Ymunwch â’n Pwyllgorau i Gymru a Gogledd Iwerddon

Ymunwch â’n Pwyllgorau i Gymru a Gogledd Iwerddon

Red squirrel in flowers
Rydyn ni’n chwilio am ddau aelod newydd ar gyfer ein Pwyllgor Cymru a Phwyllgor Gogledd Iwerddon. Ymgeisiwch erbyn dydd Gwener 31 Ionawr 2020.

"Mae'n fraint wirioneddol i fod yn cefnogi gwaith sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gymunedau, yr amgylchedd, bywyd gwyllt a llawer mwy o agweddau ar ein treftadaeth."

Mukesh Sharma, Aelod presennol o Bwyllgor Gogledd Iwerddon

Arweiniad i’n harian

Drwy’r cyfle cyffrous yma, byddwch yn ein helpu i lywio cwrs treftadaeth yng Nghymru neu Ogledd Iwerddon.

Old photo with text: Ladies' Section Swimming Baths in Pontypridd Park
Plymiwch i mewn i dreftadaeth gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

 

Byddwch yn defnyddio eich arbenigedd i lywio penderfyniadau ar ein grantiau rhwng £250,000 a £5 miliwn a chadw golwg ar grantiau llai.

Nigel Clubb, Aelod o Bwyllgor Cymru (2014-2020): “"Dw i wedi ei chael hi'n hynod ddiddorol helpu i benderfynu ar y prosiectau a fydd yn trawsnewid treftadaeth i'r cynulleidfaoedd ehangaf posibl. Rhaid i Aelodau'r Pwyllgor ystyried sut orau y gallai buddsoddi mewn treftadaeth fynd i'r afael â phwysau cymdeithasol ac economaidd unigryw y cymunedau yn y gwledydd y maent yn eu goruchwylio."

"Rwyf wedi cael mwy o fewnwelediad i'r berthynas bosibl rhwng pobl a'u treftadaeth nag mewn unrhyw rôl arall."  

Nigel Clubb, Aelod o Bwyllgor Cymru (2014-2020)

 

Gwneud gwahaniaeth i gymunedau a threftadaeth

Byddwch hefyd yn darganfod amrywiaeth o dreftadaeth ryfeddol a diddorol, gan gynnwys tirweddau arbennig, tirnodau eiconig, trysorau lleol ac atgofion cymunedol.

"Rwy'n dysgu'n gyson am ehangder a dyfnder treftadaeth ledled Gogledd Iwerddon."

Angelina Fusco, Aelod presennol o Bwyllgor Gogledd Iwerddon

Young person with VR headset
Pobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect Reimagine Remake Replay                                                                                

 

Rydyn ni’n chwilio am aelodau Pwyllgor sy'n angerddol dros roi pobl wrth galon y dreftadaeth yma.

"Rwy'n ystyried fy hun mor lwcus fy mod wedi cwrdd â chymaint o bobl sy'n gweithio mor galed i rannu eu hangerdd dros dreftadaeth drwy'r prosiectau rydym wedi'u hariannu."

Megan De Silva, Aelod o Bwyllgor Cymru (2013-2020)

Beth rydyn ni’n chwilio amdano

Gwneir penodiadau ar sail sgiliau a galluoedd unigolyn, ond rydym yn ystyried sut y byddai pob ymgeisydd yn ategu sgiliau a gwybodaeth ardal aelodau presennol y pwyllgor.

Ar gyfer y rolau hyn, rydyn ni’n chwilio’n arbennig am y canlynol:

Cymru

  • Profiad o weithio ym maes amrywiaeth a chynhwysiant

  • Gwybodaeth am y sector elusennol a gwirfoddol cymunedol a'i heriau a'i gyfleoedd presennol

  • O leiaf un aelod i fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, hyderus i gynrychioli'r Gronfa yn y cyfryngau yng Nghymru ac mewn digwyddiadau allanol

Gogledd Iwerddon

  • Arbenigedd yn y sector treftadaeth naturiol a bioamrywiaeth

  • Arbenigedd mewn treftadaeth adeiledig neu anniriaethol

  • Profiad o weithio ym maes amrywiaeth a chynhwysiant

Byddwch yn cynrychioli'r Gronfa mewn agoriadau a digwyddiadau, gan weithredu fel eiriolwr ar gyfer gwerth treftadaeth i fywyd modern..

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch fwy am y rolau ac i wneud cais.