Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £250,000 i £5miliwn

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £250,000 i £5miliwn

Ariannu Grantiau o £250,000 i £5miliwn (gan gynnwys menter treftadaeth)

Pwysig

Mae grantiau'r Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth ar gau i geisiadau newydd tan 2021. Darllenwch fwy am ein rhaglenni ariannu

Pwy all ymgeisio

Gallwch ymgeisio am grant o £250,000 a £5miliwn os ydych yn:

  • sefydliad di-elw
  • partneriaeth dan arweiniad sefydliad di-elw

Ein cyfnodau grant

Mae grantiau dros £250,000 yn cynnwys y camau canlynol:

  • cam datblygu dyma pryd y byddwch yn mireinio ac yn datblygu eich prosiect ymhellach. Sylwch nad yw dyfarniad grant cyfnod datblygu yn gwarantu y byddwch yn derbyn dyfarniad grant cyfnod cyflawni.
  • cam cyflawni os caiff ei ddyfarnu, dyma pryd y byddwch yn rhoi eich cynlluniau datblygu ar waith er mwyn cyflawni eich prosiect

Sut i ymgeisio

Dilynwch y camau isod i ddysgu beth sy'n digwydd wrth ymgeisio am grantiau rhwng £250,000 a £5miliwn.

  1. Darllenwch y dudalen yma

    Dilynwch y camau hyn a darllenwch y dudalen gyfan. Yn gyntaf, bydd angen i chi:

  2. Creu cyfrif

    Er mwyn ymgeisio bydd angen i chi ddefnyddio ein porth ymgeisio, os nad oes gennych gyfrif eto, bydd angen i chi:

  3. Cyflwyno Datganiad o Ddiddodeb (EOI)

    Gofynnwn i bob ymgeisydd am grant dros £250,000 i gwblhau ffurflen Datganiad o Ddiddordeb byr (EOI).

    Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a darparwch i benderfynu a ydych am eich gwahodd i gyflwyno cais cyfnod datblygu ai peidio.

    Ein nod yw ymateb i'ch Datganiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith i'w dderbyn.

    Os byddwn yn penderfynu eich gwahodd i wneud cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf. Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais byddwn yn egluro ein rheswm.

  4. Penderfynu ar bryd i ymgeisio

    Ar gyfer grantiau rhwng £250,000 a £5m, pennir dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais ymlaen llaw er mwyn egluro pa bryd y gwneir penderfyniadau ariannu.

    Os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu, dylech ei gyflwyno drwy ein porth ymgeisio ar-lein erbyn:

    • 19 Tachwedd 2019, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2020
    • 2 Mawrth 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mehefin 2020
    • 1 Mehefin 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Medi 2020
    • 1 Medi 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Rhagfyr 2020
    • 23 Tachwedd 2020, hanner dydd (12pm) i dderbyn penderfyniad erbyn diwedd Mawrth 2021

    Sicrhewch bod dyddiad dechrau eich prosiect yn ddyddiad hwyrach na ddyddiad y penderfyniad.

  5. Cynlluniwch eich cyfraniad ariannol

    Mae’n rhaid i chi gyfrannu o leiaf 5% o'ch costau prosiect am grantiau hyd at £1miliwn ac o leiaf 10% am grantiau o £1miliwn neu fwy.

  6. Darllenwch am fenter treftadaeth

    Mae rhai prosiectau treftadaeth yn ceisio sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Rydym yn galw'r rhain yn brosiectau ‘menter treftadaeth’.

  7. Ymgeisio am grant

    Os ydych wedi cael eich gwahodd i gyflwyno cais, byddwn yn asesu eich cais o fewn 12 wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno. Ar ôl i ni asesu eich prosiect, caiff ei neilltuo i gyfarfod pwyllgor chwarterol ar gyfer penderfyniad ffurfiol.

    Dogfennau i'ch cynorthwyo i ymgeisio

    I fwrw ati gyda'ch cais

    Menwgofnodwch i'n porth ymgeisio