethau sy'n gallu cynyddu cymorth datblygu sgiliau digidol i sefydliadau treftadaeth bach.

Mae Ymgyrch Ddigidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, sy'n cael ei lansio’n gynnar yn 2020. Bydd gan y fenter ffrydiau gwaith - neu gyfrannau amrywiol - pob un â'r nod o dyfu sgiliau digidol yn y sector treftadaeth.

Mae un o'r ffrydiau gwaith hyn, Cyfran 2, yn sicrhau bod grantiau ar gael i sefydliadau neu bartneriaethau a all gynorthwyo sefydliadau treftadaeth bach i gynyddu eu sgiliau digidol. (Bydd ffrydiau gwaith eraill yn ein hymgyrch ddigidol yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiadau diweddarach).  Cyfanswm y cyllid sydd ar gael o dan y gyfran hon yw £250,000, ar draws pob grant. Rydym yn rhagweld mai dim ond nifer fach o grantiau Rydym yn eu defnyddio (byddwn hyd yn oed yn ystyried ceisiadau sengl yn gofyn am y £250,000 cyfan). Faint bynnag o grantiau a wnawn, un ystyriaeth allweddol fydd y ffaith y gall sefydliadau treftadaeth bach ledled y DU elwa. 

Yn gynharach yn 2019, cynhaliwyd proses helaeth gennym i gynllunio'r Ymgyrch Ddigidol, ac yna cynhaliwyd dau friff cyhoeddus ar y cyfrannau a ddeilliodd ohoni. Lluniwyd y gyfran hon gan lawer o gyfraniadau o bob rhan o'r sector. 

 

Sut mae’r broses yn gweithioo

  1. Cyflwynwch Ffurflen Ymholiadau Prosiect (PEF) erbyn 14 Hydref 2019 (dewisol ond argymhellir i chi wneud hyn)
  2. Byddwch yn derbyn adborth ar eich ymholiad erbyn hanner dydd 24 Hydref 2019
  3. Cyflwynwch cais llawn erbyn hanner dydd 18 Tachwedd 2019 

Pwy all ymgeisio

Gallwch wneud cais os ydych yn:

  • Sefydliad dielw 
  • Partneriaeth a arweinir gan sefydliad dielw 

Beth rydym yn chwilio amdano

Rydym yn chwilio am sefydliadau a phartneriaethau sydd â'r sgiliau cywir i helpu sefydliadau treftadaeth llai i feithrin eu sgiliau a'u hyder digidol eu hunain. Rydym hefyd yn chwilio am dystiolaeth bod ymgeiswyr wedi helpu pobl a sefydliadau i ddod yn fwy hyderus yn ddigidol. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio'r cyllid a ddarperir i gyflenwi cymorth sydd ar gael am ddim i sefydliadau treftadaeth.  

Rydym yn chwilio am geisiadau sy'n egluro'n glir sut y byddwch yn darparu’r cefnogaeth yma. Ein huchelgais yw cynyddu nifer y sefydliadau treftadaeth llai yn y DU sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio technolegau digidol pan fo'r sgiliau hynny'n ddefnyddiol ac yn briodol.

Nid ydym yn nodi ymlaen llaw sut y dylai ymgeiswyr gynnig eu cymorth datblygu sgiliau digidol i sefydliadau treftadaeth. Nid ydym yn mynnu bod yn rhaid darparu cymorth datblygu sgiliau mewn math neu nifer penodol o ddosbarthiadau, drwy linell gymorth, mentora wyneb yn wyneb neu unrhyw ddull neu sianel benodol. Mae’r hyblygrwydd yma’n annog ymgeiswyr i ddod â'u profiadau a'u syniadau eu hunain i'r bwrdd ynghylch sut y gall sefydliadau treftadaeth llai, sy’n brinb o hyder digidol, gael cefnogaeth orau i dyfu eu sgiliau digidol eu hunain.

Mae rhai ffactorau pwysig allweddol y bydd angen i ymgeiswyr fod yn ymwybodol ohonyn nhw:

Daearyddiaeth

Unwaith y bydd y grantiau wedi'u cyflwyno'n llawn, mae’n bwysig fod sefydliad treftadaeth mewn unrhyw ran o'r DU yn gallu manteisio ar gymorth datblygu sgiliau digidol. Mae hyn yn golygu, os mai dim ond yr Alban y mae cyrhaeddiad ymgeisydd yn cynnwys, er enghraifft, y byddai angen i ni roi dyfarniad grant pellach i un neu fwy o sefydliadau(au) i gwmpasu rhannau eraill o'r DU. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cwmpasu rhan(nau) o’r DU yn unig, ond dylai cynigwyr fod yn ymwybodol y bydd y rhain o reidrwydd yn dod yn rhan o rwydwaith ehangach.

Lleoliad

Rydym yn disgwyl y bydd ceisiadau yn adlewyrchu'r ffaith bod cwrdd wyneb yn wyneb yn haws mewn rhai rhannau o'r wlad nag eraill, ac y byddwch yn awgrymu dulliau gwahanol o addysgu a dysgu yn dibynnu ar leoliad a pha mor ymarferol yw teithio. 

Cyfeiriadau

Bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o bryd i'w gilydd yn cyfeirio sefydliadau treftadaeth at yr ymgeiswyr llwyddiannus. Yn aml, bydd gan y sefydliadau a gaiff eu hatgyfeirio sgiliau a hyder digidol isel iawn, a byddant yn chwilio am gymorth i feithrin eu sgiliau digidol o sylfaen isel. Yn genedlaethol, rydym yn disgwyl i'r nifer yma o atgyfeiriadau fod o leiaf 60, dros gyfnod o 6-12 mis. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod mewn sefyllfa i ymateb i'r atgyfeiriadau hyn, ac i gynorthwyo'r sefydliadau a atgyfeirir.

Nid oes rhaid i'r cymorth yma gael ei ddarparu drwy fentora 1:1, byddwn yn derbyn ceisiadau a fydd yn mynd â sefydliadau a gyfeiriwyd atynt a'u gwneud yn rhan o grwpiau ehangach neu fentrau datblygu sgiliau. 

Marchnata

Yn ogystal â chynnig datblygiad sgiliau digidol i sefydliadau sy'n cael eu cyfeirio gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, dylai ymgeiswyr egluro sut y byddant yn marchnata'u cymorth am ddim i sefydliadau treftadaeth yn llwyddiannus.

Cynlluniau

Disgwyliwn i bob ymgeisydd ddisgrifio pa fath o gymorth y byddant yn ei ddarparu, pa mor aml ac am ba hyd, yn eu ceisiadau. Nid ydym yn mynnu nac yn disgwyl amserlen fanwl, ond mae arnom angen crynodeb o fathau a nifer o weithgarwch.

Hyd yr ymgyrch

Rydym yn mynnu bod ymgeiswyr yn cyflenwi cymorth datblygu sgiliau dros gyfnod o 12 mis.  Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol efallai na fydd yn bosibl cynnig cefnogaeth lawn yn syth, ac rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau sy'n cynnwys cyfnod datblygu cyn dechrau'r 12 mis, lle bydd dim ond lefel is neu gyfyngedig o gymorth yn cael ei gynnig. Bydd uchafswm hyd y prosiectau hyn yn ddwy flynedd, sy’n cynnwys sicrhau caniatâd i ddechrau, gwaith datblygu, darparu’r 12 mis o hyfforddiant, a gwerthuso.  

Gwerthuso

Rydym yn disgwyl y bydd ymgeiswyr yn cymryd camau i fesur datblygiad sgiliau'r sefydliadau y maent yn eu helpu, ond nid ydym yn disgwyl disgrifiad manwl o hyn mewn ceisiadau. Byddwn yn cael sgyrsiau manwl gydag ymgeiswyr llwyddiannus i sicrhau bod y gwaith o fesur cynnydd, i ryw raddau, yn cael ei safoni i'w gymharu ar draws prosiectau.

Dadansoddi sgiliau cynulleidfaoedd

Disgwyliwn i ymgeiswyr awgrymu pa gymysgedd o sgiliau y maent yn bwriadu ei gynnig i sefydliadau buddiolwyr, ac nid oes angen rhestr o sgiliau penodol i'w haddysgu.  Fodd bynnag, mae gennym un eithriad: lle y bo'n bosibl, dylai ymgeiswyr ddarparu o leiaf rhywfaint o addysg neu hyfforddiant ar y defnydd o ddata cynulleidfa gan sefydliadau treftadaeth. Fodd bynnag, ni ddylai hyn ddominyddu'r datblygiad sgiliau a gynigir.

Cynllunio eich cyfraniad ariannol

Os ydych yn ymgeisio am rhwng £100,000 a £250,000 bydd angen i chi gyfrannu o leiaf 5% o gostau eich prosiect. Rydym yn disgrifio'r cyfraniad yma fel 'cyllid partneriaeth' a does dim rhaid i bopeth fod ar ffurf arian parod. Gweler ein canllawiau ar ymgeisio i gael rhagor o fanylion.

Sut i ymgeisio

Er mwyn ymgeisio, dylai ymgeiswyr ymweld â'n porth ymgeisio a chreu cyfrif.

Rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno Ffurflen Ymholiadau Prosiect (PEF), er nad yw hyn yn orfodol. Os ydych chi'n cyflwyno ymholiad, cofiwch ei gyflwyno erbyn hanner dydd ar 14 Hydref 2019. Mae’r ffurflen yn gyfle i gael adborth ar eich syniadau cyn i chi ysgrifennu cais llawn.

Os ydych yn dewis cyflwyno ymholiad, cymrwch y camau canlynol yn y porth ymgeisio: 

  • Dewiswch 'Cychwyn ymchwiliad i'r prosiect '. Dylech ddewis £10,000-£ 25,0000 fel yr amrediad i wneud cais amdano. Sylwch – nid oes ffurflen gais benodol ar gyfer 'Ymgyrch Ddigidol'.
  • Rhowch yr hashnod #Digital2 ar ddechrau teitl eich prosiect, i'n helpu i adnabod eich cais yn gywir. 
  • Yng nghwestiwn 2A, nid oes rhaid i chi ateb y cwestiwn 'Canolbwyntio ar Dreftadaeth '.
  • Yng nghwestiwn 2A, nid oes rhaid i chi roi tystiolaeth o angen na galw, gan fod y Gronfa wedi nodi hyn yn annibynnol.
  • Gellir gweld rhestr lawn o ganlyniadau dilys y rhaglen yma. Nodwch na ellir ystyried ariannu ceisiadau nad ydynt yn nodi y byddant yn ateb y canlyniad gorfodol. Nid oes rheidrwydd i enwi mwy nag un canlyniad, ac rydym yn eich annog i beidio â hawlio mwy o ganlyniadau nag y credwch y gallwch eu cyflawni.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar sut i gyflwyno cais llawn unwaith y bydd y cyfnod ymholiadau wedi dod i ben, ar ôl 24 Hydref. Bydd manylion ar sut i wneud hynny yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon ar y cam hwnnw.

Os byddwch yn cyflwyno ymholiad, byddwn yn rhoi adborth i chi arno erbyn 24 Hydref 2019, ac ar ôl hynny gallwch gyflwyno cais llawn. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn yw hanner dydd ar 18 Tachwedd 2019. 

Pan fyddwn yn asesu eich cais llawn, byddwn yn ystyried y canlynol: 

  • Eich hanes a'ch profiad o helpu unigolion a sefydliadau i ddatblygu eu sgiliau digidol, yn enwedig o sylfaen isel. 
  • Pa mor gryf y bydd eich prosiect yn cyflawni'r canlyniad gorfodol 
  • Cydlyniad, ansawdd a chyflawnadwyedd eich cynlluniau 
  • Eich gallu i helpu sefydliadau ag anghenion amrywiol mewn lleoliadau amrywiol 
  • Cyfanswm cyffredinol y cymorth yr ydych yn bwriadu ei gynnig 
  • Eich parodrwydd i gydweithio â sefydliadau eraill. 
  • Gwerth am arian cyffredinol

Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel mewnol sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y broses ddyfarnu yma.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rydym yn cadw'r hawl i gynnig swm gwahanol i chi nag yr ydych wedi gofyn amdano er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o gynigwyr yn cynnig gwasanaeth ledled y DU. Byddem yn trafod hyn mewn egwyddor gyda chi cyn y panel penderfynu.

Dyddiadau Allweddol

  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Ymholiadau Prosiect (PEF) yw hanner dydd 14 Hydref 2019 
  • Bydd adborth ar yr ymholiad yn cael ei ddarparu erbyn 24 Hydref 2019
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn yw hanner dydd 18 Tachwedd 2019
  • Cynhelir y panel asesu Ymgyrch Ddigidol ar 5 Rhagfyr 2019 
  • Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu erbyn 16 Rhagfyr 2019

Dogfennau i’ch helpu i ymgeisio