Ray Macfarlane

Ray Macfarlane
Gwasanaethodd Ray Macfarlane fel Cadeirydd Amgueddfeydd ac Orielau’r Alban, y corff datblygu cenedlaethol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau yn Yr Alban.

Ymgymerodd â'r swydd hon ar ôl gwasanaethu saith mlynedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth, menter Llywodraeth Yr Alban sy'n cydnabod ac yn buddsoddi'n ffurfiol mewn casgliadau o arwyddocâd cenedlaethol a gedwir mewn amgueddfeydd ac orielau nad ydynt yn rhai cenedlaethol ar draws Yr Alban.

Mae Ray wedi dal sawl penodiad cyhoeddus yn y sector diwylliant gan gynnwys Ymddiriedolwr a Dirprwy Gadeirydd Orielau Cenedlaethol Yr Alban, Cadeirydd Scottish Screen a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Celfyddydau’r Alban. Bu’n Gadeirydd Bwrdd Cymorth Cyfreithiol Yr Alban o 2016 i 2024.

Graddiodd Ray gyda graddau MA, LLB ac MBA o Brifysgol Glasgow a dechreuodd ei gyrfa fel cyfreithiwr mewn practis preifat. Yna cymerodd swyddi uwch reoli yn Scottish Enterprise, lle bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr, a Banc Yr Alban lle bu'n uwch gyfarwyddwr ac yn Bennaeth y Grŵp Buddsoddi Cymunedol.

Mae Ray yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Hopetoun House ac yn Ymddiriedolwr Tatŵ Milwrol Brenhinol Caeredin.